Mae athrawon o Gymru benbaladr wedi bod yn dysgu gwersi wrth edrych ar systemau addysg o amgylch y byd.
Rhwng 5 a 10 Chwefror bydd pump o athrawon o ysgolion yn y gorllewin yn teithio draw i Ontario i weld dulliau arloesol y dalaith o ddysgu ieithoedd tramor modern.
Nod Cynllun Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru yw mynd i'r afael â'r gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n astudio ieithoedd tramor modern fel rhan o'u hastudiaethau TGAU. Y gobaith yw y bydd yr ymweliad, a drefnwyd ar y cyd rhwng Gweinyddiaeth Addysg Ontario a British Council Canada, yn helpu'r athrawon i ddatblygu dulliau newydd o ddysgu ieithoedd yn ôl adref yng Nghymru.
Bydd grŵp o saith uwch reolwr o GolegauCymru a phum coleg addysg bellach yn ymweld â Seattle rhwng 27 Chwefror a 3 Mawrth, i weld sut mae colegau yn y ddinas yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael eu paratoi yn llwyddiannus am y byd gwaith. Yn ôl ColegauCymru, gallai'r syniadau a fydd yn cael eu casglu yn ystod yr ymweliad helpu i lywio'r sector addysg bellach yn y dyfodol.
Mae cwricwlwm ysgolion newydd Cymru yn rhoi pwyslais mawr ar sgiliau digidol, a bydd un ar ddeg o athrawon o naw ysgol gynradd yng Nghaerdydd a'r gogledd yn ymweld â Hong Kong ym mis Mawrth er mwyn dysgu sut mae sefydliadau ac ysgolion lleol wedi datblygu sgiliau digdol uwch ymysg eu myfyrwyr. Bu ymweliad blaenorol â Hong Kong yn ddylanwadol o ran datblygu'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ac o ran arwain at ganiatáu i ddisgyblion ddod â ffonau symudol i'r ysgol i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.
Trefnwyd yr ymweliadau gan British Council Cymru ac maent yn cael eu hariannu fel rhan o raglen Cymunedau Dysgu Proffesiynol Rhyngwladol Llywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen Cymunedau Dysgu Proffesiynol Rhyngwladol, sy'n unigryw i Gymru, yn fenter arloesol sy'n galluogi gweithwyr addysg proffesiynol i weithio gyda'i gilydd er mwyn dysgu gan wledydd eraill ac i ddefnyddio'r wybodaeth honno yn eu hysgolion a'u colegau er mwyn gallu rhoi blaenoriaethau addysg Llywodraeth Cymru ar waith yn well.
Mae rhai o brosiectau diweddar eraill y rhaglen yn cynnwys arweinyddiaeth ysgolion ym Malaysia, rhifedd yn India, llythrennedd yng Nghanada, celfyddydau ym maes anghenion addysgol arbennig yn Los Angeles a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad yn Efrog Newydd.