Bydd pedwar athro o Seland Newydd yn teithio o ochr arall y byd i ddarganfod sut y mae Cymru yn darparu addysg ddwyieithog.
Enillodd yr athrawon y cyfle i ymweld â Chymru fel rhan o Ysgoloriaeth Linking Minds, sef gwobr ryngwladol i athrawon ifanc yn Seland Newydd a nodwyd yn arweinwyr y dyfodol ym maes addysg.
Bydd Charlotte Borowski, Jenna Chenery, Vai Mahutariki a Nickie Slater yn hedfan o Seland Newydd ar 27 Medi i dreulio bron i bythefnos yn dysgu am y ffordd y caiff addysg ddwyieithog ei chynllunio a'i chyflwyno yng Nghymru.
Yn ogystal ag ymweld ag ysgolion dwyieithog yng Ngogledd a De Cymru, bydd yr athrawon yn cwrdd â Meri Huws, Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, a chynrychiolwyr o'r Cynulliad Cenedlaethol a CILT Cymru, canolfan ieithoedd genedlaethol Cymru.
Bydd staff o Amgueddfa Genedlaethol Cymru hefyd yn siarad â'r athrawon am y ffordd y mae gwasanaeth yr amgueddfa yn darparu gwasanaeth addysg dwyieithog.
British Council Cymru sy'n cynnal yr ymweliad a dywedodd pennaeth addysg y sefydliad, Chris Lewis: “Mae Cymru a Seland Newydd yn bencampwyr adfywio ieithoedd brodorol ac addysg ddwyieithog. Mae ein hymwelwyr yn edrych ymlaen at ddysgu am addysg Gymraeg ac rydym yn awyddus i glywed am eu gwaith gyda Te Reo Maori, yr iaith Maori."
Ysgolion y byddwn yn ymweld â hwy:
Ysgol Gymraeg Treganna, Caerdydd
Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las, Llansamlet, Abertawe
Ysgol Bro Alun, Gwersyllt, Wrecsam
Ysgol Plas Coch, Wrecsam
Yr Athrawon
Charlotte Borowski, athrawes ysgol gynradd yn Ysgol Papatoetoe South yn Ne Auckland.
Jenna Chenery, athrawes ysgol uwchradd yng Ngholeg Mount Hutt, Methven, Canterbury.
Vai Mahutariki, pennaeth yr adran Maori yng Ngholeg Onslow, Wellington.
Nickie Slater, athrawes ysgol gynradd yn Ysgol Eastern Hutt, ardal Wellington.
Ysgoloriaeth Linking Minds
Mae Ysgoloriaeth Linking Minds wedi bod ar gael ers 2003. Mae hon yn wobr ryngwladol nodedig i athrawon ifanc sydd wedi nodi eu hunain fel arweinwyr y dyfodol, ac mae'n canolbwyntio'n benodol ar athrawon sydd â diddordeb mewn addysg ddwyieithog.
Ariennir yr ysgoloriaeth gan y British Council, Gweinyddiaeth Addysg Seland Newydd, Cyngor Athrawon Seland Newydd a Sefydliad NZ-UK Link, a'i nod yw cydnabod a hyrwyddo dysgu effeithiol drwy ddarparu profiad rhyngwladol i athrawon yn gynnar yn eu gyrfaoedd.
Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gyfleoedd addysgol a chydberthnasau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang.
Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd, ac mae ein 7000 o staff - gan gynnwys 2000 o athrawon - yn gweithio gyda miloedd o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi a miliynau o bobl ifanc bob blwyddyn drwy ddysgu Saesneg, rhannu'r Celfyddydau, a chyflwyno rhaglenni addysg a chymdeithasol.
Rydym yn elusen gofrestredig o fewn y DU sydd wedi'i llywodraethu gan Siarter Frenhinol. Mae grant craidd a ariennir yn gyhoeddus yn llai na 25 y cant o'n trosiant a oedd yn £781m y llynedd. Mae gweddill ein cyllid yn cael ei ennill o wasanaethau y mae cwsmeriaid ledled y byd yn talu amdanynt, drwy gytundebau addysg a datblygu ac o bartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ein holl waith yn anelu at gyflawni ein diben elusennol ac yn cefnogi ffyniant a diogelwch i'r DU ac yn fyd-eang.
Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council drwy
http://twitter.com/bcwales
https://www.facebook.com/BritishCouncilWales