Mae awduron gorau Mecsico yn teithio i Gaerdydd ar gyfer 'O Fecsico i Fae Caerdydd' sef digwyddiad llenyddol gydag awduron mwyaf blaenllaw Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ddydd Gwener 17 Ebrill.
Yn ystod y 'Fiction Fiesta' bydd yr awdur a'r newyddiadurwr o Fecsico, Juan Villoro a'r awdures o Gymru, Francesca Rhydderch yn sgwrsio â'r awdur o Gymru, Owen Sheers.
Bydd y bardd o Fecsico, Pedro Serrano yn siarad â'r bardd o'r Alban, WN Herbert a'r awdur o Gymru, Richard Gwyn.
Mae'r digwyddiad wedi'i drefnu gan gymdeithas awduron Cymru, Wales Pen Cymru a'r British Council gyda Phrifysgol Caerdydd ac mae'n rhan o Flwyddyn Diwylliant Mecsico British Council UK.
Dywedodd Richard Gwyn, cyfarwyddwr ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd a chrëwr Fiction Fiesta, ei fod yn teimlo'n gyffrous am y gymysgedd o awduron sy'n cymryd rhan:
"Mae'n wych ein bod ni yng Nghaerdydd yn gallu clywed gan ddau o awduron mwyaf blaenllaw Mecsico, y naill yn fardd ac yn gyfieithydd dylanwadol, a'r llall yn nofelydd ac yn awdur straeon byrion (yn ogystal â bod yn un o awduron pêl droed, cerddoriaeth roc a sinema mwyaf llwyddiannus America Ladin). Dyma ddigwyddiad cyntaf y bartneriaeth newydd rhwng Fiction Fiesta a Wales PEN Cymru i ddod ag awduron cyffrous o bob cwr o'r byd i rannu eu gwaith â chynulleidfaoedd lleol."
Bellach, yn ei phedwaredd blwyddyn, mae Fiction Fiesta yn ŵyl sy'n ymroddedig i ddathlu ffuglen a barddoniaeth ryngwladol wedi'u cyfieithu ochr yn ochr ag ysgrifennu Cymraeg.
Bydd O Fecsico i Fae Caerdydd yn digwydd yn Ystafell y Preseli, Canolfan Mileniwm Caerdydd rhwng 5pm a 8pm. Mae'n ddigwyddiad am ddim gyda rhoddion wrth y drws i Wales Pen Cymru. Gellir archebu tocynnau ar walespencymru@gmail.com
Enillodd Juan Villoro Wobr Herralde yn 2004 am ei nofel El Testigo (Y Tyst). Dyfernir y wobr yn flynyddol i'r nofel orau yn yr iaith Castileg.
Cafodd nofel gyntaf Francesca Rhydderch, The Rice Paper Diaries, ei chynnwys ar restr hir Gwobr Nofel Gyntaf Orau y Clwb Awduron ac enillodd Wobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2014. Cafodd ei chynnwys hefyd ar restr fer Gwobr Stori Fer Genedlaethol y BBC yn 2014.
Mae Owen Sheers yn fardd, awdur, dramodydd, actor a chyflwynydd teledu o Gymru. Fe yw'r awdur preswyl cyntaf i gael ei benodi gan unrhyw dîm rygbi'r undeb cenedlaethol.
Mae Pedro Serrano wedi cyhoeddi pum casgliad o farddoniaeth ac mae llawer o'i gerddi wedi'u cyfieithu i'r Saesneg.
Daw WN Herbert o Dundee, yn yr Alban. Mae wedi cyhoeddi sawl casgliad o farddoniaeth ac yn ysgrifennu yn Saesneg ac yn nhafodiaith Sgoteg.
Mae Richard Gwyn yn awdur gwaith ffuglen, gwaith ffeithiol a barddoniaeth o Gymru. Mae ei waith wedi'i gyfieithu i lawer o ieithoedd.
Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gyfleoedd addysgol a chydberthnasau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang.
Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd, ac mae ein 8,000 o staff - gan gynnwys 2000 o athrawon - yn gweithio gyda miloedd o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi a miliynau o bobl ifanc bob blwyddyn drwy ddysgu Saesneg, rhannu'r Celfyddydau, a chyflwyno rhaglenni addysg a chymdeithasol.
Rydym yn elusen gofrestredig o fewn y DU sydd wedi'i llywodraethu gan Siarter Frenhinol. Mae grant craidd a ariennir yn gyhoeddus yn llai na 20 y cant o'n trosiant a oedd yn £864m y llynedd. Mae gweddill ein cyllid yn cael ei ennill o wasanaethau y mae cwsmeriaid ledled y byd yn talu amdanynt, drwy gytundebau addysg a datblygu ac o bartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ein holl waith yn anelu at gyflawni ein diben elusennol ac yn cefnogi ffyniant a diogelwch i'r DU ac yn fyd-eang.
Am ragor o wybodaeth ewch i: wales.britishcouncil.org
Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council Cymru drwy
http://twitter.com/bcwales
https://www.facebook.com/BritishCouncilWales