Bydd grŵp o 70 o Felarwsiaid yn ymweld â Chaerdydd am bum diwrnod ar 28 Awst i ddysgu am lywodraeth a chymdeithas Cymru. Dewiswyd Cymru ar gyfer yr ymweliad er mwyn i'r ymwelwyr weld sut mae gwlad ddatganoledig yn gweithio.
Mae'r ymweliad, a gynhelir gan British Council Cymru, yn rhan o raglen Roots and Treetops a ariennir gan yr UE.
Dywedodd pennaeth addysg British Council Wales, Chris Lewis: ''Nod Roots and Treetops yw gwella'r cyswllt rhwng Belarws ac Ewrop a chodi ymwybyddiaeth o'r UE, cymdeithasau Ewropeaidd a'u gwerthoedd, a gwella sgiliau Saesneg y rhai sy'n cymryd rhan hefyd.
''Rydym yn falch y dewisodd y Belarwsiaid ymweld â Chymru i weld gwlad ddatganoledig ar waith ac rydym wedi cael ymateb gwych gan sefydliadau yng Nghymru sy'n awyddus i ddangos sut mae llywodraeth Cymru a'i chymdeithas sifil yn gweithio.''
Bydd yr ymwelwyr o Felarws yn cwrdd â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru ac yn ymweld â'r Cynulliad Cenedlaethol.
Bydd y grŵp hefyd yn ymweld â Chwaraeon Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Chapter i ddysgu am sut y caiff chwaraeon a'r celfyddydau eu cefnogi yng Nghymru. Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Cynnal Cymru, 3SC, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru hefyd yn siarad â'r ymwelwyr am eu sefydliadau a bywyd yng Nghymru.
Bydd uned ffilm o'r British Council yn dilyn hynt y grŵp sy'n gwneud ffilm am raglen Roots and Treetops.
Mae'r sefydliadau canlynol yn helpu i gynnal yr ymweliad gan y Balarwsiaid:
•British Council
•Llywodraeth Cymru
•Cynulliad Cenedlaethol Cymru
•Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru
•Prifysgol Caerdydd
•Amgueddfa Genedlaethol Cymru
•Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
•Chwaraeon Cymru
•Canolfan Gelfyddydau Chapter
•Cynnal Cymru
•3SC
•Canolfan Mileniwm Cymru
•Stadiwm y Mileniwm
Gweriniaeth Belarws
Gwlad yn Nwyrain Ewrop yw Belarws; mae'n cyd-ffinio â Rwsia yn y gogledd-ddwyrain, yr Wcráin yn y de, Gwlad Pwyl yn y gorllewin, a Lithwania a Latfia yn y gogledd-orllewin.
Arlywydd: Alexander Lukashenko
Prifddinas: Minsk (1 filiwn 901,1 o filoedd)
Poblogaeth: 9 miliwn 463,8 o filoedd
Major languages: Belarwseg, Rwseg
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch ag Alison Cummins yn British Council Cymru ar 029 2092 4334 neu alison.cummins@britishcouncil.org
Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gyfleoedd addysgol a chydberthnasau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang.
Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd, ac mae ein 7000 o staff - gan gynnwys 2000 o athrawon - yn gweithio gyda miloedd o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi a miliynau o bobl ifanc bob blwyddyn drwy ddysgu Saesneg, rhannu'r Celfyddydau, a chyflwyno rhaglenni addysg a chymdeithasol.
Rydym yn elusen gofrestredig o fewn y DU sydd wedi'i llywodraethu gan Siarter Frenhinol. Mae grant craidd a ariennir yn gyhoeddus yn llai na 25 y cant o'n trosiant a oedd yn £781m y llynedd. Mae gweddill ein cyllid yn cael ei ennill o wasanaethau y mae cwsmeriaid ledled y byd yn talu amdanynt, drwy gytundebau addysg a datblygu ac o bartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ein holl waith yn anelu at gyflawni ein diben elusennol ac yn cefnogi ffyniant a diogelwch i'r DU ac yn fyd-eang.
Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council drwy
http://twitter.com/bcwales
https://www.facebook.com/BritishCouncilWales