Is-bennaeth Llywodraeth Tsieina, Madame Liu Yandong yn ymweld â Chaerdydd
Bydd Is-bennaeth Llywodraeth Tsieina, Madame Liu Yandong, yn ymweld â Chaerdydd ddiwedd yr wythnos hon (dydd Gwener 18 - dydd Sadwrn 19 Medi).
Bydd yr Is-bennaeth yn cwrdd â'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, ac yn ymweld â Phrifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Bydd hi hefyd yn ymweld ag un o gestyll Cymru - gweithgaredd poblogaidd iawn ymhlith ymwelwyr rhyngwladol.
Ym Mhrifysgol Caerdydd bydd Madame Yandong yn siarad yn Fforwm Caerdydd ar Arloesedd ac Entrepreneuriaeth y DU-Tsieina, lle bydd cynrychiolwyr o brifysgolion ledled y DU a Tsieina yn bresennol.
Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr British Council Cymru: “Mae'r berthynas rhwng Tsieina a'r DU yn ffynnu, gyda chyfleoedd i weithio mewn partneriaeth yn cynyddu, ac rydym yn falch ein bod wedi gallu helpu ein cydweithwyr yn Tsieina i ddod â Madame Liu Yandong a'i dirprwyaeth i Gaerdydd. Rydym yn gobeithio gweld mwy o gysylltiadau'n datblygu rhwng Cymru a Tsieina yn y dyfodol, yn enwedig rhwng ein sectorau addysg uwch.
“Mae'r British Council hefyd yn annog cysylltiadau rhwng ysgolion Prydain a Tsieina drwy'r rhaglen Connecting Classrooms, ac rydym yn bwriadu ymestyn rhaglen Partneriaethau Ysgolion y DU-Tsieina am dair blynedd arall a'i rheoli o'n swyddfa yng Nghaerdydd.”
Mae ymweliad Madame Yandong yn rhan o'r Ddeialog Lefel Uchel Rhwng Pobl y DU a Tsieina - un o dair cyfres o gyfarfodydd sydd, ynghyd ag Uwchgynhadledd y DU-Tsieina o dan arweiniad Prif Weinidog y DU, David Cameron, yn ffurfio'r prif gyswllt gwleidyddol ac economaidd rhwng y DU a Tsieina.
Bu grŵp o weithwyr proffesiynol ym maes y celfyddydau o Tsieina hefyd ar ymweliad â Chaerdydd yr wythnos hon. Cafodd yr ymweliad ei reoli gan dîm Sgiliau Diwylliannol y British Council yng Nghaerdydd. Aeth y grŵp i ymweld ag Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Canolfan y Mileniwm, Canolfan Gelfyddydau Chapter a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Dros y tri degawd diwethaf, mae'r berthynas rhwng y DU a Tsieina wedi ffynnu ar sail cyfnewid masnach, pobl a syniadau. Erbyn hyn, Tsieina yw ail bartner masnachu mwyaf y DU a theithiodd mwy na 300,000 o ddinasyddion Tsieina i'r DU yn 2014. Mae addysg yn gonglfaen i'r berthynas, gyda bron i 90,000 o fyfyrwyr o Tsieina yn astudio yn y DU yn ystod y flwyddyn ysgol ddiwethaf, a mwy na 250 o bartneriaethau addysg uwch y DU ar waith yn Tsieina ar hyn o bryd.
Mae'r Ddeialog Lefel Uchel Rhwng Pobl y DU a Tsieina yn un o dair deialog strategol sydd, ynghyd ag Uwchgynhadledd y DU-Tsieina o dan arweiniad Prif Weinidog y DU, yn ffurfio'r prif gyswllt gwleidyddol ac economaidd rhwng y DU a Tsieina.
Ar 17 Medi 2015, cynhelir trydydd cyfarfod y Ddeialog Lefel Uchel Rhwng Pobl y DU a Tsieina yn Llundain. Mae'r Ddeialog, sy'n cael ei chadeirio ar y cyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Jeremy Hunt, ac Is-bennaeth Llywodraeth Tsieina, Madame Liu Yandong, yn ymdrin ag wyth llinyn cydweithrediad: Addysg, Iechyd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Chwaraeon, Diwylliant a Diwydiannau Creadigol, Twristiaeth, Ieuenctid a Chydweithrediad Is-genedlaethol.
Ar 18 Medi 2015, fel rhan o'r ddeialog ehangach, cynhelir cyfres o ddigwyddiadau ym maes addysg yng Nghaerdydd, a drefnir gan y British Council a Chymdeithas Addysg Tsieina ar gyfer Cyfnewid Rhyngwladol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, Prifysgol Caerdydd, Uned Addysg Uwch Ryngwladol y DU, Cymdeithas y Colegau a Cholegau Cymru.
Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gyfleoedd addysgol a chydberthnasau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang.
Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd, ac mae ein 8,000 o staff - gan gynnwys 2000 o athrawon - yn gweithio gyda miloedd o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi a miliynau o bobl ifanc bob blwyddyn drwy ddysgu Saesneg, rhannu'r Celfyddydau, a chyflwyno rhaglenni addysg a chymdeithasol.
Rydym yn elusen gofrestredig o fewn y DU sydd wedi'i llywodraethu gan Siarter Frenhinol. Mae grant craidd a ariennir yn gyhoeddus yn llai na 20 y cant o'n trosiant a oedd yn £864m y llynedd. Mae gweddill ein cyllid yn cael ei ennill o wasanaethau y mae cwsmeriaid ledled y byd yn talu amdanynt, drwy gytundebau addysg a datblygu ac o bartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ein holl waith yn anelu at gyflawni ein diben elusennol ac yn cefnogi ffyniant a diogelwch i'r DU ac yn fyd-eang.
Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council Cymru drwy
http://twitter.com/bcwales
https://www.facebook.com/BritishCouncilWales