Dydd Gwener 08 Medi 2023

O Gymru i Dde Affrica i Zimbabwe a ‘nôl eto - bydd y gyfres yn cnoi cil ar ar y gwersi a ddysgwyd ar drip cwmpasu diweddar i Affrica Is-Sahar

Mae’r British Council yn lansio cyfres newydd o bodlediadau i helpu gweithwyr creadigol yng Nghymru ddysgu mwy am fyd y celfyddydau yn Affrica Is-Sahara.

Cafodd y podlediad, Breaking Boundaries: From Wales to South Africa to Zimbabwe and Back Again, ei greu gan y Cynhyrchydd Creadigol, Jafar Iqbal a Chynhyrchydd Cynnwys yn y BBC, Hannah Loy. Bydd yn bwrw golwg ar drip cwmpasu diweddar a drefnwyd gan y British Council i Zimbabwe a De Affrica a oedd yn edrych ar feysydd y theatr, llenyddiaeth ac ysgrifennu yn y gwledydd hynny.

Bydd y gyfres yn cynnwys cyfweliadau gyda gweithwyr creadigol nodedig o Gymru gan gynnwys y dramodydd, dramatwrg a chyfarwyddwr theatr, Branwen Davies, sydd newydd addasu drama gomedi wobrwyedig Phoebe Waller-Bridge, Fleabag, i’r Gymraeg; Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni’r Frân Wen, cwmni theatr yng ngogledd Cymru; Patrick McGuinness, academydd, beirniad, nofelydd a bardd sydd hefyd yn Athro Ffrangeg a Llenyddiaeth Gymharol ym Mhrifysgol Rhydychen; a Cat M’Crystal-Fletcher, Ymgynghorydd Marchnata Llyfrau i Rowanvale Books.

Byddant yn bwrw golwg yn ôl ar eu trip gan sôn am eu huchafbwyntiau personol, y gwersi amhrisiadwy a ddysgwyd a sut mae’r profiad wedi newid eu harfer greadigol.

Wrth drafod y podlediad, dywedodd Jafar and Hannah:  "Roedd cael teithio i Affrica Is-Sahara yn brofiad bythgofiadwy i ni, ac mae cynhyrchu’r podlediad yma wedi rhoi cyfle i ni ail-fyw rhai o’r atgofion bendigedig hynny. Roedd yn bleser pur. Hoffem ddiolch i’r British Council am gefnogi’r prosiect, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y gwrandawyr yn mwynhau’r siwrnai cymaint ag y gwnaethom ni.”


Mae’r gyfres yma’n parhau gwaith British Council Cymru yng ngwledydd Affrica Is-Sahara, sydd dros y blynyddoedd diwethaf wedi canolbwyntio ar bwysigrwydd iaith, diwylliant a’r dreftadaeth gyffredin rhwng Cymru ac Affrica Is-Sahara. Mae ein prosiectau wedi cynnwys rhaglen Mynd Yn Ddigidol: Affrica Is-Sahara – Cymru a ddechreuodd yn 2020 gan ddod ag artistiaid at ei gilydd ar gyfer cyfres o fentrau cydweithio a chyfnewid artistig rhyngwladol.

Dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr, British Council Cymru: “Mae’r British Council yn falch iawn i lansio’r gyfres gyffrous yma o bodlediadau a grewyd gan y ddeuawd dalentog Jafar Iqbal (Cynhyrchydd Creadigol) a Hannah Lou (Cynhyrchydd Cynnwys i’r BBC). Dros nifer o flynyddoedd rydyn ni wedi meithrin a datblygu nifer o gysylltiadau creadigol newydd rhwng artistiaid yng Nghymru a De Affrica a Zimbabwe. Wrth i ni edrych tua’r dyfodol a rhagor o brosiectau cyffrous, rydyn ni’n gobeithio y bydd y sgyrsiau hyn yn gyfle i ni gnoi cil a dysgu gwersi traws-ddiwylliannol. Rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd y sgyrsiau a’r gwersi gwerthfawr hyn o Zimbabwe a De Affrica yn ysgogi gweithwyr creadigol yng Nghymru i gyfoethogi eu harfer artistig eu hunain. Rydyn ni’n estyn gwahoddiad i holl weithwyr creadigol Cymru i ymuno â ni ar y siwrnai yma o archwilio ac ysbrydoliaeth.”

Bydd y gyfres bedair pennod yn cael ei lansio ddydd Llun nesaf, 11 Medi, ar wefan British Council Cymru: British Council Cymru - Podlediad 'Breaking Boundaries'

Gwrandewch ar ragflas yma

Mae’r gyfres yma o bodlediadau’n parhau gwaith y British Council o feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a thramor drwy’r celfyddydau, addysg ac addysgu’r iaith Saesneg. Am fwy o wybodaeth am waith y British Council yng Nghymru, ewch i British Council Cymru neu dilynwch ni ar Twitter, Facebook neu Instagram.

Nodiadau i olygyddion

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Claire McAuley, British Council: +44 (7770 934953) E: claire.mcauley@britishcouncil.org

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2021-22 fe wnaethom ni ymgysylltu â 650 miliwn o bobl. 

Rhannu’r dudalen hon