Heddiw, mae British Council Cymru yn cyhoeddi penodi Ruth Cocks yn Gyfarwyddwr newydd. Bydd Ruth yn arwain ein rhaglenni addysg a chelfyddydau rhyngwladol yn ogystal â chynnal a meithrin ein rhwydwaith bresennol o gysylltiadau ledled Cymru. Bydd yn cefnogi ymgysylltiad ym meysydd diwylliant, addysg a diplomyddiaeth chwaraeon drwy rwydwaith y British Council o dros 100 o swyddfeydd rhyngwladol, gan fynd â’r gorau o Gymru i’r byd a dod â’r gorau o’r byd i Gymru.
Bydd Ruth yn symud o Gairo i ymuno â’n tîm yng Nghaerdydd. Mae wedi bod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Gwlad yn yr Aifft ers dwy flynedd a hanner. Yn ystod ei chyfnod yno bu Ruth yn arwain gwaith y British Council ym meysydd y Celfyddydau, Saesneg ac Addysg, gan roi sylw arbennig i faterion yn ymwneud â newid yr hinsawdd wrth arwain gwaith ar gyfer COP27 yn Sharm el Sheikh y llynedd.
Mae Ruth yn teimlo’n gyffrous am ddod adre i Gymru, ac wrth sôn am ei swydd newydd dywedodd:
“Dw i wrth fy modd i gael arwain gwaith y British Council yng Nghymru ac ymuno â’r tîm gwych yma. Dw i wedi bod gyda’r British Council ers 19 mlynedd ac wedi teithio’r byd, dysgu ieithoedd a gwneud cysylltiadau byd-eang. Yn ystod fy amser dramor dw i wedi manteisio ar bob cyfle i ganu clodydd Cymru yn rhyngwladol ac amlygu’r iaith Gymraeg a chwaraeon, addysg a diwylliant Cymru. Dw i’n awyddus i barhau i godi proffil Cymru ar lwyfan y byd”.
Wrth sôn am y cyfleoedd sydd ar y gorwel, ychwanegodd:
“Yn ogystal â’n rhaglen wych ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru sydd wedi hen ennill ei phlwyf bellach, rydyn ni’n teimlo’n gyffrous am lansio prosiectau newydd i gefnogi rhyngwladoli mewn sefydliadau addysg uwch a phellach ac ysgolion yng Nghymru. Yn fwy cyffredinol, byddaf yn edrych ar sut y gallwn feithrin cyfleoedd rhyngwladol drwy fanteisio ar asedau diwylliannol Cymru, fel diplomyddiaeth chwaraeon, arweiniad Cymru ar faterion yn ymwneud â’r hinsawdd, ieithoedd, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd y British Council yn parhau i gefnogi uchelgeisiau rhyngwladol Llywodraeth Cymru gan ganolbwyntio’n arbennig eleni ar Flwyddyn Cymru yn Ffrainc sydd newydd gael ei lansio.
“Fel merch ifanc yn tyfu i fyny yng Nghymru, cefais fanteisio ar gyfleoedd rhyngwladol a agorodd gymaint o ddrysau i fi ac a ehangodd fy ngorwelion. Dyna’r union fath o gyfleoedd mae’r British Council yn eu cynnig, boed hynny drwy ddysgu ieithoedd, partneriaethau rhyngwladol neu ddarparu llwyfan i Gymru ddisgleirio mewn digwyddiadau mawr rhyngwladol.”
Mae gan Ruth gyfoeth o brofiad rhyngwladol mewn gwledydd sy’n wledydd blaenoriaeth i Gymru. Mae wedi arwain ar waith ym meysydd polisi ac addysg yn Ewrop a gwledydd yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica ac ym maes datblygu busnes yn Ne Asia. Yn Nwyrain Asia ac Affganistan, bu Ruth yn sefydlu rhaglenni ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn, Y Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu a’r Undeb Ewropeaidd, gan weithio gyda Myanmar, Fietnam, Tsieina, Y Philipinau ac Indonesia yn arbennig.
Wrth groesawu Ruth i’w swydd newydd fel Cyfarwyddwr, dywedodd Rob Humphreys, Cadeirydd Pwyllgor Cynghori British Council Cymru a Chadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru:
“Rydyn ni’n falch iawn i groesawu Ruth i’r swydd bwysig hon. Mae gan Ruth gysylltiadau hirsefydlog â Chymru, ac mae ganddi enw am gyflawni gwaith rhyngwladol sy’n creu gwerth parhaol yn y rhannau hynny o’r byd lle mae wedi gweithio. Does gen i ddim amheuaeth y bydd hi’n symud gwaith y British Council ymlaen, gan weithio law yn llaw gyda’n partneriaid niferus a Llywodraeth Cymru, ac y bydd yn gwneud cyfraniad arwyddocaol iawn i ryngwladoli addysg a’r celfyddydau yng Nghymru yn y dyfodol.”