Dydd Mercher 31 May 2023

 

Heddiw, roedd y British Council yn lansio rhaglen newydd yr U.E./y D.U. - Cryfach Gyda'n Gilydd ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin.

Mae’r rhaglen ddwy flynedd newydd yma’n cynnig cyfleoedd i bobl ifanc o Gymru a ledled Ewrop i gysylltu, cydweithio, dylanwadu a rhoi newid ar waith gyda’i gilydd ar faterion o ddiddordeb cyffredin.

Nod y rhaglen yw hwyluso cysylltiadau agos a sefydlog rhwng pobl ifanc yn y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd er budd Ewrop gyfan drwy weithio gyda phobl ifanc mewn ysgolion a sefydliadau ieuenctid yn ogystal ag ymgyrchwyr a newyddiadurwyr ifanc.

Fel rhan o’r rhaglen, bydd arweinwyr ifanc Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ac Urdd Gobaith Cymru, yn ymuno â dirprwyaeth ieuenctid o’r Deyrnas Unedig i fynychu Digwyddiad Ieuenctid Ewrop yn Strasbourg ym mis Mehefin eleni, lle byddan nhw’n trafod cysylltiadau’r Undeb Ewropeaidd a llunio syniadau am ddyfodol Ewrop.

Yn y cyfamser, bydd cyfle i ysgolion uwchradd yng Nghymru bartneru gydag ysgolion ledled Ewrop ar brosiectau gweithredu cymdeithasol; a bydd gwahoddiad i newyddiadurwyr ac ymgyrchwyr ifanc ymuno â gweithdai a manteisio ar gyfleoedd hyfforddi a digwyddiadau rhwydweithio.

Mae rhaglen Cryfach Gyda’n Gilydd yn cael ei chyflwyno gan y British Council mewn cydweithrediad â’r Mudiad Ewropeaidd Rhyngwladol (EMI) a’i gyd-ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd.

Wrth sôn am lansio’r rhaglen newydd, dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council: “Rydyn ni wrth ein bodd i lansio rhaglen Cryfach Gyda’n Gilydd yng ngŵyl nodedig Eisteddfod yr Urdd sy’n ymgorffori ysbryd cyfnewid diwylliannol a dathlu amrywiaeth.

“Drwy’r rhaglen yma rydyn ni’n darparu cyfleoedd i gysylltu, cydweithio a chydweithredu, gan rymuso’r genhedlaeth nesaf i ddylanwadu ar y byd a rhoi newid cadarnhaol ar waith gyda’i gilydd. Mae’r fenter yma’n cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i bobl ifanc yng Nghymru ac ar draws Ewrop, a gyda’n gilydd gallwn greu dyfodol cryfach a mwy cynhwysol i bawb.”

Gall pobl ifanc yng Nghymru gymryd rhan mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys:

Rhaglenni i ysgolion: Bydd ysgolion ar draws y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn dod at ei gilydd i amlygu rôl pobl ifanc rhwng 15-18 oed fel ysgogwyr newid, dinasyddion byd-eang gweithredol ac arweinwyr ar lefel leol, genedlaethol ac Ewropeaidd. Bydd cyfle i ysgolion weithio gyda’i gilydd ar brosiectau ymgyrchoedd gweithredu cymdeithasol, a chymryd rhan mewn digwyddiadau, gweithdai a chystadlaethau ar-lein i hwyluso’r gwaith o adeiladu partneriaethau.

Sefydliadau ieuenctid: Bydd arweinwyr ieuenctid a chynrychiolwyr sefydliadau ieuenctid rhwng 18-30 oed ar draws y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn dod at ei gilydd i gydweithio. Bydd hyn yn cynnwys cynnal grwpiau ffocws, digwyddiadau llunio polisi ieuenctid a rhwydweithio, a chreu rhwydwaith o sefydliadau ieuenctid.

Ymgyrchwyr ifanc: Bydd ymgyrchwyr ifanc rhwng 18-30 oed ar draws y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn gweithio gyda’i gilydd drwy weithdai cymunedol, digwyddiadau ar y cyd a mentrau hyfforddi i hybu gwerthoedd sylfaenol cyffredin ac amlygu rôl pobl ifanc yn y broses o greu newid cadarnhaol a hyrwyddo cydlyniad cymdeithasol a heddwch.

Newyddiadurwyr ifanc: Bydd y rhaglen yn darparu cyfleoedd hyfforddi a chyfleoedd rhwydweithio i newyddiadurwyr ifanc ar draws y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. Bydd hyn yn cynnwys gweithdai yn ystod haf 2023, grantiau teithio i ddigwyddiadau ieuenctid o bwys, a chystadleuaeth i newyddiadurwyr a chrewyr cynnwys.

 Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb i gymryd rhan yn rhaglen Cryfach Gyda’n Gilydd ewch i: https://www.britishcouncil.be/programmes/education/stronger-together

Mae rhaglen ‘yr U.E./y D.U. - Cryfach Gyda’n Gilydd’ yn parhau gwaith y British Council o feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a thramor drwy’r celfyddydau, addysg ac addysgu’r iaith Saesneg. Am fwy o wybodaeth am ein gwaith yng Nghymru, ewch i: British Council Cymru a/neu dilynwch ni ar Twitter, Facebook neu Instagram 

Nodiadau i olygyddion

Ymholiadau’r cyfryngau – cysylltwch â:

Claire McAuley, British Council: +44 (0)7542268752 E: Claire.McAuley@britishcouncil.org

Y British Council

British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2020-21 fe wnaethom ni ymgysylltu â 650 miliwn o bobl. 

Rhannu’r dudalen hon