Bydd ein rhaglen grantiau newydd Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant: #IndiaWales yn datblygu gweithiau cydweithredol creadigol traws-ddiwylliannol newydd a fydd yn teithio i wyliau yn India a Chymru.
Mae’r rhaglen dair blynedd newydd yma’n gwahodd artistiaid unigol, sefydliadau celfyddydol a gwyliau yn India a Chymru i gydweithio i greu gwaith artistig newydd a rhannu ymarfer.
Bydd y prosiectau traws-ddiwylliannol yma’n derbyn nawdd i deithio i wyliau yn y ddwy wlad yn ystod ail a thrydedd flwyddyn y rhaglen. Bydd hynny’n sbardun i ddatblygu cyfleoedd a rhwydweithiau rhyngwladol newydd; o fentrau ymchwil a datblygu ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen i deithio i wyliau rhyngwladol yn ystod yr ail a’r drydedd flwyddyn.
Bydd y cynllun newydd yma’n hybu cydweithio cyfartal rhwng India a Chymru er budd y naill a’r llall a galluogi sefydliadau yn y ddwy wlad i rannu gwybodaeth, sgiliau a modelau busnes er mwyn adeiladu sector gwyliau mwy cadarn a chynaliadwy yn y ddwy wlad.
Mae’r cynllun yn cael ei lansio yng Nghaerdydd ar 24 Hydref 2019 yn ystod dathliadau Diwali Llywodraeth Cymru a Chonswliaeth Anrhydeddus India yng Nghymru.
Mae Strategaeth Ryngwladol (drafft) Llywodraeth Cymru yn nodi bod y celfyddydau a threftadaeth yn gyfryngau i feithrin perthnasoedd diwylliannol cryf a bod India’n wlad o bwys ymysg y perthnasoedd rhyngwladol sy’n cael blaenoriaeth.
Mae’r cynllun grantiau newydd yma’n gyfle i adeiladu ar lwyddiant #IndiaWales, rhaglen ariannu ar y cyd rhwng y British Council a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru/Cyngor Celfyddydau Cymru, yn ogystal â manteisio ar gyfraniad Cymru i weithgareddau Blwyddyn Diwylliant y DU ac India yn 2017.
Roedd #IndiaWales yn rhaglen uchelgeisiol a roddodd gefnogaeth i dros 2000 o gyfranogwyr ar draws 13 o brosiectau gwahanol ym meysydd theatr, dawns, ffilm, llenyddiaeth, cerddoriaeth a chelfyddydau gweledol a chymhwysol. Cafodd dros 80,000 o bobl yng Nghymru ac India eu denu i ddigwyddiadau #IndiaWales, ac fe lwyddodd gweithgareddau’r rhaglen i gyrraedd mwy na 4.9 miliwn o bobl drwy gyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Barbara Wickham OBE, Cyfarwyddwr Gwlad, British Council India: “Nod ein gwaith ym maes y celfyddydau yw cryfhau’r sector greadigol rhwng India a Chymru, gan helpu sefydliadau yn y ddwy wlad i feithrin cysylltiadau, creu a chydweithio. Mae gan Gymru etifeddiaeth gyfoethog o gysylltiadau drwy’r celfyddydau gydag India, ac fe fydd rhaglen grantiau newydd Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant: #IndiaCymru yn cryfhau’r cwlwm rhwng y ddwy wlad. Mae gyda ni ffocws cryf ar ddatblygu’r sector gwyliau yn y ddwy wlad ac rydyn ni’n gobeithio y bydd sefydliadau ledled India’n cael eu hannog i geisio am y grant yma".
Dywedodd Eluned Haf, Cyfarwyddwr Celfyddydau Rhyngwladol Cymru: “Mae gan y celfyddydau ran sylfaennol i’w chwarae wrth bontio ein diwylliannau ac uno pobl yma yng Nghymru ac yn y byd tu hwnt. Mae rhaglen #IndiaWales, sy’n cael ei rhedeg gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council, wedi hen ennill ei phlwyf erbyn hyn. Bu’n gyfrwng i gysylltu cynulleidfaoedd ac artistiaid yn y ddwy wlad ar draws ieithoedd, diwylliannau a thraddodiadau gan ddatblygu a chyfoethogi ymarfer artistig, gyrfaoedd ac uchelgais. Rydyn ni wrth ein bodd yn cefnogi’r British Council gyda chynllun newydd Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant: #IndiaWales - cynllun a fydd yn helpu i ddyfnhau perthnasoedd sy’n bodoli eisoes yn ogystal â meithrin partneriaethau newydd".