Dydd Iau 23 Mehefin 2016

 

PARTNERIAETH FAWR NEWYDD I ARCHWILIO'R BROSES O DDYSGU IAITH TRWY'R CELFYDDYDAU YN NE-ORLLEWIN CYMRU

Mae Sefydliad Paul Hamlyn wedi dyfarnu grant i British Council Cymru, a fydd yn gweithio mewn partneriaeth â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ac Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) i dreialu ffyrdd newydd o ddysgu cerddoriaeth ac iaith.  

Bydd y grant hwn, a fydd yn para am flwyddyn ac sy'n werth £111,000, yn galluogi'r consortiwm i gefnogi deg ysgol gynradd yn Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion i ystyried sut y gall dulliau sy'n seiliedig ar gerddoriaeth wella'r broses o addysgu ieithoedd gydag elfennau sy'n seiliedig ar sain, megis odli, ailadrodd a rhythm. Nod y prosiect, sy'n dechrau ym mis Medi 2016, yw helpu i gryfhau'r cysylltiadau rhwng Cymru a Phatagonia, yn dilyn dathliadau 150 mlwyddiant y Wladfa Gymreig, trwy weithio trwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg a Sbaeneg. Bydd y consortiwm hefyd yn ystyried sut y gall dysgu seiliedig ar y celfyddydau helpu plant i bontio'n gadarnhaol o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd. 

Mae'r prosiect peilot yn rhan o Gronfa Datblygu Athrawon gwerth £1 filiwn Sefydliad Paul Hamlyn, sef menter ledled y DU sy'n galluogi gweithwyr proffesiynol ym maes addysgu i fanteisio ar gyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus o ansawdd uchel, ac i gefnogi arferion effeithiol sy'n seiliedig ar y celfyddydau yn yr ystafell ddosbarth gynradd. Bydd saith prosiect peilot yn gweithio gyda thros 70 o ysgolion o bob cwr o bedair gwlad y DU. 

Meddai Moira Sinclair, Prif Weithredwr Sefydliad Paul Hamlyn: 'Credwn fod gan y celfyddydau rôl bwysig i'w chwarae o ran cyfoethogi dysg a phrofiadau addysgol pobl ifanc, yn ogystal â gwella'u cyfleoedd mewn bywyd. Mae ymchwil wedi dangos nad oes gan athrawon weithiau yr wybodaeth, yr hyder, na'r sgiliau i ddarparu dysg effeithiol yn y celfyddydau, a thrwyddynt. Dyna pam yr ydym wedi lansio'r Gronfa Datblygu Athrawon, oherwydd rydym yn awyddus i gefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes addysgu i wireddu eu potensial, ac i ysbrydoli eu disgyblion i ddilyn bywydau creadigol a gwerth chweil.’ 

Meddai Rebecca Gould, Pennaeth Celfyddydau British Council Cymru: 'Gall dysgu seiliedig ar y celfyddydau darfu ar anghydraddoldebau a phatrymau dysgu confensiynol. Rydym yn credu – ac yn gobeithio – y gall dulliau sy'n seiliedig ar y celfyddydau ddarparu cefnogaeth bwerus i blant o gefndiroedd difreintiedig wrth iddynt baratoi ar gyfer yr ysgol uwchradd. 

'Bydd y dulliau arloesol yr ydym yn eu treialu yn cyfrannu at y ddeialog bresennol ynghylch addysgu iaith yng Nghymru. Mae hyn yn amserol iawn ar adeg pan fo'r cwricwlwm newydd yn cael ei ddatblygu, a'r gobaith yw y bydd yn gyfle i gael effaith dymor hwy ar y maes hwn.'

Aeth y British Council, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (BBC NOW) a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS) ati i gydweithio â'i gilydd am y tro cyntaf yn 2015, a hynny’n rhan o Patagonia 150, sef dathliad o'r berthynas ieithyddol a diwylliannol unigryw rhwng Cymru a Phatagonia yn yr Ariannin.

Meddai'r Athro Mererid Hopwood, o PCDDS: 'Mae'r prosiect hwn wedi'i gynllunio i ystyried ffyrdd o hyrwyddo'r dyheadau a bennir mewn polisïau addysg cenedlaethol allweddol, sydd â'r nod o weld Cymru’n dod yn genedl o siaradwyr dwyieithog ac amlieithog. Gan weithio trwy gerddoriaeth iaith, nod y prosiect yw ysbrydoli agweddau cadarnhaol at gaffael iaith yn y sector cynradd.'

Meddai Suzanne Hay, Pennaeth Partneriaethau a Dysgu BBC NOW: 'Yn rhan o daith y Gerddorfa o amgylch De America y llynedd, gwelsom yr effaith gadarnhaol yr oedd dysgu ac ymddiddan trwy gerddoriaeth yn ei chael ar ysgolion ym Mhatagonia – o ran y disgyblion a'r athrawon fel ei gilydd. Yn debyg iawn i gerddoriaeth, mae iaith yn symud mewn modd rhythmig a melodaidd, a thrwy'r prosiect peilot hwn, ein nod yw defnyddio'r cyffelybiaethau hyn i ddatblygu dulliau addysgu arloesol ac, yn ei dro, cynorthwyo datblygiad proffesiynol.' 

Meddai Betsan O’Connor, Rheolwr Gyfarwyddwr ERW: 'Mae hwn yn brosiect unigryw ac arloesol, sy'n ein galluogi i feithrin perthnasoedd â phartneriaid newydd, yn ogystal â rhai presennol. Mae'n gyfle gwych i ddisgyblion yn ERW gael budd o fanteision dysgu iaith trwy gerddoriaeth, ac rwy'n gobeithio gweld y model hwn yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion eraill y flwyddyn nesaf.'

Bydd yr hyn a ddysgwyd o'r prosiectau peilot yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o'r DU yn cael ei gyhoeddi yn ystod haf 2017.

Nodiadau i olygyddion

British Council Cymru a phrosiect 

Mae British Council Cymru yn bodoli i hyrwyddo cydweithrediad rhwng artistiaid ac addysgwyr yn y DU a'u cyfoedion lleol a byd-eang. Bydd yn cydgysylltu'r prosiect peilot cyfan, gan gefnogi partneriaid i gael y gwerth mwyaf o gydweithio â'i gilydd, ac i gyfrannu'n effeithiol at werthusiad peilot ehangach y DU. Bydd hefyd yn hwyluso cyswllt rhwng ysgolion yng Nghymru a Phatagonia, sef y gymuned arall yn y byd lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad yn helaeth. 

Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (BBC NOW) yn un o gerddorfeydd mwyaf amryddawn y DU, gydag ystod amrywiol o waith fel cerddorfa ddarlledu, cerddorfa symffoni genedlaethol Cymru, ac un o chwe Grŵp Perfformio y BBC. Mae ei gwaith gydag ysgolion yn creu cyfleoedd i filoedd o blant ledled Cymru greu cerddoriaeth ochr yn ochr â cherddorion proffesiynol. Bydd BBC NOW yn gweithio gydag ysgolion partner, gan gefnogi staff addysgu a helpu i gydgysylltu gweithgareddau.  Bydd hefyd yn chwarae rôl arweiniol wrth gyd-ddatblygu cynnwys ac adnoddau dysgu creadigol.  

Ynglŷn â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant 

Mae Ysgol Addysg a Chymunedau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS) yn darparu Dysgu a Datblygiad Proffesiynol Parhaus pwrpasol i athrawon, o fyfyrwyr i lefel arweinyddiaeth. Mae'n gweithio gyda thros 400 o ysgolion ledled canolbarth, gorllewin a de Cymru, ac mae'n datblygu arbenigedd ymchwil mewn Ieithoedd a'r Celfyddydau Mynegiannol. Mae PCDDS yn darparu offer ac adnoddau a brofwyd i gefnogi ymchwil athrawon, mewnbwn arbenigol at ddylunio a gweithredu gwerthusiadau, ac arbenigedd mewn addysgu a dysgu ieithoedd. Bydd yn chwarae rôl arweiniol wrth gyd-ddatblygu cynnwys ac adnoddau dysgu creadigol. 

ERW 

Cynghrair o chwe Awdurdod Lleol ledled de-orllewin a chanolbarth Cymru yw ERW (Ein Rhanbarth ar Waith), sydd â strategaeth a chynllun busnes rhanbarthol cytunedig ar gyfer gwella ysgolion. Mae'n rheoli rhwydwaith brwdfrydig iawn o athrawon ac arweinwyr ysgolion. Bydd ERW yn arwain prosesau recriwtio ysgolion, ac yn darparu arbenigedd ym maes dysgu ieithoedd a Dysgu a Datblygiad Proffesiynol Parhaus.    

Sefydliad Paul Hamlyn 

Sefydlwyd Sefydliad Paul Hamlyn gan Paul Hamlyn yn 1987. Pan fu farw yn 2001, gadawodd y rhan fwyaf o'i ystâd i'r Sefydliad, gan greu un o sefydliadau dyrannu grantiau annibynnol mwyaf y DU. 

Ein cenhadaeth yw helpu pobl i oresgyn anfanteision a diffyg cyfleoedd, er mwyn iddynt allu gwireddu eu potensial a byw bywydau creadigol a gwerth chweil. Mae gennym ddiddordeb penodol mewn cefnogi pobl ifanc, a chredwn yn gryf fod gan y celfyddydau rôl bwysig i'w chwarae o ran ein helpu i gyflawni'r genhadaeth hon. 

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gyfleoedd addysgol a chydberthnasau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang. 

Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd, ac mae ein 8,000 o staff - gan gynnwys 2000 o athrawon - yn gweithio gyda miloedd o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi a miliynau o bobl ifanc bob blwyddyn drwy ddysgu Saesneg, rhannu'r Celfyddydau, a chyflwyno rhaglenni addysg a chymdeithasol.

Rydym yn elusen gofrestredig o fewn y DU sydd wedi'i llywodraethu gan Siarter Frenhinol. Mae grant craidd a ariennir yn gyhoeddus yn llai na 20 y cant o'n trosiant a oedd yn £864m y llynedd. Mae gweddill ein cyllid yn cael ei ennill o wasanaethau y mae cwsmeriaid ledled y byd yn talu amdanynt, drwy gytundebau addysg a datblygu ac o bartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ein holl waith yn anelu at gyflawni ein diben elusennol ac yn cefnogi ffyniant a diogelwch i'r DU ac yn fyd-eang.

Am ragor o wybodaeth ewch i: wales.britishcouncil.org

Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council Cymru drwy

http://twitter.com/bcwales

https://www.facebook.com/BritishCouncilWales

Dolenni allanol

Rhannu’r dudalen hon