Dydd Iau 14 Awst 2014

 

Mae cerddorion ac awduron o Gymru yn teithio i Awstralia y mis yma i gymryd rhan yng Ngŵyl Awduron Melbourne i nodi canrif ers geni Dylan Thomas.

Bydd yr awduron o Gymru, Rachel Trezise a John Williams, yn siarad am lenyddiaeth gyfoes o Gymru a gwaddol Dylan. Byddent hefyd yn cael eu hymuno gan Gareth Bonello a Richard James am ddwy awr o gerddoriaeth, llenyddiaeth a ffilm wedi dylanwadu gan Dylan Thomas, o dan y teitl ‘In Chapters’, cyfuniad celfyddydau a ddechreuwyd gan Richard a John sydd yn cynnal digwyddiadau multi-media. 

Bydd y cerddorion ac ysgrifenwyr Cymraeg hefyd yn cydweithio gyda 2 ysgrifennwr newydd a 2 grŵp o gerddorion o Awstralia, wrth greu gwaith newydd o dan ddylanwad Dylan Thomas.

Mae'r digwyddiadau yn rhan o ‘Starless and Bible Black’, sef dathliad rhyngwladol o waith Dylan Thomas.

Dywedodd Dan Thomas, pennaeth y celfyddydau yn British Council Cymru, sy'n arwain rhaglen Starless and Bible Black: ''Rydym yn falch o nodi canmlwyddiant Dylan Thomas ac o godi proffil talent creadigol o Gymru yn yr Ŵyl. Bydd ein digwyddiadau hefyd yn cynnwys dangos dwy ffilm o Gymru ar y sgrîn fawr yn Federation Square ym Melbourne sef: Sleep Furiously, ffilm ddogfen lwyddiannus Gideon Koppel’ am fywyd ym mhentref Trefeurig yng Ngheredigion a The Colour of Saying gan Richard James a'r artist Anthony Shapland, sy'n archwilio agweddau lleisiol, telynegol, rhythmig a llenyddol ar fyd Dylan Thomas yng Ngorllewin Cymru.”

Dywedodd cyfarwyddwraig artistig Gŵyl Awduron Melbourne, Lisa Dempster: “Mae gwaith Dylan Thomas wedi cael effaith barhaol ac mae Gŵyl Awduron Melbourne yn falch o gael ymuno â chymuned lenyddol ryngwladol i ddathlu ei waddol. 

“Mae'r dathliad rhyngwladol Dylan Thomas 100 yn creu'r cyfle perffaith i Ŵyl Awduron Melbourne archwilio ysgrifennu Cymreig cyfoes hefyd, ac rydym yn edrych ymlaen at ddod â lleisiau cyffrous o'r rhan ddiddorol honno o'r byd i gysylltu ag awduron a darllenwyr o Awstralia.'' 

Croesawodd Helen O’Neil, cyfarwyddwraig British Council Australia, ymweliad Cymru â'r Ŵyl hefyd: ''Mae Dylan Thomas wedi gwreiddio barddoniaeth a drama o Gymru ym mhrofiad diwylliannol Awstralia, yn bennaf oherwydd bod ei ddrama i leisiau, Under Milkwood, wedi llwyddo i gyrraedd cymaint o bobl ar y llwyfan, mewn recordiadau ac mewn print.

“Ym mlwyddyn ei ganmlwyddiant mae cyfle gwych i ymgysylltu â chenhedlaeth newydd o artistiaid o Gymru sydd wedi adeiladu ar ei waddol ac sydd wedi cysylltu Cymru a'r Cymry â'r byd drwy ysgrifennu, cerddoriaeth, gwneud ffilm a pherfformio.''

Bydd Gŵyl Awduron Melbourne yn digwydd rhwng 21 a 31 Awst. Bydd yr ŵyl yn denu cynulleidfa o dros 40,000 ac yn cynnwys 300 o'r awduron gorau o bedwar ban y byd.

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau i olygyddion

Rachel Tresize: fe'i ganed yng Nghwmparc, Rhondda, enillydd gwobr Dylan Thomas, mae ei llyfrau'n cynnwys: In and Out of the Goldfish Bowl, Dial M for Merthyr a Cosmic Latte.   

John Williams: awdur o Gaerdydd a ysgrifennodd Bloody Valentine, Cardiff Dead a The Cardiff Trilogy.

Richard James: gitarydd, basydd, a chyfansoddwr caneuon a chanwr o Sir Benfro, sylfaenydd y band Gorky’s Zygotic Mynci.  

Gareth Bonello: cyfansoddwr caneuon o Gaerdydd sy'n ysgrifennu ac yn recordio dan yr enw llwyfan The Gentle Good.

Mae Starless and Bible Black: yn rhan o Ŵyl Dylan Thomas 100 ac mae British Council Cymru yn cydweithio â British Council Awstralia a Llywodraeth Cymru a Gŵyl Awduron Melbourne i ddarparu'r ymddangosiadau o Gymru yn yr ŵyl.

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gyfleoedd addysgol a chydberthnasau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang. 

Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd, ac mae ein 7000 o staff - gan gynnwys 2000 o athrawon - yn gweithio gyda miloedd o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi a miliynau o bobl ifanc bob blwyddyn drwy ddysgu Saesneg, rhannu'r Celfyddydau, a chyflwyno rhaglenni addysg a chymdeithasol.

Rydym yn elusen gofrestredig o fewn y DU sydd wedi'i llywodraethu gan Siarter Frenhinol. Mae grant craidd a ariennir yn gyhoeddus yn llai na 25 y cant o'n trosiant a oedd yn £781m y llynedd. Mae gweddill ein cyllid yn cael ei ennill o wasanaethau y mae cwsmeriaid ledled y byd yn talu amdanynt, drwy gytundebau addysg a datblygu ac o bartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ein holl waith yn anelu at gyflawni ein diben elusennol ac yn cefnogi ffyniant a diogelwch i'r DU ac yn fyd-eang.

Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council drwy

http://twitter.com/bcwales

https://www.facebook.com/BritishCouncilWales

 

Rhannu’r dudalen hon