Mae’r British Council wedi lansio Cysylltu Arweinwyr y Dyfodol, sef rhaglen sy’n chwilio am unigolion eithriadol o bob cwr o Brydain a’r byd – er mwyn trafod y materion byd-eang mwyaf allweddol i wynebu’r genhedlaeth nesaf, ac rydym wedi estyn gwahoddiad i bobl ifanc o Gymru gymryd rhan.
Bydd y cyfle newydd hwn yn cynnig cyfleoedd i’r rheini sydd rhwng 18 a 35 oed ddysgu a datblygu sgiliau arweinyddiaeth, er mwyn eu harfogi â’r sgiliau fydd eu hangen arnynt i droi syniadau arloesol yn argymhellion polisi gwirioneddol. Penllanw’r gwaith hwn fydd cynhadledd yn San Steffan.
Bydd pawb fydd yn cymryd rhan yn cwrdd â phenaethiaid cyrff anllywodraethol, llunwyr polisi ac Aelodau Seneddol ac yn dysgu ganddynt hwy, yn ogystal â chydweithio â chyd-gynadleddwyr o’r Aifft, India, Indonesia, Kenya, Mecsico, Moroco, Nigeria, Pacistan, Tiwnisia a gweddill gwledydd Prydain.
Bydd ymgeiswyr fydd yn cyrraedd y rhestr fer yng Nghymru yn cyflwyno’u syniadau polisi i banel o arbenigwyr yn y Senedd ar 15 Mehefin. Bydd dau enillydd o’r rownd hon yn mynd i Lundain ym mis Hydref a byddant yn cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi ddwys ar bolisi ac arweinyddiaeth ac yn ymuno â rhwydwaith arweinyddiaeth byd-eang a fydd yn tyfu bob blwyddyn.
Dylai unrhyw un a hoffai gymryd rhan gyflwyno ffurflen gais ar-lein cyn dydd Sul 14 Mai 2017 https://wales.britishcouncil.org/. Bydd gofyn iddynt amlinellu eu syniadau polisi unigryw a pham eu bod o’r farn y byddant yn gwneud arweinydd byd-eang llwyddiannus. Rhaid iddynt fod yn rhydd i fynychu’r digwyddiad rhestr fer yn y Senedd ar noson 15 Mehefin 2017.
Yn ôl Cyfarwyddwr British Council Cymru, Jenny Scott: “Mae byd-olwg eang yn hanfodol i arweinwyr y dyfodol yng Nghymru, os ydynt am oresgyn yr heriau fydd yn eu hwynebu.
“Drwy Gysylltu Arweinwyr y Dyfodol bydd y British Council yn helpu cenhedlaeth newydd i ddeall datblygiadau polisi ymarferol drwy eu cysylltu ag arweinwyr heddiw, Bydd y rhaglen yn gymorth iddynt ddatblygu’r sgiliau a’r cysylltiadau rhyngwladol fydd eu hangen arnynt i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu gwledydd eu hunain.”
Ymunwch â’r sgwrs ar-lein drwy ddefnyddio #CysylltuArweinwyryDyfodol. Am fwy o wybodaeth ewch i https://wales.britishcouncil.org/ .