Rydym yn gofyn i dimau pêl-droed, cefnogwyr ac ysgolion yng Nghymru i gofio'r Rhyfel Byd Cyntaf yn ystod 'Wythnos Cofio Cyfraniad Pêl-droed' a helpu i greu cofnod ffotograffig unigryw o bêl-droed ganrif ar ôl Cadoediad y Nadolig.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymuno â British Council Cymru er mwyn helpu chwaraewyr a chefnogwyr i gofio'r hyn a ddigwyddodd ar Ddydd Nadolig 1914 yn Fflandrys, Gwlad Belg, pan roddodd milwyr o ddwy ochr y rhyfel eu harfau i'r neilltu er mwyn dathlu'r Nadolig - daeth rhai hyd yn oed at ei gilydd i chwarae pêl-droed.
Caiff ymgyrch Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei harwain gan dimau Uwch Gynghrair Cymru Corbett Sports a bydd y Gymdeithas hefyd yn estyn gwahoddiad i bob cynghrair y maent yn gysylltiedig â hwy i gymryd rhan.
Yn ystod Wythnos Cofio Cyfraniad Pêl-droed, 6 - 14 Rhagfyr, rydym yn gofyn i chwaraewyr dynnu llun grŵp gyda'i gilydd er mwyn dangos parch tuag at y rheini a chwaraeodd y gêm yn ystod Cadoediad y Nadolig 1914. Wedyn, gall y timau lwytho eu lluniau ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnod #FootballRemembers, a chaiff y lluniau eu huwchlwytho'n awtomatig i wefan benodedig drwy'r cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Gallwch lanlwytho lluniau o unrhyw gêm bêl-droed, o ysgolion i gemau Cynghrair Sul, gornestau pump-bob-ochr i gemau yn yr ardd gefn. Bydd y wefan yn cofnodi moment o bêl-droed yn 2014, ganrif ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, a chaiff ei gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydym yn gobeithio gweld llawer o luniau o Gymru wedi'u lanlwytho ar y wefan i nodi'r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae Cadoediad y Nadolig yn stori deimladwy sy'n ein hatgoffa o bŵer chwaraeon i groesi ffiniau a meithrin cydberthnasau rhyngwladol."
Dywedodd Gwyn Derfel, Ysgrifennydd Uwch Gynghrair Cymru Corbett Sports: "Ar 17 Tachwedd, bu carfan ryngwladol Cymru yn ymweld â Mynwent Artillery Wood ym mhentref Boezinge ger Ypres i dalu eu teyrnged. Mae 1307 o filwyr wedi'u claddu yno, gyda nifer ohonynt yn Gymry.
"Mae'n bleser gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru fod yn rhan o brosiect Cofio Cyfraniad Pêl-droed, a chredir fod nifer o Gymry wedi bod yn rhan o'r gêm bêl-droed hanesyddol.
"Mae hanesion lleol yn Ypres yn awgrymu mai Cymro a ddechreuodd Cadoediad y Nadolig yn 1914; daliodd William 'Blackwood' Jones gopi o'r papur newydd lleol o Bont-y-pŵl fel baner wen i ddechrau'r cyfan, a chwaraeodd catrawd o Gymru yn y gêm."