Mae dwy athrawes, Anna ap Robert a'i nith Lleucu Haf, yn rhannu mwy nag angerdd am ddysgu Cymraeg - maen nhw hefyd ar fin rhannu antur 8,000 o filltiroedd o adref, ym Mhatagonia.
Bydd y fodryb a'r nith yn dysgu mewn ysgolion yn yr Ariannin drwy Gynllun yr Iaith Gymraeg sy'n cael ei redeg gan y British Council.
Yn ogystal, bydd Eleanor, merch saith oed Lleucu, yn ymuno â nhw ar eu hantur i Dde America.
Cafodd Cynllun yr Iaith Gymraeg ei sefydlu 1997 a'i nod yw helpu i hybu a datblygu'r Gymraeg ar draws y rhanbarth. Ar hyn o bryd, mae dros 6000 o siaradwyr Cymraeg ym Mhatagonia. Bob blwyddyn, mae'r British Council yn anfon swyddogion datblygu i helpu gyda'r gwaith o ddysgu Cymraeg a hyrwyddo'r iaith yn y cymunedau lle siaredir Cymraeg - drwy gyfuniad o ddysgu ffurfiol a gweithgareddau cymunedol.
Gwreiddiwyd y Gymraeg yn yr Ariannin dros 150 o flynyddoedd yn ôl gan deuluoedd o Gymry a fudodd ar draws y Môr Iwerydd i sefydlu gwladfa newydd yn Nyffryn Chubut yn 1865. Erbyn heddiw, mae tua 50,000 o drigolion Patagonia o dras Gymreig.
Bydd Lleucu, sy'n athrawes dosbarth derbyn yn Ysgol Penrhyncoch yn Aberystwyth, yn dychwelyd i Batagonia eleni. Bu'n dysgu yn y Gaiman yn 2023, ond y tro yma bydd yn teithio i ran wahanol o Batagonia - rhanbarth gwyrddach yr Andes. Mae ganddi radd mewn Ieithoedd Ewropeaidd a phrofiad o ddysgu Ffrangeg ac Eidaleg, felly mae ieithoedd wrth galon ei harfer dysgu. "Dw i wrth fy modd yn gweithio gyda phlant ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn datblygiad ieithyddol," meddai. "Dw i'n edrych ymlaen at ddychwelyd a helpu'r plant i ddatblygu eu sgiliau drwy gael eu trochi yn yr iaith."
Bydd merch Lleucu, Eleanor, sy'n saith oed, yn ymuno â nhw ar y daith gan ddychwelyd i Batagonia - lle bu'n byw o'r blaen a lle y dysgodd Sbaeneg. "Mae hi yn yr oedran perffaith ar gyfer antur fel hon," meddai Lleucu. "Mae gallu rhoi'r anrheg o iaith arall i'ch plentyn yn beth arbennig. Mae'r cyfle i wella fy Sbaeneg yn rheswm mawr dros eisiau dychwelyd, a rhoi cyfle i Eleanor gynnal ei sgiliau hefyd."
Mae disgyblion Lleucu yn Ysgol Penrhyncoch yn gyffrous am antur eu hathrawes, er eu bod yn drist ei bod yn gadael yr ysgol am ychydig. Fel rhan o thema 'Ein Byd Gwyrdd' yn yr ysgol maen nhw wedi bod yn dysgu am Batagonia a'r Ariannin. Maen nhw'n adnabod baner y wlad and yn gyffrous o wybod y bydd eu hathrawes yn byw'n agos at bengwiniaid, fflamingos a morfilod.
Bydd Anna, sydd hefyd o Aberystwyth, yn dod â'i phrofiad o feysydd y theatr ac addysg Gymraeg i'w rôl ddysgu newydd. Bu'n gweithio fel swyddog ieuenctid ym maes theatr gymunedol yn Theatr Felinfach am 17 mlynedd ac yna fel Ymgynghorydd Iaith Gymraeg yng Ngholeg Ceredigion. Bellach mae'n athrawes Cymraeg i Oedolion.
Wrth sôn am y cynllun, dywedodd: "Pan weles i'r hysbyseb swydd, meddyliais mai dyma'r amser perffaith i fynd amdani. Rwy wedi bod eisiau mynd i Batagonia erioed, ond mae arian wedi bod yn dynn. Ond gan fod gen i gysylltiadau teuluol yno - gan gynnwys trydydd cefnder a gwrddais yn yr Eisteddfod y llynedd - roedd hwn yn teimlo fel y cyfle perffaith."
Doedd y fodryb a'r nith ddim yn gwybod fod y naill a'r llall wedi ceisio am y swyddi tan ychydig cyn iddynt fynd am eu cyfweliadau. Er y byddant yn teithio gyda'i gilydd i Buenos Aires, byddant yn gweithio mewn rhannau gwahanol o Batagonia - bron 200 milltir ar wahân. Bydd Anna'n dysgu pobl ifanc ac oedolion yn y Gaiman, tra bydd Lleucu'n dysgu plant iau yn Esquel.
Mae Anna, a gafodd ei derbyn i'r Orsedd yn yr Eisteddfod y llynedd am ei gwaith yn y gymuned yn hybu'r Gymraeg, yn edrych ymlaen at fod yn brysur gyda'r gweithgareddau cymunedol yn Chubut ac am ddefnyddio ei chefndir ym myd y theatr wrth ddysgu. "Rwy'n gobeithio dysgu Cymraeg drwy weithdai dawns a drama, a cherddoriaeth a chanu. Rwy eisiau rhannu fy angerdd dros iaith a diwylliant Cymru gyda phobl Patagonia a chyflwyno profiad o'r iaith y bydd pobl yn ei fwynhau - dyna sy'n fy ngyrru i."
Tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, mae'r ddwy athrawes yn awyddus i drochi eu hunain ym mywyd y gymuned leol. I Anna, bydd hynny'n golygu anturio a darganfod mwy am yr ardal a rhannu ei hangerdd am ddawns, cerddoriaeth a theatr Gymreig. Mae Lleucu'n edrych ymlaen at ail-gysylltu â ffrindiau o'i hymweliad blaenorol a chyflwyno Eleanor i brofiadau newydd yn ardal yr Andes.
"Mae'r profiad yma'n cyfuno popeth dw i'n ei garu - cyfnewid diwylliannol/ieithyddol a dysgu." meddai Lleucu. "Mae'n brofiad unigryw y byddaf yn ei gario nôl i fy ngwaith dysgu yng Nghymru."
Wrth sôn am y rhaglen, dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Mae Cynllun yr Iaith Gymraeg wedi bod yn meithrin cysylltiadau rhwng Cymru a Phatagonia am bron i dri deg mlynedd. Ac eleni, mae'n ffantastig i weld tair cenhedlaeth yn teithio allan yno gyda'i gilydd. Mae Anna a Lleucu yn dod â phrofiadau gwahanol i'w rhannu gyda'u dysgwyr - o theatr a dawns i ddysgu mewn ysgol gynradd. I Eleanor, yn saith oed, bydd y cyfle yma i ddychwelyd i Batagonia yn brofiad ffurfiannol bendigedig ac mae'n dangos sut y gall y rhaglen feithrin cysylltiadau rhwng cymunedau, gwledydd a hyd yn oed cenedlaethau!"
Mae Cynllun yr Iaith Gymraeg yn parhau gwaith y British Council o feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a thramor drwy'r celfyddydau, addysg ac a dysgu ieithoedd.
Bydd yr alwad nesaf i athrawon deithio i Batagonia ar gyfer Cynllun Iaith Gymraeg 2026 yn agor ym mis Gorffennaf.
Am fwy o wybodaeth am waith y British Council yng Nghymru ewch i British Council Cymru neu dilynwch ni ar X, Facebook neu Instagram.