Mae'r cyfarwyddwr a'r cynhyrchydd theatr, Rebecca Gould, wedi ymuno â British Council Cymru fel pennaeth y celfyddydau.
Mae Rebecca'n ymuno â'r British Council o Theatr Soho, Llundain, lle'r oedd yn gyfarwyddwr Creadigol, yn arbenigo mewn datblygu dramâu newydd, addysg a phrosiectau allgymorth. Mae hefyd wedi gweithio fel Artist Addysgol Cysylltiol i'r Royal Shakespeare Company, gan arwain diwrnodau datblygu athrawon a gweithio gydag ysgolion yn y DU a thramor; yn fwyaf diweddar yn India, yr Ariannin ac Efrog Newydd.
Mae hi'n ymwneud â Gŵyl Theatr Awyr Agored Caerdydd a gynhyrchir gan Theatr Everyman yng Ngherddi Sophia; cyfarwyddodd y ddrama Shakespeare am y ddwy flynedd ddiwethaf ac eleni bydd yn cyfarwyddo ‘As You Like It’.
Daw Rebecca o Gaerdydd yn wreiddiol a graddiodd mewn Saesneg ym Mhrifysgol De Cymru. Tra'n dal yn yr ysgol roedd yn aelod o theatrau ieuenctid Everyman a Neuadd Llanofer. Ar ôl gadael y brifysgol, treuliodd amser yn gweithio yn Theatr y Sherman a'r Theatr Newydd, yn dysgu am y diwydiant theatr o'r gwaelod i fyny, gan weithio fel tywysydd ac yn y swyddfa docynnau. Yn sgîl derbyn bwrsariaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, cafodd y cyfle i hyfforddi fel cyfarwyddwr theatr gyda Chwmni Theatr Made in Wales, lle gweithiodd yn ddiweddarach fel Cyfarwyddwr Cysylltiol.
Yn ei rôl newydd gyda'r British Council bydd yn datblygu a gweithredu strategaeth ar gyfer gwaith celfyddydau a diwydiannau creadigol y British Council yng Nghymru. Bydd yn cydweithio'n agos gyda sefydliadau celfyddydau'r wlad i ddatblygu rhaglen ryngwladol, a fydd yn hyrwyddo diwylliant Cymreig dramor ac yn meithrin partneriaethau rhyngwladol.
Dywedodd Rebecca: “Gwn fod cyfoeth o waith creadigol o'r radd flaenaf yn mynd yn ei flaen yng Nghymru ac rwy'n edrych ymlaen at helpu i fynd ag ef at y gynulleidfa ryngwladol ehangach y mae'n ei haeddu.”
Mae gan waith Rebecca ddimensiwn rhyngwladol cryf ac mae wedi gweithio'n helaeth ledled India ar gyfres o brosiectau theatr a dysgu. Mae hi hefyd wedi cynhyrchu a chyfarwyddo cynyrchiadau, gwyliau a chynadleddau yn Hong Kong, Ghana, De Affrica ac Wganda. Cydsefydlodd y cwmni theatr a'r ymgynghoriaeth celfyddydau Tinderbox Alley gyda'r cyfarwyddwr theatr Jeff Teare yn 2002 ac mae hi wedi gweithio'n agos gyda’r Wellcome Trust i feithrin ymwybyddiaeth ehangach drwy theatr o ddatblygiadau ym maes biofeddygaeth.
Dywedodd Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: “Rydym yn falch o groesawu Rebecca i'r tîm. Mae ei phrofiad rhyngwladol a’i gwaith gyda phobl ifanc yn ei gwneud yn ddewis perffaith ar gyfer y British Council. Mae hi'n wyneb cyfarwydd i nifer o'n partneriaid celfyddydau ac rwy'n siŵr y bydd yn ein helpu i atgyfnerthu ein partneriaethau yng Nghymru ac yn rhyngwladol.”