Eleni, bydd llenorion o Gymru yn cymryd rhan yn Seminar Llenyddiaeth y British Council sy’n cael ei chynnal fel rhan o ŵyl lenyddiaeth Literaturhaus Stuttgart yn yr Almaen.
Dyma’r 36ain tro i’r seminar flynyddol yma gael ei chynnal, ac eleni mae’n canolbwyntio ar lenyddiaeth o Gymru.
Bydd ‘Ni yw Cymru: cyfoeth o leisiau, tirweddau a straeon’ yn cyflwyno chwech o awduron o Gymru sydd wedi ennill eu plwyf yn ogystal â chwech o awduron sy’n dechrau gwneud eu marc yng Nghymru a thu hwnt.
Mae’r seminar yn gyfle i ddilynwyr llenyddiaeth brwd, cyhoeddwyr, cyfieithwyr, academyddion, myfyrwyr a newyddiadurwyr o bob cwr o Ewrop i glywed a dysgu rhagor am ddiwylliant llenyddol Cymru a threulio amser yng nghwmni awduron o Gymru a’u gwaith.
Mae arlwy’r seminar yn cynnwys darlleniadau, cyflwyniadau gan yr awduron, trafodaethau panel a gweithdai dan arweiniad yr awduron. Bydd cyfle i aelodau’r gynulleidfa gwrdd â’r awduron mewn grwpiau llai yn ystod y gwahanol weithdai.
Mae’r seminar yn cael ei chynnal ar-lein rhwng 4 – 6 Mawrth. Mae’n agored i bawb a gallwch gofrestru am ddim.
Mae’r seminar yn rhan o dymor Cymru yn yr Almaen 2021 – cyfres o weithgareddau dan arweiniad Llywodraeth Cymru yn arddangos ffrwyth partneriaethau rhwng yr Almaen a Chymru ym meysydd masnach, gwyddoniaeth ac arloesi a diwylliant.
Yr awduron sy’n cymryd rhan yw: Yr Athro Richard Gwyn, Zoë Brigley, Manon Steffan Ros a’r Athro Charlotte Williams OBE. Bydd y seminar yn cael ei chadeirio gan Francesca Rhydderch a Niall Griffiths – y ddau ohonynt yn gyn enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru.
Bydd gwaith gan awduron newydd o Gymru, Joao Morais, Richard Owain Roberts, Hanan Issa, Eluned Gramich, Alex Wharton ac Ifan Morgan Jones, yn cael ei gyflwyno drwy ffilmiau a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y seminar, ac fe fyddant yn cymryd rhan yn y trafodaethau panel hefyd.
Yn ogystal, bydd y seminar yn dangos Plethu/Weave - prosiect ffilm digidol newydd gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru). Cafodd y ffilm ei chreu gan wyth o ddawnswyr o CDCCymru ac wyth o feirdd a gomisiynwyd gan Lenyddiaeth Cymru a ddaeth at ei gilydd yn ystod y cyfnod clo i greu perfformiadau unigol byr.
Bydd Paul Keynes, Prif Weithredwr CDCCymru a Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru yn cynnal trafodaeth banel gyda rhai o’r artistiaid a’r beirdd a gymerodd ran yn Plethu/Weave i drafod sut y cafodd y prosiect ei ddatblygu.
Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Bydd y Seminar Llenyddiaeth yn cyflwyno awduron profiadol ac awduron newydd o Gymru i gynulleidfa newydd a helpu i feithrin cysylltiadau rhwng Cymru a’r Almaen. Gweithio mewn partneriaeth yw’r ffordd orau i sicrhau cydweithio rhyngwladol llwyddiannus ac mae’r digwyddiad yma’n ganlyniad partneriaeth rhwng Llenyddiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru a’r British Council yng Nghymru a’r Almaen”.
Dywedodd Paul Smith, Cyfarwyddwr British Council Yr Almaen: Eleni mae Seminar Llenyddiaeth flynyddol y British Council, y cyfarfod unigryw yma rhwng llenorion o’r Deyrnas Unedig a gweithwyr proffesiynol o fyd llenyddiaeth yr Almaen, yn dathlu 36 o flynyddoedd rhagorol. Rydym wrth ein bodd fod y seminar yn canolbwyntio am y tro cyntaf ar ysgrifennu cyfoes o Gymru - sydd, yn hanesyddol a hyd heddiw, yn un o ddiwylliannau mwyaf bywiog a llawn dychymyg y Deyrnas Unedig.”
Mae’r British Council yn arddangos y gorau o gelfyddydau, diwylliant ac addysg y Deyrnas Unedig yn ogystal ag addysgu’r Saesneg dramor.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth ac amserlen y seminar, gweler gwefan British Council Yr Almaen: https://www.britishcouncil.de/en/programmes/arts/literature-seminar. Gallwch ddilyn y seminar ar-lein drwy ddefnyddio’r hashnodau #CymruLlenAlmaen #WalesLitGermany.
Achrediad y wasg
Os ydych eisiau adrodd am y digwyddiad a’r pynciau sy’n cael eu trafod neu os hoffech gyfweld ag un o’r awduron sy’n cymryd rhan, cysylltwch â TeamWales@BritishCouncil.org
Seminar Llenyddiaeth y British Council
Mae Seminar Llenyddiaeth y British Council yn yr Almaen wedi bod yn cyflwyno lleisiau llenyddol newydd o’r Deyrnas Unedig i’r Almaen ers dros 30ain mlynedd. Ymysg yr awduron sydd wedi cael sylw’r digwyddiad poblogaidd yma yn y gorffennol mae, Ian McEwan, Robert Macfarlane, Salman Rushdie a Jeanette Winterson. Ac ymysg cyn gadeiryddion y seminar mae, Valentine Cunningham, A S Byatt, Patricia Duncker, Yr Athro John Mullan a chyd-ennillydd Gwobr Booker 2019 Bernardine Evaristo.
Gwybodaeth am yr awduron
Niall Griffiths: Ganed Niall yn Lerpwl yn 1966; astudiodd Saesneg; a bellach mae’n byw a gweithio yn Aberystwyth. Mae ei nofelau’n cynnwys Grits (2000) sy’n adlewyrchu bywydau pobl ar ddisberod ac yn gaeth i gyffuriau ac alcohol yng nghefn gwlad Cymru; Sheepshagger (2001); Stump (2003), a enillodd ddwy o wobrau Llyfr y Flwyddyn; Ten Pound Pom (2009); ac A Great Big Shining Star (2013). Cafodd Grits, Kelly & Victor a Stump eu haddasu’n ffilmiau ar gyfer y teledu. Mae Niall hefyd wedi ysgrifennu ysgrifau taith, adolygiadau bwytai a llyfrau, yn ogystal â dramau radio. Yn 2010, cyhoeddwyd ei gyfrol In The Dreams of Max and Ronnie fel rhan o gyfres ‘Straeon Newydd o’r Mabinogi’ (Seren). Yn 2015 cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Red Roar: 20 Years of Words (Wrecking Ball Press).
Mae Dr Francesca Rhydderch yn nofelydd ac academydd sy’n byw a gweithio yng Nghymru. Yn 2013 cafodd ei nofel gyntaf, The Rice Paper Diaries, ei chynnwys ar restr hir Gwobr Nofel Gyntaf Orau’r Author’s Club yn ogystal ag ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn (Ffuglen) yn 2014. Cyhoeddwyd ei straeon byrion mewn nifer o gasgliadau a chylchgronau a’u darlledu ar Radio 4 a Radio Wales.
Ganed Francesca yn Aberystwyth; enillodd radd BA mewn Ieithoedd Modern o Goleg Newnham yng Nghaergrawnt, a Doethuriaeth mewn Saesneg o Brifysgol Aberystwyth. Mae wedi bod yn Athro Cysylltiol Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe ers 2015.
Mae Zoë Brigley yn fardd gwobrwyedig sydd wedi cyhoeddi tair cyfrol o gerddi a gafodd glod gan y Poetry Book Society sef, The Secret (2007), Conquest (2012) a Hand & Skull (2019); yn ogystal â chasgliad o ysgrifau ffeithiol, Notes From a Swing State (2019), ac yn fwy diweddar, Aubade After A French Movie (2020). Mae Zoë yn Athro Cynorthwyol yn Adran Saesneg Prifysgol Talaith Ohio.
Mae Charlotte Williams OBE yn academydd, llenor ac ymgyrchydd. Mae’n Athro Anrhydeddus yn Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor. Mae ei chyfraniad i lenyddiaeth ôl-drefedigaethol yn cynnwys ei chyfrol hunangofianol, Sugar and Slate (2002), sy’n archwilio ei threftadaeth yng Nghymru a Guyana a’i hunaniaeth wasgaredig (a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2003); cyd-olygyddd y gyfrol, ‘Denis Williams: A Life in Works, New and Collected Essays’ (Rodopi 2010); nifer o straeon byrion a chyfraniadau cyson i Gylchgronau Rhyngwladol gan gynnwys Planet, Wales Review Online a Wasafiri. Derbyniodd OBE yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2007 am ei gwasanaeth i leiafrifoedd ethnig a chydraddoldeb yng Nghymru.
Ganed Manon Steffan Ros yn Rhiwlas yn Eryri. Wedi gadael ysgol bu’n gweithio fel actores am rai blynyddoedd cyn dod yn awdur. Cafodd ei nofel gyntaf i oedolion, Fel Aderyn, ei chynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2010; ac enillodd ei nofel, Blasu, Wobr Llyfr y Flwyddyn (Ffuglen) yn 2013. Yn ogystal â’i llyfrau i oedolion, mae Manon wedi ennill bri am ei chyfrolau i blant: Mae wedi ennill gwobr nodedig Tir Na N-Og bump o weithiau gyda’i nofelau, Trwy’r Tonnau (2010), Prism (2012), Pluen (2017) Fi a Joe Allen (2019), ac yn fwyaf diweddar Pobol Drws Nesaf (2020). Enillodd ei chyfrol, Llyfr Glas Nebo, y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 yn ogystal â chipio coron driphlyg o wobrau yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2019 sef, Gwobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth, Gwobr Barn y Bobl Golwg360 a Gwobr y Llyfr Gorau yn y Gymraeg.
Mae’r Athro Richard Gwyn yn ysgrifennu gweithiau ffuglen a fffeithiol yn ogystal â barddoniaeth. Ar ôl astudio anthropoleg yn y London School of Economics, bu’n teithio ledled Ewrop gan gynnwys cyfnodau’n byw yng Ngwlad Groeg a Sbaen – yn gweithio ar ffermydd a chychod pysgota. Mae ei brofiadau ‘ar y lôn’ wedi dylanwadu ar ei arddull lenyddol a themâu ei waith. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Athro, cyfieithydd a chyfarwyddwr y rhaglen Doethuriaeth mewn ysgrifennu creadigol a beirniadol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn gweithio gyda thros 100 o wledydd ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, Saesneg, addysg a’r gymdeithas sifil. Llynedd, gwnaethom ymgysylltu â thros 80 miliwn o bobl yn uniongyrchol, a 791 miliwn o bobl i gyd - gan gynnwys cysylltiadau ar-lein, darllediadau a chyhoeddiadau. Rydym yn cyfrannu’n gadarnhaol i’r gwledydd yr ydym yn gweithio gyda nhw - yn newid bywydau drwy greu cyfleoedd, adeiladu cysylltiadau a meithrin ymddiriedaeth. Sefydlwyd y British Council ym 1934 ac rydym yn elusen yn y Deyrnas Unedig sy’n cael ei llywodraethu gan Siarter Frenhinol ac yn gorff cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn derbyn grant cyllid craidd o 15 y cant gan lywodraeth y Deyrnas Unedig. www.britishcouncil.org