Mae Room/Ystafell/Phòng yn gasgliad o farddoniaeth, ffotograffiaeth, rhyddiaith a collage a grewyd drwy fenter gydweithio flaengar rhwng llenorion ac artistiaid o Gymru a Fietnam. Cafodd y casgliad ei olygu gan Joshua Jones - llais newydd sydd eisoes wedi gwneud ei farc ym myd llenyddol Cymru. Joshua sydd wedi ysgrifennu'r cyflwyniad i'r gyfrol hefyd. Cafodd y gyfrol ei datblygu gyda chefnogaeth y British Council fel rhan o dymor Y Deyrnas Unedig a Fietnam ac mae'n cael ei chyhoeddi gan Parthian.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae'r llenorion, Xuân Tùng, Maik Cây a Kai Nguyễn o Fietnam a Joshua Jones, Leo Drayton a Lauren Morais o Gymru, wedi dod at ei gilydd i greu stafell gyfarfod a gweithdy arlein i archwilio eu harfer greadigol a'u hunaniaethau cwiar, a sut mae'r byd o'u cwmpas wedi siapio'r hunaniaethau hynny. Mae Room/Ystafell/Phòng yn cynnwys trawsgrifiadau o sgyrsiau, cerddi, gweithiau ffotograffig, collage a rhyddiaith sy'n dathlu'r pŵer a ddaw wrth greu gofodau LHDTC+ cymunedol.
Dywedodd cyfarwyddwr creadigol y prosiect, y llenor a'r artist, Joshua Jones: Mae Room/Ystafell/Phòng yn gyfrol arloesol o gerddi, straeon, traethodau, gweithiau ffotograffig a mwy, sydd lawn mor feiddgar a chyffrous â'r llenorion cwiar sydd wedi ei chreu. Mae'n gyfrol traws-genedlaethol a thraws-ddiwylliannol ei rhychwant a fydd yn para i fyrlymu ymhell wedi i'r prosiect ddod i ben. Dw i'n eithriadol o falch mod i wedi cael arwain y prosiect yma a chael cydweithio gyda Parthian a'r British Council a'r llenorion o Gymru a Fietnam sydd wedi cyfrannu i'r casgliad; a chael cyhoeddi'r gyfrol a dathlu lleisiau cwiar, a chryfhau cysylltiadau yn Fietnam a Chymru drwy gyfrwng celf ac ysgrifennu."
Ychwanegodd Pennaeth Celfyddydau Cymru'r British Council, Rebecca Gould: "Mae'r British Council yn falch iawn ein bod wedi gallu hwyluso'r fenter gydweithio ryngwladol ysbrydolgar yma. Fel mae'r teitl yn awgrymu, mae 'gofod' yn ganolog i Room/Ystafell/Phòng - creu gofod a stafell gyfarfod ddiogel i lenorion a gweithwyr creadigol o gefndiroedd amrywiol a unir gan eu hunaniaeth a'u profiad cwiar i gysylltu, cydweithio ac ysbrydoli. Mae tymor Y Deyrnas Unedig/Fietnam yn gyfle unigryw i hybu cyfnewid diwylliannol. Yn ogystal â chryfhau cysylltiadau sy'n bodoli'n barod, mae'r prosiect yma wedi meithrin partneriaethau newydd a chyffrous rhwng sectorau creadigol bywiog Cymru a Fietnam."
-Diwedd-
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Anna Christoforou, Uwch Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, Gwledydd y D.U., British Council anna.christoforou@britishcouncil.org
Nodiadau i Olygyddion
Gwybodaeth am Room/Ystafell/Phòng
Daw chwech o ysgrifenwyr, tri o Fietnam a thri o Gymru, at ei gilydd yn Room/Ystafell/Phòng i drafod eu hunaniaethau cwiar a sut y cafodd yr hunaniaethau hynny eu siapio gan y byd o'u cwmpas. Mae'r gyfrol yn cynnwys trawsgrifiadau o sgyrsiau, cerddi, gweithiau ffotograffig, collage a rhyddiaith.
Wedi misoedd y cyfnod clo, mae dyn yn Há Nội yn troi at fyd y ballroom lle caiff ei gyfareddu gan y duwiau vogue. Mae artist lesbiaidd 81 oed yn sgwennu at ferch ei chyn-gariad i geisio canfod ystyr ei deg breuddwyd rhyfedd. Am 2 o'r gloch y bore, mae merch ifanc yn brasgamu ar hyd Heol y Frenhines yng Nghaerdydd gan sgwennu nodiadau serch i'w chariad. Wrth archwilio rhywioldeb, cariad a cholled, iaith, treftadaeth ddiwylliannol, natur ac angerdd mae'r gyfrol hon yn bwrw golau ar y profiad cwiar yng Nghymru a Fietnam.
Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.parthianbooks.com/products/room-ystafell-phong
Yr awduron
Mae Joshua Jones yn ysgrifennwr ac artist o Lanelli yn Ne Cymru. Mae ganddo Radd MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bath Spa ac mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi gan Gutter Magazine, The Pomegranate London, Poetry Wales, Broken Sleeps Books ymysg eraill. Cafodd ei gymeradwyo gan y Poetry Society a chafodd ei stori 'Half Moon' ei chynnwys ar restr fer Gwobr Stori Fer Rhys Davies yn 2021, a chyrhaeddodd ei stori 'Nos Da Popstar' restr fer Gwobr Rhys Davies yn 2023. Yn 2022, cyhoeddwyd 'Fistful of Flowers' - pamphled a greodd ar y cyd â'r artist Caitlin Flood-Molyneux. Cafodd ei waith ffuglen cyntaf 'Local Fires' ei gyhoeddi gan Parthian Books ym mis Tachwedd 2023.
Mae Kai Nguyễn yn artist aml-gyfrwng sy'n byw a gweithio yn Ninas Ho Chi Minh. Mae ei arfer greadigol yn canolbwyntio ar y farddoniaeth a geir mewn delweddau symudol, gofod a phlanhigion.
Mae Leo Drayton yn fardd ifanc a chyw ddramodydd a gwneuthurwr ffilm o Gaerdydd. Mae'n un o gyd-awduron y gyfres o lyfrau Cymraeg, 'Y Pump'.
Mae Maik Cây yn ysgrifennwr annibynnol, dramodydd a gwneuthurwr ffilm o Hanoi yn Fietnam.
Mae Lauren Morais yn fardd ac artist gair llafar o Gaerdydd. Ar hyn o bryd mae'n un o'r dramodwyr sy'n gweithio ar gynhyrchiad Cwmni'r Frân Wen, 'Popeth ar y Ddaear'.
Mae Xuân Tùng yn ysgrifennwr a hyrwyddwr dawns sy'n byw a gweithio yn Ha Noi. Newyddiaduraeth ymchwiliol a beirniadaeth ddiwylliannol yw prif ffocws ei waith.
Tymor Y Deyrnas Unedig/Fietnam
Mae’r Tymor yma o weithgareddau yn nodi hanner can mlwyddiant y berthynas ddiplomyddol rhwng y Deyrnas Unedig a Fietnam, a 30 mlynedd o bresenoldeb y British Council yn Fietnam. Bydd yn gyfle i sbarduno mentrau cydweithio newydd sy’n dathlu’r gorau o’r cysylltiadau rhwng y Deyrnas Unedig a Fietnam, a chryfhau’r cysylltiadau rhwng trigolion y Deyrnas Unedig a Fietnam. Bydd y Tymor yn dychmygu ein dyfodol gyda’n gilydd drwy ddod ag artistiaid, prifysgolion ac arweinwyr cymdeithas sifil at ei gilydd. Bydd yn rhoi cyfle i bobl ar draws Fietnam a’r Deyrnas Unedig i brofi gwaith creadigol arloesol a chyffrous wrth i rai o gwmnïau, artistiaid a sefydliadau gorau’r ddwy wlad gydweithio a chyd-greu gyda’i gilydd.
Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2022-23 fe wnaethom ni ymgysylltu â 600 miliwn o bobl.