Mae gŵyl FOCUS Wales yn paratoi i lwyfannu deialog ddiwylliannol rhwng Cymru ac Aotearoa (Seland Newydd) ym mis Mai eleni. Mae'r ŵyl - a ddenodd dros 20,000 o bobl yn 2024 (y nifer mwyaf erioed) - yn croesawu tri o gerddorion Māori nodedig i berfformio mewn canolfannau amrywiol yn Wrecsam rhwng 8-10 Mai, gan greu pont gerddorol unigryw rhwng dwy wlad sydd ar siwrneiau o adfywio ieithyddol.
Bydd yn gyfle i'r cerddorion o Aotearoa (Seland Newydd) feithrin cysylltiadau a chwrdd â chyfoedion creadigol o Gymru yn ogystal ag artistiaid o wledydd eraill lle mae ieithoedd treftadaeth yn cael eu dathlu drwy gerddoriaeth. Yr artistiaid o Aotearoa fydd yn perfformio yn FOCUS Wales yw: MOHI, sy'n cyfuno arddull Te Reo Māori o adrodd straeon gydag elfennau o gerddoriaeth ddinesig gyfoes; Jordyn With A Why, sydd wedi ennill bri am ganeuon dwyieithog sy'n pontio cerddoriaeth draddodiadol a modern; a MĀ, sy'n perfformio cyfuniad brodorol unigryw o rap abstract tempo-isel, neo-soul DIY a cherddoriaeth amgylchol hudolus. Byddant yn perfformio dwy set yr un gyda'u bandiau ar wahanol lwyfannau yn ystod yr ŵyl. Byddant hefyd yn cynrychioli Aotearoa mewn trafodaeth banel a fydd yn ystyried sut mae cerddoriaeth yn gyfrwng i fynegi iaith a diwylliant.
Dechreuodd y cydweithio fel rhan o brosiect ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd - Prosiect Pūtahitanga - a oedd yn edrych ar bwyntiau cyswllt rhwng artistiaid cerddoriaeth boblogaidd sy'n defnyddio ieithoedd lleiafrifol neu ieithoedd brodorol yng Nghymru ac Aotearoa. Gyda chefnogaeth y British Council, cafodd cerddorion o Gymru fel Georgia Ruth, Cat Southall a Carwyn Ellis gyfle i deithio i Seland Newydd i gydweithio ag artistiaid Māori fel rhan o brosiect SongHubs. Nod y prosiect, a gynhaliwyd gan APRA AMCOS NZ, oedd creu cysylltiadau rhwng artistiaid o'r ddwy wlad a hybu dealltwriaeth o'r defnydd a wneir o'r ddwy iaith.
Dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru:
"Mae'r siwrne gyffredin i adfywio'r Gymraeg a Te Reo Māori drwy gerddoriaeth yn ffordd rymus o'n hatgoffa sut y gall iaith a diwylliant ffynnu drwy greadigrwydd. Mae digwyddiadau fel FOCUS Wales yn chwalu ffiniau - daearyddol a diwylliannol - gan alluogi artistiaid i gysylltu, cydweithio ac ysbrydoli ei gilydd. Mae'n fraint i groesawu'r cerddorion hynod yma i Wrecsam, ac rydym yn falch iawn i gefnogi'r cysylltiadau y byddant yn eu creu, nid yn unig rhwng Cymru ac Aotearoa (Seland Newydd), ond ar draws y gymuned greadigol fyd-eang."
Bydd FOCUS Cymru'n rhoi llwyfan i dros 250 o artistiaid mewn 20 o ganolfanau a lleoliadau ar draws dinas Wrecsam. Yn ogystal â'r wledd gerddorol cynhelir paneli rhyngweithiol i weithwyr yn y diwydiant cerddoriaeth, digwyddiadau rhyngweithio a sgriniadau ffilm. Bydd yr artistiaid o Aotearoa, Jordyn With A Why, MOHI a MĀ, yn perfformio yn GlyndwrTV ddydd Iau, 8 Mai - gan gyflwyno set yr un o 20 munud. Ddydd Sadwrn, 10 Mai bydd y tri artist yn perfformio setiau hirach (30 munud) yn Eglwys Hope Street.
Un o uchafbwyntiau'r fenter gydweithio hon fydd y drafodaeth banel a gynhelir ddydd Sadwrn sef, Prosiect Pūtahitanga, Prifysgol Caerdydd yn Cyflwyno: Myfyrio ar Gerddoriaeth ac Iaith yng Nghymru ac Aotearoa. Ymysg y pynciau trafod bydd tueddiadau cerddorol mewn cerddoriaeth lle defnyddir ieithoedd heblaw Saesneg, cwestiynnau am ddilysrwydd diwylliannol, tensiynau o gwmpas genre ac iaith a sut y gall iaith godi uwchlaw rhwystrau genre.
Bydd digwyddiad arbennig, Yr Aotearoa: Derbyniad Rhwydweithio Seland Newydd, yn cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd ar nos Sadwrn yr ŵyl yn Eglwys Hope Street. Bydd yn cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer cyfnewid diwylliannol a chreu cysylltiadau proffesiynol.
Dywedodd Andy Jones, cyd-sefydlwr a rhaglenwr cerddoriaeth Gŵyl FOCUS Wales: "Mae croesawu'r artistiaid Māori talentog yma i'n gŵyl yn greiddiol i'r hyn y mae FOCUS Wales yn ei gynrychioli - creu cysylltiadau ystyrlon ar draws ffiniau drwy gerddoriaeth. Mae'r iaith Gymraeg a'r iaith Māori wedi bod ar siwrneiau tebyg, a bydd yn wych i weld dathlu'r dreftadaeth a'r cysylltiad yma. Rydyn ni wrth ein bodd i gynnig llwyfan yn FOCUS Wales lle gall y sgyrsiau diwylliannol hyn ddigwydd."
Dywedodd Dr Elen Ifan, Darlithydd yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae'r cyfnewid diwylliannol yma'n cynrychioli cyfle unigryw i archwilio'r pwyntiau cyswllt rhwng cymunedau cerddorol sy'n defnyddio ieithoedd lleiafrifol a brodorol yng Nghymru ac Aotearoa (Seland Newydd). Gall cerddoriaeth fod yn gyfrwng grymus ar gyfer mynegiant diwylliannol, a thrwy fentrau fel hyn gallwn gael gwell dealltwriaeth o sut mae defnydd o iaith mewn cerddoriaeth boblogaidd yn croestorri ag ymdeimlad o gymuned a pherchnogaeth o iaith ar draws gwahanol gyd-destunnau diwylliannol. Mae Prosiect Pūtahitanga yn falch iawn i fod yn rhan o'r cydweithio yma ac i gynnal trafodaeth a fydd yn dyfnhau ein dealltwriaeth o ddefnydd iaith yn y cyd-destunau cyfoes hyn."
Mae'r cyfnewid diwylliannol hwn yn digwydd yn sgil cydweithio rhwng y British Council yn Seland Newydd ac yng Nghymru, APRA AMCOS, Creative New Zealand, Comisiwn Cerddoriaeth Seland Newydd | Te Reo Reka o Aotearoa, Prosiect Pūtahitanga (Prosiect Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd), Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a'r Uwch Gomisiwn Prydeinig yn Wellington.
Os hoffech glywed mwy am y cysylltiadau rhwng Cymru ac Aotearoa (Seland Newydd) a'r prosiect SongHubs Māori/Cymraeg, gallwch wrando ar ein cyfres newydd o bodlediadau, Breaking Boundaries. Cyflwynir y bennod gyntaf gan y cerddor nodedig o Gymru Georgia Ruth sy'n cnoi cil ar ei phrofiad o deithio i Aotearoa (Seland Newydd) gyda phrosiect SongHubs i weithio gydag artistiaid Māori blaenllaw a'r cynhyrchydd nodedig Greg Haver. Breaking Boundaries, Yr Ail Gyfres, Pennod Un | Cerddoriaeth ar draws cefnforoedd