Dydd Gwener 24 Hydref 2014

 

Bydd Cymru ac India yn cyfnewid beirdd i nodi canmlwyddiant geni Dylan Thomas.

Bydd pedwar bardd o Gymru a phedwar o India yn cymryd rhan mewn cyfres o gyfnewidiadau 'Walking Cities' a drefnwyd gan British Council Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Cynhelir tair taith yn India ac yng Nghymru rhwng mis Hydref 2014 a mis Ebrill 2015.

Eglurodd Dan Thomas, pennaeth y celfyddydau yn British Council Cymru: "Mae Walking Cities yn paru awduron yn y DU ag awduron rhyngwladol ac yn eu galluogi i deithio i ddinasoedd ei gilydd, gan roi cyfle i'r bardd sy'n ymweld brofi'r ddinas ddieithr drwy lygaid y bardd lleol.

"Rydym yn gobeithio y bydd y prosiect yn arwain at waith newydd gan yr awduron o Gymru ac India ac efallai at gyfieithiadau o waith ei gilydd. Mae hefyd yn gyfle i arddangos diwylliant Cymru yn India ac i gyflwyno awduron o India i gynulleidfa Gymreig."

Gan egluro sut y gwnaeth Dylan Thomas ysbrydoli'r broses gyfnewid, dywedodd Dan: "Roedd dinasoedd yn ddylanwad pwysig ar Dylan Thomas, oedd â chysylltiadau cryf ag Abertawe, Efrog Newydd a Llundain. Roedd yn berson a oedd yn croesawu'r metropolisau nodedig hyn a dyma yw'r ysbrydoliaeth y tu ôl i'r prosiect."

Bydd beirdd o Gymru, sef Eurig Salisbury a Rhian Edwards yn ymuno a'u cymheiriaid o India, Sampurna Chattarji a Ranjit Hoskote, yn India rhwng 25 Hydref a 2 Tachwedd.  Byddant yn ymweld â dinasoedd Mumbai a Pune ac yn cloi eu hwythnos o gydweithio gyda pherfformiad ar y cyd yng Ngŵyl Lenyddiaeth Mumbai.

Ym mis Ionawr, bydd beirdd o Gymru, sef Deryn Rees Jones a Joe Dunthorne yn cydweithio â beirdd o India, sef Jeet Thayil a Tishani Doshi. Byddant yn crwydro dinasoedd Delhi a Jaipur ac yn arddangos eu gwaith yng Ngŵyl Lenyddol Jaipur a Ffair Lyfrau Kolkota (Calcutta).

Ym mis Ebrill bydd pedwar bardd o India yn ymweld â Chymru a safleoedd a oedd o bwys i Dylan Thomas, gan gynnwys Abertawe a Thalacharn, i roi ysbrydoliaeth bellach i'w gwaith ac i roi cyfle iddynt ddysgu mwy am beth oedd yn cymell Dylan yr awdur.

Bydd ymweliadau'r beirdd yn cael eu recordio ar gyfer podlediad gan y British Council a gaiff ei gynnwys yng nghylchgrawn Guernica. 

Mae'r prosiect yn rhan o raglen o ddigwyddiadau rhyngwladol 'Starless and Bible Black' y British Council i ddathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas.

 

Nodiadau i olygyddion

'Starless and Bible Black' yw rhaglen ryngwladol y British Council i ddathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas. Mae'n rhan o ddathliadau Dylan Thomas 100. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Llywodraeth Cymru. 

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gyfleoedd addysgol a chydberthnasau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang. 

Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd, ac mae ein 7000 o staff - gan gynnwys 2000 o athrawon - yn gweithio gyda miloedd o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi a miliynau o bobl ifanc bob blwyddyn drwy ddysgu Saesneg, rhannu'r Celfyddydau, a chyflwyno rhaglenni addysg a chymdeithasol.

Rydym yn elusen gofrestredig o fewn y DU sydd wedi'i llywodraethu gan Siarter Frenhinol. Mae grant craidd a ariennir yn gyhoeddus yn llai na 25 y cant o'n trosiant a oedd yn £781m y llynedd. Mae gweddill ein cyllid yn cael ei ennill o wasanaethau y mae cwsmeriaid ledled y byd yn talu amdanynt, drwy gytundebau addysg a datblygu ac o bartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ein holl waith yn anelu at gyflawni ein diben elusennol ac yn cefnogi ffyniant a diogelwch i'r DU ac yn fyd-eang.

Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council drwy

http://twitter.com/bcwales

https://www.facebook.com/BritishCouncilWales

 

 

 

Rhannu’r dudalen hon