Dydd Mawrth 17 Mawrth 2015

 

Gwneuthurwyr polisi yn awyddus i glywed sut y mae rhyngwladoli yn helpu addysg yng Nghymru

Sut i ryngwladoli addysg yng Nghymru oedd thema digwyddiad yn y Senedd, ddydd Mawrth 10 Mawrth.

Aeth Aelodau Cynulliad a gwneuthurwyr polisi i ddigwyddiad y British Council, 'Cymru a'r Byd', lle roeddent yn gallu siarad â myfyrwyr ac athrawon, a chlywed sut mae rhaglenni addysg y British Council wedi bod o fudd iddynt yn bersonol.

Rhoddodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, yr anerchiad agoriadol, gan ddweud: "Gallwn baratoi ein pobl ifanc ar gyfer y byd gwaith, ond rhaglenni addysg rhyngwladol a fydd yn rhoi'r fantais ychwanegol iddynt o ran hyder, gallu ieithyddol, profiad bywyd ac yn y blaen.

"Wrth gwrs, nid ein pobl ifanc yn unig a all gael budd o leoliadau rhyngwladol, mae hefyd yn werthfawr iawn i'r gweithwyr proffesiynol hynny sydd am barhau i ddatblygu, dysgu sgiliau newydd a chael mwy o brofiad."

Dangosodd disgyblion Ysgol Bro Dinefwr yn Llandeilo raglen E-efeillio y British Council ar waith, gyda sgwrs Skype am fwyta'n iach mewn ysgolion gyda disgyblion o'u hysgol efeilliedig, Nymarkskolen yn Swendborg, Denmarc.

Soniodd myfyrwyr addysg uwch wrth y rhai a oedd yn bresennol am sut mae cymryd rhan yn rhaglen gyfnewid Erasmus+, sy'n cael ei rheoli yng Nghaerdydd, wedi meithrin eu hyder ac wedi ehangu eu gorwelion.

Eglurodd Laura Hurst sy'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor a Gethin Bennet sy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd sut mae eu gwaith fel llysgenhadon iaith gyda Routes into Languages Cymru yn annog disgyblion ysgol i astudio ieithoedd tramor modern.

Eglurodd Colin Skinner, pennaeth Ysgol Gynradd Parc y Rhath yng Nghaerdydd sut mae ei athrawon wedi defnyddio syniadau o'r Unol Daleithiau i wella cyrhaeddiad addysgol eu disgyblion.

Dangosodd plant Ysgol Gynradd Nant-y-Felin, Casnewydd eu gwaith ar yr iaith Mandarin gyda'r cynorthwyydd iaith Tsieinëeg, Sheng Juan.

Arddangosodd plant Ysgol Gynradd Baglan ychydig o'r gwaith y maent wedi'i greu am Batagonia a gwnaethant gyfarfod â Phatagoniad o Gymru, Dr Walter Ariel Brooks, a dreuliodd amser yn helpu'r plant gyda'u Sbaeneg.

Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Gobeithio y bydd pawb a fynychodd y digwyddiad yn gadael wedi'u hysbrydoli, gyda digon o syniadau am sut y gellir defnyddio rhaglenni addysg rhyngwladol i ddatblygu cyfleoedd addysgol yng Nghymru a helpu ein pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion byd-eang."

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gyfleoedd addysgol a chydberthnasau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang.

Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd, ac mae ein 8,000 o staff - gan gynnwys 2000 o athrawon - yn gweithio gyda miloedd o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi a miliynau o bobl ifanc bob blwyddyn drwy ddysgu Saesneg, rhannu'r Celfyddydau, a chyflwyno rhaglenni addysg a chymdeithasol.

Rydym yn elusen gofrestredig o fewn y DU sydd wedi'i llywodraethu gan Siarter Frenhinol. Mae grant craidd a ariennir yn gyhoeddus yn llai na 20 y cant o'n trosiant a oedd yn £864m y llynedd. Mae gweddill ein cyllid yn cael ei ennill o wasanaethau y mae cwsmeriaid ledled y byd yn talu amdanynt, drwy gytundebau addysg a datblygu ac o bartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ein holl waith yn anelu at gyflawni ein diben elusennol ac yn cefnogi ffyniant a diogelwch i'r DU ac yn fyd-eang.

Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council Cymru drwy

http://twitter.com/bcwales

https://www.facebook.com/BritishCouncilWales

Rhannu’r dudalen hon