Dydd Mawrth 19 Awst 2014

 

Cymru mewn ‘sefyllfa dda’ i ddenu mwy o fyfyrwyr o Ogledd America yn ôl y British Council

Mae cynghorwyr gyrfaoedd blaenllaw o'r Unol Daleithiau a Chanada yn ymweld â Chymru i ddarganfod beth sydd gan brifysgolion Cymru i'w gynnig i'w myfyrwyr ac, yn ôl y British Council mae Cymru mewn sefyllfa dda i ddenu mwy o fyfyrwyr o Ogledd America.

Caiff deg uwch gynghorydd, gan gynnwys llywydd yr Higher Education Consultants Association, eu croesawu i swyddfeydd British Council Cymru yng Nghaerdydd ar 22 Awst. Caiff y grŵp ei friffio ar y sector addysg uwch yng Nghymru a bydd yn ymweld â Phrifysgolion Abertawe a Chaerdydd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Esboniodd Chris Lewis, Pennaeth Addysg British Council Wales: “Y cynghorwyr yw'r brif ffynhonnell cyngor i fyfyrwyr sy'n ystyried astudio dramor ac rydym yn awyddus i ddangos iddynt beth sydd gan addysg uwch yng Nghymru i'w gynnig.

“Mae gennym brifysgolion ardderchog yng Nghymru ac mae'n lle gwych i astudio. Mae'r ymweliad hwn yn gyfle da i gyflwyno Prifysgolion Cymru a Chymru i gysylltiadau allweddol yng Nghanada a'r Unol Daleithiau.”

Mae'r cynghorwyr yn ymweld fel rhan o EducationUK Counsellor Mission y British Council, sy'n arddangos sector addysg uwch y DU.

Bydd cynrychiolwyr o naw sefydliad addysg uwch yng Nghymru yn cwrdd â'r grŵp sy'n ymweld er mwyn siarad am eu prifysgolion a beth sydd ganddynt i'w gynnig.

 

 

 

 

 

 

 

Nodiadau i olygyddion

Mae EducationUK Counsellor Mission yn daith ymgyfarwyddo ar gyfer staff proffesiynol allweddol o brif gymdeithasau cynghori prifysgolion yn UDA a Chanada. Bydd y rhaglen yn arddangos arferion ardderchog y DU ym meysydd addysgu a dysgu c yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ymgyfarwyddo â'r model addysg israddedig. Drwy'r rhaglen ysbrydoledig hon bydd y British Council yn creu mwy o gyfleoedd i sefydliadau addysg uwch y DU ymgysylltu â chynghorwyr. Mae'r cymdeithasau hyn yn cynnig adnoddau, hyfforddiant a digwyddiadau i gyfanswm o fwy nag 20,000 o aelodau. 

 

 

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gyfleoedd addysgol a chydberthnasau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang.

Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd, ac mae ein 7000 o staff - gan gynnwys 2000 o athrawon - yn gweithio gyda miloedd o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi a miliynau o bobl ifanc bob blwyddyn drwy ddysgu Saesneg, rhannu'r Celfyddydau, a chyflwyno rhaglenni addysg a chymdeithasol.

Rydym yn elusen gofrestredig o fewn y DU sydd wedi'i llywodraethu gan Siarter Frenhinol. Mae grant craidd a ariennir yn gyhoeddus yn llai na 25 y cant o'n trosiant a oedd yn £781m y llynedd. Mae gweddill ein cyllid yn cael ei ennill o wasanaethau y mae cwsmeriaid ledled y byd yn talu amdanynt, drwy gytundebau addysg a datblygu ac o bartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ein holl waith yn anelu at gyflawni ein diben elusennol ac yn cefnogi ffyniant a diogelwch i'r DU ac yn fyd-eang.

Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council drwy

http://twitter.com/bcwales

https://www.facebook.com/BritishCouncilWales

Rhannu’r dudalen hon