Dydd Mercher 23 Tachwedd 2016

 

Mae ffigurau newydd a ddatgelwyd yng Nghynhadledd Blynyddol Erasmus+ yn dangos bod 53 ymgeisydd o Gymru wedi cael €8.4m o gyllid gan Erasmus+ yn 2016 hyd yma, o gymharu â'r €5.1m a roddwyd i 36 ymgeisydd llwyddiannus yn 2014.

Cynnydd yn nifer a gwerth ceisiadau ysgolion llwyddiannus yw'r prif reswm dros y twf mewn cyllid. Rhwng 2014 a 2016 dyfarnwyd cyfanswm o €20.4 miliwn i 134 o brosiectau wedi'u harwain gan sefydliadau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae'r arian hwn wedi cefnogi bron i 4,700 o leoliadau unigol sydd wedi rhoi cyfle i ddysgwyr, staff a phobl ifanc o Gymru astudio, gwirfoddoli neu hyfforddi dramor rhwng 2014 a 2015, gyda mwy o brosiectau'n dechrau eleni a mwy o bobl yn cymryd rhan o 2016-17.  

Yn 2014 rhoddwyd €5.1m o gyllid er mwyn cynnig bron i 2,100 o gyfleoedd i fyfyrwyr, pobl ifanc a staff addysg, hyfforddi a ieuenctid o Gymru astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor, drwy brosiectau yn ystod dwy flynedd gyntaf Erasmus+, rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon. Yn 2015, rhoddwyd mwy na €6.8m o gyllid er mwyn cynnig bron i 2,600 o gyfleoedd, gyda chynnydd mawr yn nifer y cyfleoedd a oedd ar gael i fyfyrwyr addysg bellach yng Nghymru astudio cwrs galwedigaethol dramor, gyda 430 o gyfleoedd yn 2015 o gymharu ag 80 yn 2014. Y British Council yw Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer Erasmus+ mewn partneriaeth ag Ecorys UK ac mae'n cynnal cynhadledd flynyddol Erasmus+ 2016 yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar 23 Tachwedd. 

Caiff y ffigurau diweddaraf eu cyhoeddi yn y gynhadledd flynyddol yn Neuadd y Ddinas heddiw, yng nghwmni Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, a'r cyflwynydd paneli a darlledwr y BBC Jason Mohammad.

Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd Julie James, "Mae sicrhau bod gan Gymru y sgiliau a'r profiadau iawn i gystadlu'n rhyngwladol yn flaenoriaeth allweddol i'r llywodraeth hon, ac mae rhaglen Erasmus+ yn cefnogi'n amcanion i godi safonau addysg a darpariaeth hyfforddiant yn llwyr. Mae'r ffigurau newydd hyn yn galonogol gan ei bod yn bwysig ein bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd y mae'r rhaglen hon yn eu cynnig er budd myfyrwyr, ymarferwyr a phobl ifanc yng Nghymru." 

Mae'r ffigurau yn dangos bod mwy o sefydliadau yn y sectorau addysg oedolion ac ysgolion yng Nghymru wedi cyflwyno ceisiadau llwyddiannus yn 2016, gydag ysgolion yn cyflwyno 22 o geisiadau llwyddiannus i ysgolion gwerth €2.8m, o gymharu â chwe chais llwyddiannus gwerth €625,000 yn 2014. 

Bydd llawer o'r ymgeiswyr llwyddiannus hynny yn mynychu'r gynhadledd flynyddol, yn cynnwys Cyngor Caerdydd, a gyflwynodd gais llwyddiannus am tua €1.7m o gyllid ar gyfer wyth prosiect yn cynnwys consortia o ysgolion ledled Cymru. 

Dywedodd Emily Daly, Swyddog Cysylltiadau Ysgolion Rhyngwladol yng Nghyngor Caerdydd, "Rydym wedi gallu defnyddio cymorth y British Council i gysylltu â rhagor o ysgolion o gwmpas Cymru a'u cynnwys mewn ceisiadau Erasmus+ llwyddiannus, gan arwain at brosiectau sy'n eu helpu i rannu arfer gorau, rhyngwladoli eu hysgol, a bodloni polisïau addysg Llywodraeth Cymru. Mae'n dda gweld cynnydd mewn diddordeb yng Nghymru, ac rydym yn edrych ymlaen at ddechrau prosiectau ar ystod o bynciau megis herio eithafiaeth, codi cyflawniad ac anghenion dysgu ychwanegol." 

Mae deg ysgol arall yng Nghymru yn rhannu mwy na €1m ar gyfer prosiectau partneriaeth strategol, yn cynnwys Ysgol Gynradd Tregatwg yn y Barri, Ysgol Iau yr Eglwys yng Nghymru Malpas yng Nghasnewydd, Ysgol Gymraeg Ffwrnes yn Sir Gaerfyrddin ac Ysgol Llwyn yr Eos yn Aberystwyth.

Nododd Ruth Sinclair-Jones, Cyfarwyddwr Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer Erasmus+, “Rydym wrth ein bodd gyda'r cynnydd yn nifer y ceisiadau llwyddiannus a gafwyd yng Nghymru yn 2016, a hoffem annog mwy o geisiadau a cheisiadau mwy o faint ledled Cymru a'r DU ar gyfer 2017, er mwyn manteisio ar y lefelau uwch o gyllid sydd ar gael wrth ddathlu degfed flwyddyn ar hugain y rhaglen." Aeth Ruth yn ei blaen i nodi, "2017 yw'r flwyddyn gyntaf yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE a hoffem bwysleisio y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn 2017 yn cael cyllid drwy gydol eu prosiect." 

Nodiadau i olygyddion

Ynglŷn ag Erasmus+

Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon rhwng 2014 a 2020. O gymharu â rhaglenni blaenorol, mae Erasmus+ yn cynyddu cyllid yr UE yn sylweddol (+40%) gyda chyllideb gyffredinol o €14.7 biliwn (£12 biliwn) ar gyfer meithrin gwybodaeth a sgiliau a'i nod yw gwella ansawdd a pherthnasedd cymwysterau a sgiliau. 

Bydd dwy ran o dair o'i chyllid yn rhoi grantiau i dros 4 miliwn o bobl i astudio, hyfforddi, cael profiad gwaith neu wirfoddoli dramor rhwng 2014 a 2020 (o'i chymharu â 2.7 miliwn rhwng 2007 a 2013). Gall y cyfnod dramor amrywio o ychydig ddiwrnodau hyd at flwyddyn. Yn y DU, disgwylir i bron 250,000 o bobl wneud gweithgareddau dramor gyda'r rhaglen. 

Nod Erasmus+ yw moderneiddio addysg, hyfforddiant a gwaith ieuenctid ledled Ewrop. Mae'n agored i sefydliadau addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon ar draws pob sector Dysgu Gydol Oes, gan gynnwys addysg ysgolion, addysg bellach ac addysg uwch, addysg i oedolion a'r sector ieuenctid. Mae Erasmus+ yn darparu cyllid i sefydliadau er mwyn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr, athrawon, prentisiaid, gwirfoddolwyr, arweinwyr ieuenctid a phobl sy'n gweithio ym maes chwaraeon ar lawr gwlad. Bydd hefyd yn darparu cyllid i bartneriaethau rhwng sefydliadau megis sefydliadau addysgol, sefydliadau ieuenctid, mentrau, awdurdodau lleol a rhanbarthol a sefydliadau anllywodraethol, yn ogystal â darparu cymorth ar gyfer diwygiadau mewn gwledydd Ewropeaidd i foderneiddio addysg a hyfforddiant a hyrwyddo arloesedd, entrepreneuriaeth a chyflogadwyedd. 

Mae Erasmus+ yn olynu rhaglenni blaenorol Erasmus, Comenius, Ieuenctid ar Waith, Leonardo, Grundtvig a Transversal a oedd ar waith rhwng 2007 a 2013.

Rheolir y rhaglen yn y DU gan Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer Erasmus+, sy'n bartneriaeth rhwng y British Council ac Ecorys UK. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.erasmusplus.org.uk neu dilynwch @erasmusplusuk ar Twitter

Ynglŷn ag Ecorys UK

Mae Ecorys UK, sy'n rhan o gwmni gwasanaethau ymchwil, ymgynghori a rheoli rhyngwladol Ecorys, yn darparu gwasanaethau cyfathrebu, ymchwil a chymorth technegol o'r radd flaenaf ym meysydd polisi addysg, economaidd a chymdeithasol. Mae Ecorys yn cyflogi dros 150 o staff yn y DU sy'n arbenigo ym meysydd addysg a diwylliant, cyflogaeth a marchnadoedd llafur, datblygu economaidd a rhyngwladol, cyfathrebu, rhaglenni arian grant cyhoeddus a meithrin gallu. Ein cenhadaeth yw ychwanegu gwerth at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus drwy ein profiad o'r cylch polisi cyfan. Ceir rhagor o wybodaeth yn https://www.ecorys.com/

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth gyfeillgar rhwng pobl y DU a gwledydd eraill. Gan ddefnyddio adnoddau diwylliannol y DU, rydym yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r gwledydd rydym yn gweithio gyda nhw – yn newid bywydau drwy greu cyfleoedd, meithrin cysylltiadau ac ennyn ymddiriedaeth.

Rydym yn gweithio gyda dros 100 o wledydd ledled y byd ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, yr iaith Saesneg, addysg a chymdeithas sifil. Bob blwyddyn, rydym yn cyrraedd dros 20 miliwn o bobl wyneb yn wyneb a dros 500 miliwn o bobl ar-lein, drwy ddarllediadau a chyhoeddiadau.

Wedi'i sefydlu yn 1934, rydym yn elusen yn y DU a lywodraethir gan Siarter Frenhinol ac yn gorff cyhoeddus yn y DU. Caiff y rhan fwyaf o'n hincwm ei godi drwy ddarparu amrywiaeth o brosiectau a chontractau addysgu ac arholiadau Saesneg, contractau addysg a datblygu ac o bartneriaethau â sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae 18 y cant o'n cyllid yn dod o lywodraeth y DU.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.britishcouncil.org. Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council drwy http://twitter.com/britishcouncil a http://blog.britishcouncil.org/

Rhannu’r dudalen hon