Adroddiad newydd yn cysylltu dysgu ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd yng Nghymru gyda chynydd yn hyder disgyblion a’u galluoedd dysgu’n gyffredinol ar draws holl bynciau’r cwricwlwm.
Mae’r adroddiad, a gomisiynwyd gan British Council Cymru, yn cyflwyno darlun cadarnhaol o botensial ieithoedd rhyngwladol i feithrin cenhedlaeth o ‘ddinasyddion byd-eang’ yng Nghymru sy’n alluog, hyderus ac effro i bob math o ddiwylliant yn sgil cyflwyno dysgu ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd yng Nghymru.
Dewiswyd sampl o ddeg o ysgolion cynradd ar draws Cymru ar gyfer y gwaith ymchwil ac fe holwyd penaethiaid ysgol, staff a disgyblion yn ogystal â chynrychiolwyr o bedwar consortiwm addysg Cymru. Yn gyntaf, mae’r adroddiad yn cyflwyno arolwg o ysgolion sydd eisoes yn defnyddio dulliau traddodiadol ac arloesol wrth gyflwyno ieithoedd rhyngwladol fel rhan o’u cwricwlwm. Yna, mae’n edrych tua’r dyfodol gan ddadansoddi buddion gwreiddio ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd, trafod y gwahanol ddulliau gweithredu a chyflwyno argymhellion ar sail arfer da i ysgolion eraill.
Casgliadau allweddol
- Mae ysgolion cynradd sydd wedi cyflwyno ieithoedd rhyngwladol yn nodi effeithiau cadarnhaol ar sgiliau llythrennedd a llafaredd disgyblion. Nododd pob ysgol eu bod wedi gweld cynnydd yn sgiliau cyfathrebu’r disgyblion yn ogystal â’u brwdfrydedd i ddysgu.
- Mae’r ysgolion wedi manteisio ar yr hyblygrwydd sy’n nodwedd allwedddol o’r cwricwlwm newydd: Maen nhw wedi meithrin dulliau creadigol o ddysgu ac addysgu ieithoedd rhyngwladol a chyplysu dysgu ieithoedd gyda phynciau fel gwyddoniaeth, cerddoriaeth a chelf yn ogystal ag archwilio ffyrdd o weithio gyda phartneriaid newydd a defnyddio technoleg.
- Mae adborth hanesiol gan athrawon yn pwysleisio’r effaith gadarnhaol y mae dysgu ieithoedd rhyngwladol yn ei gael ar ddisgyblion mwy galluog a disgyblion llai abl fel ei gilydd. Llwyddodd y dulliau dysgu llai traddodiadol i helpu i gynyddu hyder y plant tawelach i gymryd rhan yn y gwersi a thanio eu brwdfrydedd i ddysgu mwy. Hefyd, cafwyd adroddiadau gan athrawon eu bod wedi gweld cynydd yn eu hyder eu hunain wedi iddynt ddechrau cyflwyno gwersi iaith.
- Er nad oes angen i athrawon fod yn rhugl mewn iaith er mwyn gallu ei chyflwyno’n llwyddiannus, “..mae o fantais fy mod innau’n dysgu, a’u bod nhw’n ymwybodol o hynny..”, mae’r arolwg yn derbyn y gall darparu gwersi iaith fod yn her os nad oes arbenigwr ar staff dysgu’r ysgol neu os yw adnoddau da’n brin. Nododd penaethiaid ysgol hefyd y gall annog staff i ddysgu ieithoedd i ddisgyblion fod yn dalcen caled weithiau os na fu profiadau’r athrawon hynny eu hunain o ddysgu iaith yn gadarnhaol.
- Nododd ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg eu bod wedi gweld budd wrth gyplysu dysgu ieithoedd rhyngwladol gyda dysgu’r Gymraeg.
- Gall dysgu Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol eraill fod yn gyfrwng defnyddiol i gyflwyno ieithoedd cartrefi’r disgyblion yn y dosbarth a dathlu amrywiaeth ac aml-ddiwyllianaeth.
Dylai canfyddiadau’r adroddiad helpu i lywio’r gwaith sy’n digwydd dan adain y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu i ddod â dysgu ac addysgu ieithoedd yn gyffredinol at ei gilydd mewn modd cyfannol. Byddant hefyd yn cefnogi un o bedwar pwrpas y cwricwlwm newydd, sef cynorthwyo pobl ifanc i fod ‘yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd’ trwy wreiddio dysgu ieithoedd yn y cwricwlwm ehangach ar gyfer oedrannau 3-16 a chynnig mwy o hyblygrwydd nag erioed i benaethiaid ysgol siapio’r hyn y mae disgyblion yn ei ddysgu yn ogystal â’r ffordd y caiff hynny ei ddysgu..
Caiff y Maes Dysgu a Phrofiad yma ei gryfhau gan raglen Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru – strategaeth sy’n hybu ac annog disgyblion i fod yn ‘Ddwyieithog +1’ o’r cyfnod cynradd.
Roedd y penaethiaid ysgol a gymerodd ran yn yr arolwg yn ystyried fod darparu ieithoedd rhyngwladol yn cynrychioli ethos a dyheadau rhyngwladol eu hysgolion ac yn annog eu disgyblion i fod yn ‘ddinasyddion byd-eang’. Roedd y disgyblion yn cydnabod hynny eu hunain hefyd; “Rydyn ni’n hoffi ieithoedd achos fe allwch chi deithio i wledydd eraill a chwrdd â phobl, teithio’r byd, a chael swyddi da”.
Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr British Council Cymru, “Rydyn ni’n falch iawn i weld fod dyfodol cadarnhaol i amlieithrwydd yng Nghymru wrth i ysgolion fanteisio ar gyfleoedd i wreiddio ieithoedd rhyngwladol yn eu dosbarthiadau. Mae buddion dysgu ieithoedd yn amlwg o ran cynyddu cyrhaeddiad a magu hyder pobl ifanc yn eu bywydau presennol yn ogystal â’i harfogi â’r sgiliau i lywio eu ffordd, mwynhau a llwyddo yn y byd ben baladr fel oedolion.”
Mae’r adroddiad yn amlinellu rhai o’r dulliau arloesol y mae athrawon yn eu defnyddio i integreiddio ieithoedd rhyngwladol i’w dosbarthiadau.
Cymerodd un o ysgolion yr arolwg ran ym mhrosiect Cerdd Iaith; prosiect a arweiniwyd gan British Council Cymru mewn partneriaeth gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac ERW, a chyda cymorth ariannol Paul Hamlyn Foundation. Roedd Cerdd Iaith yn defnyddio cerddoriaeth fel cyfrwng i ddysgu iaith ac yn darparu amrywiaeth o adnoddau fel caneuon, cerddoriaeth, cardiau iaith a thaflenni gwaith wrth gyflwyno Sbaeneg, Saesneg a Chymraeg yn ogystal â threfnu ymweliadau gan gerddorion proffesiynol (aelodau o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC).
Am ragor o wybodaeth, ebostiwch: rosa.bickerton@britishcouncil.org