• Mae nifer yr ymgeiswyr ar gyfer Lefel A mewn ieithoedd tramor modern wedi cynyddu
• Nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU wedi gostwng
• Ffrangeg yw’r iaith dramor fwyaf poblogaidd ar gyfer Level A a TGAU
Mae nifer y bobl ifanc yng Nghymru sy’n dewis astudio iaith dramor fodern ar gyfer TGAU wedi gostwng eleni, tra bo’r nifer sy’n dewis ieithoedd tramor ar gyfer Lefel A wedi cynyddu.
Daw rhybudd gan British Council Cymru fod addysgu a dysgu ieithoedd tramor yng Nghymru yn dal i fod mewn perygl, sy’n newyddion drwg i addysg a busnes.
Dywedodd Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: “Rydym wedi gweld cynydd bach yn nifer y dysgwyr sy’n dewis astudio iaith dramor fodern ar gyfer Lefel A, ond mae’r gostyngiad yn y nifer sy’n dewis astudio ar gyfer TGAU yn destun pryder mawr, gan mai ymgeiswyr ar gyfer TGAU fydd myfyrwyr Lefel A y flwyddyn nesaf.
“Mae’r nifer fach sy’n dewis astudio ieithoedd tramor modern yn destun pryder o ran recriwtio ar gyfer cyrsiau gradd, y proffesiwn dysgu ieithoedd ac i fusnesau sy’n gweld galw cynyddol am sgiliau iaith.
“Roedd yn galonogol gweld ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu ddiweddar i ehangu addysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion yng Nghymru.
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu i wireddu uchelgais y Cwricwlwm newydd i Gymru o ran galluogi dysgwyr i ennill gwybodaeth a sgiliau yn y Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol.
“Wrth i ysgolion ddechrau adfer o effeithiau’r pandemig, hoffem weld ysgolion yng Nghymru’n rhoi blaenoriaeth i addysgu a dysgu ieithoedd, ac rydym wrth ein bodd eu bod eisoes yn manteisio ar gyfleoedd rhyngwladol drwy Gynllun Turing sydd wedi dyfarnnu dros £500,000 i ysgolion yng Nghymru.
“Rydym yn gobeithio gweld mwy fyth o weithgarwch rhyngwladol drwy raglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol newydd Llywodraeth Cymru, a fydd yn darparu cyfleoedd o fis Medi 2022 ymlaen.”
Bydd adroddiad Tueddiadau Ieithoedd Cymru diweddaraf y British Council yn cael ei gyhoeddi yn yr Hydref.