Prif Ystadegau
- Mae nifer yr ymgeiswyr ar gyfer cymhwyster Safon Uwch mewn ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru wedi dirywio ers 2024. Gwelwyd gostyngiad eleni o 20% yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg (o 443 i 352)
- Ffrangeg yw'r dewis mwyaf poblogaidd o hyd ymysg ymgeiswyr Safon Uwch mewn ieithoedd rhyngwladol; ond bu gostyngiad o dros 30% yn nifer yr ymgeiswyr eleni - 169 o'i gymharu â 242 yn 2024
- Gwelwyd cynnydd bach o 1.4% yn nifer yr ymgeiswyr Safon Uwch Sbaeneg - o 139 yn 2024 i 141
- Gwelwyd gostyngiad hefyd (o 32%) yn nifer yr ymgeiswyr Safon Uwch Almaeneg - o 62 yn 2024 i 42 eleni.
Dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru:
"Ar ran British Council Cymru, hoffwn longyfarch yr holl fyfyrwyr yng Nghymru sy'n derbyn canlyniadau eu harholiadau Safon Uwch heddiw. Dyma ffrwyth llafur blynyddoedd o ymroddiad a gwaith caled gan ein pobl ifanc, eu hysgolion a'u cymunedau. Mae heddiw'n garreg filltir gyffrous wrth iddynt baratoi ar gyfer pennod nesaf eu siwrneiau.
"Fodd bynnag, mae ffigurau'r ceisiadau ar gyfer cymhwyster Safon Uwch mewn ieithoedd rhyngwladol yn destun pryder. Er mai Ffrangeg yw'r iaith ryngwladol fwyaf poblogaidd o hyd o bell ffordd (gyda 169 o ymgeiswyr), gwelwyd gostyngiad sylweddol o dros 30% yn nifer yr ymgeiswyr Safon Uwch Ffrangeg eleni - o'i gymharu â'r 242 o ymgeiswyr a welwyd y llynedd. Mae nifer yr ymgeiswyr ar gyfer Almaeneg yn parhau i ddirywio'n gyson - gyda dim ond 42 o geisiadau yng Nghymru eleni.
“Er ein bod ni'n dathlu'r cynnydd bach yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer Safon Uwch Sbaeneg, mae dirywiad yr ieithoedd rhyngwladol eraill yn destun pryder. Fel mae ein hymchwil Tueddiadau Ieithoedd Cymru wedi dangos yn gyson dros y ddegawd ddiwethaf, rydym yn wynebu heriau dybryd o ran darpariaeth ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru. Mae'r ffigurau diweddaraf hyn yn cadarnhau ein pryderon am ddatblygiad ieithegwyr y dyfodol.
“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi addysgu a dysgu ieithoedd yng Nghymru, ac yn gweithio'n agos â Llywodraeth Cymru, ysgolion ac addysgwyr i hybu pwysigrwydd allweddol ieithoedd rhyngwladol.
“Mae'r myfyrwyr sy'n ennill cymwysterau Safon Uwch mewn ieithoedd heddiw yn cynrychioli grŵp hollbwysig sy'n deall bod dysgu ieithoedd rhyngwladol yn fwy na geirfa a gramadeg yn unig. Maen nhw'n datblygu'r sgiliau rhyngddiwylliannol ac agwedd fyd-eang sy'n hollbwysig i sicrhau fod Cymru'n parhau'n wlad â chysylltiadau rhyngwladol sy'n edrych allan i'r byd. Mae sgiliau iaith a dealltwriaeth rhyngddiwylliannol yn fwy perthnasol heddiw nag erioed; maent yn hwyluso cysylltiadau masnach cryfach, gwell diogelwch a chysylltiadau diwylliannol dyfnach ledled y byd.
"I bob myfyriwr sy'n derbyn canlyniadau heddiw - yn enwedig myfyrwyr ieithoedd rhyngwladol - rydym yn dymuno'r gorau i chi wrth i chi gymryd camau nesaf eich siwrne. Mae eich sgiliau iaith yn arfau pwerus a fydd yn agor pob math o gyfleoedd i chi a'ch cysylltu â'r byd ehangach."
Diwedd