Dydd Mawrth 09 Hydref 2018

 

Mae arbenigwr o fyd addysg ac ymgyrchydd dros hawliau plant byddar wedi cael eu dewis i gynrychioli Cymru eleni ar raglen ryngwladol y British Council ar gyfer arweinwyr ifanc, Cysylltu Arweinwyr y Dyfodol.

Bydd Owen Evans, cyfarwydwr Teach First Cymru a Deborah Thomas, swyddog polisi ac ymgyrchoedd Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru, yn ymuno â hanner cant o ddarpar arweinwyr eraill o bob rhan o’r byd.

Fe fyddan nhw’n mynychu rhaglen hyfforddi ddwys ar ddatblygiad polisi ac arweinyddiaeth am naw diwrnod yn Sefydliad Møller, Coleg Churchill, Prifysgol Caergrawnt. Yn ogystal, fe fyddan nhw’n ymweld â Westminster i drafod heriau byd-eang cyfoes, cwrdd ag arweinyddion rhyngwladol ac ymweld â rhai o sefydliadau dylanwadol y Deyrnas Unedig. 

Bydd y rhaglen yn eu harfogi â chysylltiadau byd-eang, cynllun gweithredu polisi i sicrhau newidiadau cadarnhaol a’r sgiliau, gwybodaeth a rhwydweithiau angenrheidiol i fod yn arweinwyr dylanwadol yng Nghymru a thu hwnt. 

Fe gurodd Owen a Deborah ymgeiswyr o bob rhan o Gymru i ennill eu lle ar y rhaglen. Fel rhan o’r broses ddethol, bu’n rhaid i’r ddau ohonynt amlinellu un newid mawr, byd-eang y maent am ei weld yn digwydd yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Mae Deborah, a ddechreuodd ei gyrfa ym myd newyddiaduraeth cyn symud i faes polisi ac ymgyrchoedd, eisiau gweld dysgu ymwybyddiaeth o anabledd mewn ysgolion.

Meddai: “Rwy’n teimlo y byddai llai o lawer o wahaniaethu ar sail anabledd yn y DU petai gyda ni well dealltwriaeth am wahanol anableddau a sut maen nhw’n effeithio ar fywydau pobl. Rwy’n credu y byddai cynyddu ymwybyddiaeth am anabledd yn arwain at gymdeithas fwy cynhwysol ac yn help i feithrin agweddau mwy cadarnhaol am anabledd yn ein cymdeithas.”

“Rwy hefyd yn credu ei bod yn bwysig i gynyddu ymwybyddiaeth am anabledd mewn gwledydd ledled y byd. Rwy’n ymwybodol iawn bod ymwybyddiaeth yn brin mewn rhai gwledydd a bod hynny wedi esgor ar agweddau negyddol sydd yn eu tro’n amharu ar gyfleoedd bywyd pobl anabl. Hefyd, mewn gwledydd sy’n datblygu, lle mae tlodi’n gyffredin iawn, mae gwarantu lle i anabledd ar yr agenda gwleidyddol a sicrhau cyfarpar i helpu pobl anabl yn cyflwyno heriau gwahanol iawn i’r rheini sy’n ein hwynebu ni yn y DU.” 

Mae Owen, sy’n gyn athro, am weld diddymu’r bwlch rhwng cyrhaeddiad llythrenedd, rhifedd a lefel cymwysterau dysgwyr o gefndiroedd cefnog a’r rheiny sy’n dod o gefndiroedd llai breintiedig, yn ogystal â diddymu’r un bwlch rhwng gwledydd. Byddai hynny’n gyfraniad arwyddocaol i wireddu dau o Nodau Datblygiad Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig (CU) o ran darparu addysg o safon a lleihau anghydraddoldeb.

Meddai: “Yng Nghymru, mae’r bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion 16 oed sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy’n fesur o dlodi, a’u cyfoedion yn 32.4%. Mae hynny’n sefyllfa enbyd o anghyfiawn sy’n effeithio’n drwm ar gyfleoedd bywyd pobl a pherfformiad economaidd Cymru’n gyffredinol”

“Er mwyn mynd i’r afael â hyn, rhaid i ni ‘bwyso’r fantol adnoddau’ o blaid yr ysgolion a’r cymunedau sy’n dioddef fwyaf yn sgil effeithiau anghyfiawnder addysgol. Nid mater o ail-ddosbarthu cyllid yn unig yw hyn. Mae angen strategaeth ddatblygu gweithlu sy’n blaenoriaethu recriwtio athrawon o’r safon uchaf i’r ysgolion sydd eu hangen fwyaf. Felly, rhaid sicrhau ein bod yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygiad proffesiynol yr athrawon hynny. Mae gosod datblygiad arweinyddiaeth wrth galon yr agenda yma’n hollbwysig gan fod arweinyddiaeth wael yn un o ffactorau allweddol anghydraddoldeb mewn addysg. Rhaid i lunwyr polisi ymdrechu i ffeindio atebion i broblemau cyson anghydraddoldeb mewn addysg. Mae’n hanfodol, nid yn unig o ran y buddion economaidd ond hefyd oherwydd, fel y dengys ymchwil rhyngwladol, mae cydraddoldeb yn creu cymdeithasau hapusach, mwy diogel a mwy goddefgar”.  

“Ar lefel fyd-eang, byddai hyn yn arwain at gynnydd arwyddocaol yng nghanlyniadau addysgol gweledydd sy’n datblygu. Er enghraifft, heddiw mae 57 miliwn o blant ledled y byd sydd dal ddim yn derbyn addysg gynradd. Mae ffigyrau’r CU hefyd yn dangos bod dros 100 miliwn o bobl ifanc mewn gwledydd sy’n datblygu heb sgiliau llythrenedd sylfaenol. Fe hoffwn i weld y ffigyrau yma’n disgyn i sero ymhen pum mlynedd”.

Meddai Jenny Scott, Cyfarwyddwr British Council Cymru: “Unwaith eto, fe wnaeth safon y ceisiadau o Gymru ar gyfer y rhaglen hon argraff fawr iawn arnom ni. Mae’n amlwg nad oes prinder o ddarpar arweinwyr ifanc a thalentog yma yng Nghymru. Nod rhaglen Cysylltu Arweinwyr y Dyfodol yw helpu cenhedlaeth newydd i ddeall datblygiad polisi ymarferol drwy rannu profiadau a chysylltiadau gydag arweinwyr cyfoes. Bydd y rhaglen yn helpu Owen a Debbie i feithrin y sgiliau a’r cysylltiadau rhyngwladol sydd eu hangen arnynt i wneud newidiadau cadarnhaol yng Nghymru a thu hwnt."

Nodiadau i olygyddion

Cysylltu Arweinwyr y Dyfodol

Rhaglen hir-dymor i feithrin cymuned a chenhedlaeth newydd o arweinwyr o bob rhan o’r byd yw Cysylltu Arweinwyr y Dyfodol: Rhaglen i bobl ifanc sydd â syniadau mawr am greu polisiau a fydd yn newid y byd. 

Trwy gyfrwng rhaglen Cysylltu Arweinwyr y Dyfodol, mae’r British Council yn cefnogi rhwydwaith o bobl ifanc eithriadol (rhwng 18 a 35 oed) i ddatblygu eu sgiliau creu polisi ac arweinyddiaeth a meithrin cyfoeth o gysylltiadau byd-eang. Rydym yn gobeithio y bydd dysgu’r sgiliau yma’n help iddynt wrth fynd i’r afael â’r heriau sy’n eu hwynebu yn eu rhanbarthau a chael effaith gadarnhaol.

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn gweithio gyda thros 100 o wledydd ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, Saesneg, addysg a’r gymdeithas sifil. Y llynedd, ymgysyllton ni â mwy na 75 miliwn o bobl yn uniongyrchol a 758 miliwn o bobl i gyd, gan gynnwys cysylltiadau ar-lein, darllediadau a chyhoeddiadau. Rydym yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r gwledydd rydym yn gweithio gyda nhw – rydym yn newid bywydau drwy greu cyfleoedd, adeiladu cysylltiadau a meithrin hyder. Sefydlwyd y British Council ym 1934 ac rydym yn elusen yn y Deyrnas Unedig a gaiff ei llywodraethu gan Siarter Frenhinol ac yn gorff cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn derbyn grant cyllid craidd o 15 y cant gan lywodraeth y Deyrnas Unedig. www.britishcouncil.org

Dolenni allanol

Rhannu’r dudalen hon