Dydd Mercher 08 May 2024

 

Bydd artistiaid o Wcráin yn perfformio mewn Digwyddiad Cwrdd a Chymysgu yng ngŵyl FOCUS CYMRU eleni. Dyma'r tro cyntaf i ddigwyddiad o'r fath ar gyfer cerddoriaeth o Wcráin gael ei gynnal yn FOCUS Cymru, yr ŵyl arddangos ryngwladol flaengar sy'n cael ei chynnal yn Wrecsam yn flynyddol..

Bydd y band indie, Akine, y cerddor electronig, NFNR, a'r cyfansoddwr a cherddor, Ratmir Bilodid, yn perfformio yn y digwyddiad ar 9 Mai. Mae'r digwyddiad yn cael ei gyflwyno gan fenter Music Export Ukraine, drwy raglen Partneriaethau Creadigol y D.U./Wcráin gyda chefnogaeth y British Council a'r Sefydliad Wcrainaidd. I gyd-fynd â'r rhaglen, cynhelir trafodaeth banel gan y British Council am symudedd rhyngwladol, a ffyrdd o fewnforio ac allforio cerddoriaeth mewn byd ansicr.

Bydd perfformio yn FOCUS Wales yn rhoi llwyfan gwerthfawr i'r artistiaid sy'n cymryd rhan i ddatblygu eu gyrfaoedd ynghanol heriau dadleoli a'r holl ansicrwydd yn sgil y rhyfel parhaus yn Wcráin. Tra bod Akine a Ratmir Bilodid wedi adleoli i'r Deyrnas Unedig gyda golwg ar dynnu sylw byd-eang at gerddoriaeth o Wcráin, mae NFNR wedi aros yn Kyiv, i ddefnyddio eu llwyfan i fwrw golau ar ranbarth sydd wedi cael ei chwalu gan ryfel.

Wrth sôn am arwyddocâd y digwyddiad i'r artistiaid sy'n cymryd rhan, dywedodd Dartsya Tarkovska, cyd-sylfaenwr Music Export Ukraine:                                                            

"Mae dod â thri o actau talentog o Wcráin i FOCUS Wales yn fwy na chyfle i rannu ac arddangos eu talent anhygoel ar lwyfan rhyngwladol, mae hefyd yn arwydd disglair o obaith mewn adfyd. Mae dod i FOCUS Wales yn rhoi cyfle i'r artistiaid hyn i gysylltu â chynulleidfaoedd newydd, ffurfio rhwydweithiau proffesiynol allweddol a sicrhau troedle ar ysgol y diwydiant cerddoriaeth rhyngwladol. Mae'n dysteb i'w gwytnwch a'u penderfyniad eu bod yn gwrthod gadael i gythrwfl y rhyfel dagu eu lleisiau creadigol."

Cafodd rhaglen Partneriaethau Creadigol y D.U./Wcráin ei sefydlu gan y British Council mewn cydweithrediad â'r Sefydliad Wcrainaidd. Mae'n rhoi cefnogaeth i 14 o bartneriaethau rhwng sefydliadau celfyddydol yn Wcráin a'r Deyrnas Unedig mewn amryw o ffurfiau celf. Gan adeiladau ar lwyddiant Tymor Diwylliant y D.U./Wcráin a gynhaliwyd yn 2022-23, nod y rhaglen hon yw parhau a dyfnhau'r sgwrs ddiwylliannol a'r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad.

Wrth sôn am y rhaglen, dywedodd Olena Zoria, Pennaeth y Celfyddydau, British Council Wcráin:                                                                                                                            

"Ar adeg o heriau enbyd yn Wcráin, mae Rhaglen Partneriaethau Creadigol y D.U./Wcráin yn rhoi cefnogaeth allweddol i ddiwydiannau creadigol Wcráin, a chryfhau'r partneriaethau creadigol rhwng y Deyrnas Unedig a Wcráin. Mae'r rhyfel wedi effeithio'n drwm ar artistiaid yn Wcráin ac mae natur fregus y diwydiant cerddoriaeth Wcranaidd yn amlwg: mae nifer sylweddol o gerddorion gwrywaidd ifanc yn ymladd yn rhengoedd blaen y fyddin; mae'n rhaid i grwpiau sydd ag aelodau gwrywaidd gael caniatâd arbennig cyn teithio dramor; mae 99% o artistiaid tramor wedi stopio perfformio yn Wcráin bellach; ac mae'n rhaid i nifer fawr o weithwyr proffesiynol ym maes cerddoriaeth ffeindio ffyrdd eraill o gadw dau ben llinyn ynghyd y tu hwnt i'r diwydiant cerddoriaeth yn Wcráin. Ein gobaith yw y bydd y rhaglen yma'n helpu artistiaid yn Wcráin i ddal ati drwy'r caledi presenol er mwyn codi ar eu traed wedi'r argyfwng a chymryd camau arwyddocaol tua'r dyfodol."

Yn ogystal â chyfrannu i'r Digwyddiad Cwrdd a Chymysgu, bydd Ms Tarkovska yn cyfrannu i drafodaeth banel sy'n cael ei chynnal gan y British Council am symudedd rhyngwladol, rhannu diwylliant, ac allforio a mewnforio cerddoriaeth mewn byd ansicr. Bydd y drafodaeth yn cael ei chadeirio gan Camelia Hararap, Pennaeth y Celfyddydau, British Council Indonesia. Bydd aelodau'r panel yn cynnwys arbenigwyr o wahanol feysydd o'r diwydiant cerddoriaeth rhyngwladol gan gynnwys Satria Ramadhan o Ŵyl Axean a chwmni SRM Bookings & Services Indonesia, y newyddiadurwr cerddoriaeth annibynnol, Alejandro Castillo o Fecsico, a Daniel Fernando Wahl, DJ ac awdur o WDR Cosmo yn yr Almaen.

Mae Castillo a Wahl yn mynychu'r ŵyl drwy nawdd y British Council Cymru, sydd wedi rhoi cefnogaeth i FOCUS Cymru wahodd dirprwyaeth o chwech o bartneriaid allweddol o'r diwydiant cerddoriaeth o Chile, Mecsico a'r Almaen i'r sioe arddangos eleni.

Wrth sôn am bwysigrwydd cefnogi a hybu cyfleoedd ar gyfer cyfnewid diwylliannol, dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr Gwlad, British Council Cymru

"Mae galluogi cyfnewid diwylliannol ac adeiladu rhwydweithiau rhwng artistiaid a gweithwyr proffesiynol yn niwydiant cerddoriaeth Cymru a'u cymheiriaid ar draws y byd yn hanfodol i feithrin partneriaethau creadigol cynaliadwy. Rydyn ni'n falch iawn i gefnogi FOCUS Wales eto eleni a chroesawu cynrychiolwyr rhyngwladol o faes cerddoriaeth i brofi creadigrwydd egnïol Cymru, cysylltu a chyfnewid syniadau gydag artistiaid a gweithwyr proffesiynol o'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru, a chyfranu eu safbwyntiau amrywiol i drafodaeth banel am gyfraniad allweddol symudedd rhyngwladol mewn cyfnod ansicr.

Rydyn ni'n arbennig o falch i groesawu artistiaid o Wcráin i Gymru a rhoi llwyfan rhyngwladol iddynt arddangos eu talentau. Mae eu gwytnwch dan amgylchiadau enbyd o heriol yn amlygu'r pŵer sydd gan gerddoriaeth i oresgyn ffiniau a'r rhan allweddol y mae diwylliant yn ei chwarae ym mywydau pobl; yn cysylltu pobl â'i gilydd a'r byd ehangach ar adegau o wrthdaro."

Ychwanegodd Sarah Jones, Rheolwr Rhaglenni FOCUS Wales:

"Mae FOCUS Wales yn bwrw golau'r diwydiant cerddoriaeth ar y dalent newydd orau sydd gan Gymru i'w gynnig i'r byd, ochr yn ochr â detholiad o artistiaid rhyngwladol newydd a nodedig a sesiynau rhyngweithiol i aelodau'r diwydiant cerddoriaeth. Diolch i gefnogaeth barhaus y British Council rydyn ni wrth ein bodd i gyflwyno'r Digwyddiad Cwrdd a Chymysgu ar gyfer Cerddoriaeth o Wcráin fel rhan o'n rhaglen eleni, yn ogystal â datblygu cysylltiadau newydd rhwng artistiaid a rhaglenwyr yng Nghymru a'u cymheiriaid rhyngwladol.

Mae gŵyl ryngwladol FOCUS Wales yn cael ei chynnal rhwng 9 - 11 Mai mewn amryw o ganolfannau ar hyd a lled Wrecsam.  

Nodiadau i olygyddion

Mae Music Export Ukraine yn fenter annibynnol sy'n helpu artistiaid o Wcráin sy'n dechrau ennill eu plwyf i sefydlu cysylltiadau, hyrwyddo eu cerddoriaeth a datblygu eu gyrfaoedd yn rhyngwladol. Mae prif weithgareddau'r fenter yn cynnwys cefnogi artistiaid, mentrau cydweithio traws-sector, rhaglenni cyfnewid rhyngwladol a chynnal digwyddiadau addysgiadol. Maent hefyd yn cynnal yr unig gynhadledd a sioe arddangos cerddoriaeth â phwyslais ar allforio (sy'n cael ei threfnu ddwywaith y flwyddyn yn Kyiv - 'Music Conference Ukraine'). Mae'r fenter yn un o bartneriaid Prosiectau Selector Pro British Council Wcráin, ac yn bartneriaid cyflawni gyda'r Sefydliad Wcranaidd ar gyfer rhaglen Extra Sound.

FOCUS Wales

Mae FOCUS Wales yn ŵyl arddangos ryngwladol a gynhelir mewn amryw o wahanol ganolfannau yn ninas Wrecsam yng Ngogledd Cymru. Mae'r ŵyl yn bwrw golau'r diwydiant cerddoriaeth ar dalentau cerddorol o Gymru sy'n dechrau ennill eu plwyf yn ogystal â detholiad o'r artistiaid newydd gorau o ledled y byd. Eleni, bydd FOCUS Wales yn rhedeg o 9-11 Mai, gyda 250+ o artistiaid a rhaglen lawn o sesiynnau rhyngweithiol ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth, digwyddiadau celf, a sgriniadau ffilm.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

Anna Christoforou, Uwch Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, y D.U. , British Council |  E:  anna.christoforou@britishcouncil.org

Rosalind Gould, Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, Gwledydd y D.U. , British Council | E:  rosalind.gould@britishcouncil.org 

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2022-23 fe wnaethom ni ymgysylltu â 600 miliwn o bobl.

Am fwy o wybodaeth am waith y British Council yng Nghymru ewch i:   https://wales.britishcouncil.org/  neu dilynwch ni ar Twitter, Facebook neu Instagram

Rhannu’r dudalen hon