British Council Wales and Chapter celebrate the 10th edition of Five Films for Freedom with public screenings and panel discussion on 14 March 2024
Dydd Mercher 13 Mawrth 2024
  • Mae British Council Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Chapter yn dathlu degfed penblwydd Five Films For Freedom / Pum Ffilm Dros Ryddid drwy gynnal sgriniadau cyhoeddus yng Nghymru am y tro cyntaf o ffilmiau'r rhaglen ynghyd â thrafodaeth banel ar 14 Mawrth 2024.
  • British Council a BFI Flare: Gŵyl Ffilmiau LHDTCRhA+ Llundain yn lansio 10fed sioe arddangos ddigidol pellgyrhaeddol a byd enwog, Five Films For Freedom.
  • Cyfle i wylio pump o ffilmiau byrion o'r Ffilipinau, India, Sbaen, UDA a'r Deyrnas Unedig am ddim a ledled y byd rhwng 13 - 24 Mawrth 2024.
  • Mae'r fenter nodedig yma'n cyflwyno pump o ffilmiau am ddim i gynulleidfaoedd ledled y byd gan wahodd pawb ym mhobman i sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â chymunedau LHDTCRhA+ mewn gwledydd lle mae cyfyngiadau ar ryddid a chydraddoldeb.

Gallwch archebu tocynnau am ddim ar gyfer y sgriniad a'r drafodaeth banel sy'n cael ei chynnal yn Chapter Caerdydd ar 14 Mawrth 2024 yma


Bydd Five Films For Freedom / Pum Ffilm Dros Ryddid, ymgyrch ddigidol LHDTCRhA+ fwyaf pellgyrhaeddol y byd, yn dychwelyd ar 13 Mawrth gan gyflwyno pum ffilm newydd o'r Ffilipinau, India, Sbaen y Deyrnas Unedig ac UDA i gynulleidfaoedd ar draws y byd.

Eleni, am y tro cyntaf yng Nghymru, bydd British Council Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Chapter yn cynnal sgriniadau cyhoeddus o ffilmiau'r rhaglen ar 14 Mawrth. Mae'r tocynnau ar gael am ddim, a bydd trafodaeth banel dan arweiniad Briony Hanson, Pennaeth Ffilm y British Council, yn dilyn y sgriniadau. Bydd y panel yn cynnwys Isabel Steubel-Johnson, Cyfarwyddwr Cursive (un o'r ffilmiau byr a ddewiswyd ar gyfer rhaglen eleni) a Rebecca Hardy, Gwneuthurwr Ffilm a Chyfarwyddwr Stiwdios Edge21.

Mae'r rhaglen ffilmiau yma'n parhau partneriaeth y British Council gyda BFI Flare: Gŵyl Ffilm LHDTCRhA+ Llundain. Cafodd y ffilmiau eu dewis o blith ffilmiau'r ŵyl a byddant yn cael eu hyrwyddo a'u dangos ar rwydweithiau digidol byd-eang y British Council ac ar y BFI Player am ddim.

Yn ystod pythefnos yr ŵyl (13 - 24 Mawrth 2024) mae gwahoddiad cynnes i gynulleidfaoedd ledled y byd i blymio i fyd sinema LHDTCRhA+ yn eu cartrefi a gwylio'r ffilmiau arlein am ddim.

Ers lansio rhaglen Five Films For Freedom / Pum Ffilm Dros Ryddid mae'r ffilmiau rhyngddynt wedi cael eu gwylio gan 23 miliwn o bobl, mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau.

Eleni, ar ddegfed penblwydd y rhaglen ffilmiau nodedig yma byddwn yn cyflwyno straeon LHDTCRhA+ sy'n atseinio â chryfder ac ysbryd - o hanes herfeiddiol Compton's 22 yn San Francisco, i daith deimladwy tua chariad a chytgord yn Halfway. Mae detholiad eleni, sy'n cynnwys Little One, Cursive a The First Kiss, yn plymio'n ddwfn i themau am deulu, hunaniaeth ac ymdrech pobl i gael eu derbyn.

Wrth sôn am ddegfed penblwydd Five Films For Freedom / Pum Ffilm Dros Ryddid dywedodd Briony Hanson, Cyfarwyddwr Ffilm y British Council: "Pan gafodd ein rhaglen Five Films For Freedom cyntaf ei lansio nôl yn 2015, roedd y syniad yn syml sef rhannu rhai o'r ffilmiau gwych a gafodd eu curadu gan BFI Flare gyda chynifer o bobl â phosib mewn cynifer o lefydd ag y gallem. 10 mlynedd a 50 o ffilmiau'n ddiweddarach, rydyn ni wedi ffeindio bod pobl ym mhedwar ban byd yn awchu i weld bywydau cwiar ar eu sgriniau. Rydyn ni wedi ffeindio bod cynulleidfaoedd mewn sefyllfaoedd eithriadol yn fwy dewr nag y gwnaethom ni erioed ddychmygu; ac rydyn ni wedi sylweddoli bod gan wneuthurwyr ffilm LHDTCRhA+ y gallu i newid bywydau gyda'u straeon. Ymlaen i'r ddegawd nesaf!"

Kirsty Matheson, Cyfarwyddwr Gwyliau BFI: "Ers degawd, mae Five Films For Freedom wedi rhoi cyfle i gynulleidfaoedd ledled y byd ddarganfod talentau gwneuthurwyr ffilm anhygoel a dathlu straeon a chymunedau LHDTCRhA+. Hoffwn ddiolch i'r gwneuthurwyr ffilm am eu haelioni wrth rannu eu ffilmiau ac i dîm rhaglennu BFI Flare a'n ffrindiau yn y British Council sydd unwaith eto wedi llunio rhaglen neilltuol ar gyfer ein cyfer ni i gyd."

Dyma argraffiadau rhai o'r gwneuthurwyr ffilm sydd wedi cael eu cynnwys yn rhaglen Five Films For Freedom / Pum Ffilm Dros Ryddid yn ystod y 10 mlynedd diwethaf:

Nora Mandray - cafodd ei ffilm True Wheel ei dewis yn 2015:

"Wrth rannu True Wheel drwy raglen Five Films For Freedom cafodd stori Fender Bender, menter gyfunol cwiar traws i fenywod yn Detroit, gyfle i atseinio'n fyd-eang. Bu'n fodd i godi ymwybyddiaeth a chydgefnogaeth bellach i'w gweithgareddau, mewn deialog gyda'r pedair ffilm fendigedig arall. Wrth edrych yn ôl nawr, mae'n deg dweud bod Five Films wedi bod yn gwbl arloesol o ran gweld pŵer straeon i ddod â chymunedau at ei gilydd arlein."

Dywedodd Terry Loane, Cyfarwyddwr Just Johny, a ddewiswyd yn 2023:

Roedden ni'n teimlo ein bod yn cydgerdded dan faner Five Films - 'Mae cariad yn hawl dynol' -drwy ddod â straeon teimladwy ac oesol am bobl i gynulleidfaoedd o gwmpas y byd. Mae'n golygu cymaint bod stori o ogledd Iwerddon yn cael llwyfan mor anferth - mae cyrhaeddiad y fenter yn anhygoel ac mae'r ymdrech i sicrhau bod y ffilmiau LHDTCRhA+ pwerus yma ar gael i bawb mor bwysig. Rhoddodd y llwyfan yma gyfle i ni gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ar draws y byd na fyddem efallai wedi cael cyfle i'w cyrraedd fel arall."

Jake Graf, cyfarwyddwr Chance, a ddewiswyd ar gyfer y rhaglen gyntaf erioed yn 2015:

Ro'n i yma yn Llundain ar alwad gynnar gyda grŵp o bobl ifanc yn Ne Corea. Fe glywais i nhw'n dweud 'mae'r haul newydd fachlud a dyn ni i gyd wedi eistedd yma a gwylio dy ffilm fendigedig di gyda'n gilydd'. Roedd yn brofiad rhyfedd o emosiynol i feddwl bod pobl oedd yn llythrenol ar ochr arall y byd yn gweld fy stori fach i".

Savvas Stavrou, cyfarwyddwr Buffer Zone, a ddewiswyd yn 2023

"Mae gwybod fod fy ffilm wedi cael ei gweld mewn llefydd lle mae agweddau cadarnhaol at hawliau hoyw dal yn brin yn ogystal â llefydd lle gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn beth mor obeithiol, ac mae'n meddwl y byd i fi. Dyna beth mae'r British Council wedi'i greu gyda'r rhaglen yma: gobaith."

 

Pum ffilm eleni:

Little One

Cyfarwyddwyd gan Clister Santos (Y Ffilipinau – 9 munud)

Mae mam feichiog sy'n ansicr am sut i fagu plentyn yn trefnu cyfweliad gyda'i dau dad hoyw. Ond mae ffawd yn ymyrryd wrth i dad y babi gael trawiad ar y galon. Mae atgofion a recordiwyd ar hen gamgordydd yn ei helpu i gnoi cil ar hanes ei theulu.

Cursive

Cyfarwyddwyd gan Isabel Steubel Johnson (y D.U. – 9 munud)

Pan fo menyw sydd ar fin dod â pherthynas i ben yn cael help gan ddieithryn dirgel i wella ei llawysgrifen, mae hi'n ffeindio'r llais mewnol y bu'n dyheu amdano erioed.

Halfway

Cyfarwyddwyd gan Kumar Chheda (India – 14 munud)

Pan fo cwpl sydd mewn perthynas gythryblus yn cael eu hunain wrth ddwy fynedfa wahanol i Draeth Juhu, maen nhw'n cael eu gorfodi i gerdded tuag at ei gilydd, a chwrdd hanner ffordd.

The First Kiss

Cyfarwyddwyd gan Miguel Lafuente (Sbaen – 9 munud)

Mae heddiw'n ddiwrnod arbennig i Andi. Mae e ar ei ffordd i Madrid ar gyfer dêt cyntaf gyda bachgen y gwnaeth ei gyfarfod arlein. Ond dyw pethau ddim yn troi allan cweit fel y mae'n disgwyl.

Compton's 22

Cyfarwyddwyd gan Drew de Pinto (UDA – 18 munud)

Dair blynedd cyn Stonewall, penderfynodd gweithwyr rhyw trawsryweddol a brenhinesau drag sefyll a herio trais gan yr heddlu yn Compton's Cafeteria yn ardal Tenderloin, San Francisco. Mae Compton's 22 yn dychmygu beth ddigwyddodd.

Bywgraffiadau Awduron a Chyfarwyddwyr pum ffilm eleni

Cursive - Joe Borg, Awdur Ffilm; Isabel Steuble-Johnson, Cyfarwyddwr Mae Joe yn awdur ffilm a gwneuthurwr ffilm cwiar o Ddwyrain Llundain. Mae wedi ysgrifennu myrdd o ffilmiau gwreiddiol sy'n plygu genres, gwaith ar gyfer teledu, a sgriptiau ffilmiau byrion (gan gynnwys Sundays Only, a enillodd wobr yng Nghystadleuaeth Sgript Blue Cat yn 2023). Cafodd y ffilm fer cwiar, Cursive, ei hysgrifennu gan Joe a'i chynhyrchu gan Homecoming Films. Ar hyn o bryd mae wrthi'n ysgrifennu a chyfarwyddo prosiectau sy'n cynnwys cyfres o fonologau gan gymeriadau gafaelgar, a drama gomedi fer, Resaca.

Mae Isabel yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd sy'n byw a gweithio yn Llundain. Cafodd ei henwebu ar gyfer gwobr y Cynhyrchydd Gorau am National Anthem yng Ngŵyl Ffilm Underwire yn 2018. Mae wedi gweithio gyda nifer o frandiau byd-eang ac wedi cynhyrchu cynnwys unigryw ar gyfer y teledu a chyfryngau cymdeithasol. Mae ei ffilmiau byr wedi cael eu dewis ar gyfer gwyliau ffilm sy'n cymhwyso ar gyfer gwobrau OSCAR, BAFTA a BIFA. Mae'n aelod balch o BAFTA Connect a'r British Black List.

Little One - John Clister Santos, Awdur Ffilm, Cyfarwyddwr ac Animeiddiwr Daw Clister Santos o'r Ffilipinau. Mae e'n animeiddiwr, gwneuthurwr ffilm ac artist gweledol sy'n byw a gweithio yn Manila. Mae wedi ennill amryw o wobrau yn y Ffilipinau am ei waith - Gwobr Celf Ddigidol Genedlaethol Globaltronics (2018) a gwobr Acer's Predator's Masters for Masters (2020) am ei waith ym maes Effeithiau Gweledol ac Animeiddio. Yn ddiweddar cafodd ei waith ei gynnwys yn y Graphika Manila Artbook 2023, ac enillodd wobr yng Ngŵyl Ffilm Myfyrwyr Awe and Wonder am ei waith celf arbrofol, 'Araw-Araw'. Cafodd ei ffilm fer gyntaf 'Ili-Ili' ei dangos am y tro cyntaf yn y 38ain BFI Flare: Gŵyl Ffilm LHDTCRhA+.

Compton’s 22 - Drew de Pinto (nhw) - Cyfarwyddwr, Cyd-gyfarwyddwr Ffotograffiaeth, Golygydd   Mae Drew de Pinto yn gyfarwyddwr a golygydd sy'n byw a gweithio yn Queens, Efrog Newydd. Mae eu ffilm fer ddiweddaraf, Compton's 22, wedi cael sylw gan Film Independent ac wedi'i henwebu ar gyfer gwobr IDA a'i dosbarthu gan The New Yorker yn 2024. Yn 2023 dyfarnwyd grant NewFest New Voices Filmaker i Drew. Enillodd Drew radd o Raglen Ffilm Ddogfen MFA Stanford ac maent yn aelod o Gynghrair y Golygyddion Dogfen (Alliance of Documentary Editors). Maent wedi gweithio ar brosiectau gyda The New Yorker, Vox, Art21 ac Insignia Films ymysg eraill.

Halfway - Kumar Chheda, Awdur Sgript, Cyfarwyddwr, Cynhyrchydd  Cafodd Kumar ei eni a'i fagu yn Mwmbai yn India ac mae wedi bod yn ysgrifennu ar gyfer y theatr a chyfarwyddo ers ei ddyddiau coleg. Mae wedi perfformio mewn nifer o ddramau arbrofol mewn canolfannau nodedig ledled India. Yn 2023, cyd-ysgrifenodd 'Dal Bhat' a enillodd y Wobr Genedlaethol am y Ffilm Ffuglen Fer Orau yn 69ain Gwobrau Ffilm Cenedlaethol India; ac enillodd wobr y Ffilm Orau yng Ngŵyl Ffilmiau Byr De Asia. 'Halfway' yw'r ffilm gyntaf iddo ei chyfarwyddo. Cafodd ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Jio MAMI yn 2023 lle'r enillodd y Wobr Arian am y Ffilm Orau. Ar hyn o bryd mae wrthi'n datblygu ei ffilm lawn gyntaf.

The First Kiss - Miguel Lafuente, Awdur Sgript, Cyfarwyddwr Ganed Miguel yn Madrid. Mae'n rheolwr diwylliannol a gwneuthurwr ffilm. Mae wedi cyfarwyddo nifer o ffilmiau byr, gan gynnwys 'Mi hermano' (2015), 'Mario, Kike y David' (2017), a 'Guillermo en el tejado' (2018), sydd wedi cael llwyddiant nodedig mewn gwyliau rhyngwladol ac arlein. Miguel oedd cynhyrchydd y ffilm ddogfen 'Fernández Pratsch' gan y cyfarwyddwr o'r Ariannin, Emiliano Spampinato (2020), ac ef yw cynhyrchydd y ffilm 'Después de la derrota' gan Rosa Blas Traisac sy'n cael ei chynhyrchu ar hyn o bryd. Ers 2021 mae wedi bod yn gyfarwyddwr artistig Gŵyl Ffilm LHDTCRhA+ Ryngwladol Madrid, LesGaiCineMad.

Mae rhagor o wybodaeth am Five Films For Freedom / Pum Ffilm Dros Ryddid yma:

https://film.britishcouncil.org/about/work/fivefilmsforfreedom

Gallwch wylio'r ffilmiau yma:

https://www.youtube.com/playlist?list=PLdiB3YQ6fPnnAgwUvnCwbvbWYLKpo6KkX

Gallwch archebu tocynnau am ddim ar gyfer y sgriniad a'r drafodaeth banel sy'n cael ei chynnal yn Chapter Caerdydd ar 14 Mawrth 2024 yma

Nodiadau i olygyddion

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Anna Christoforou, Uwch Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, y D.U., British Council

E:  anna.christoforou@britishcouncil.org

Rosalind Gould, Rheolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, Gwledydd y D.U., British Council

E:  rosalind.gould@britishcouncil.org 

Gwybodaeth am Five Films For Freedom / Pum Ffilm Dros Ryddid
Mae Five Films For Freedom / Pum Ffilm Dros Ryddid yn ddathliad arlein blynyddol o straeon LHDTCRhA+ rhyngwladol. Mae'n cael ei gyflwyno drwy bartneriaeth rhwng y British Council a BFI Flare: Gŵyl Ffilm LHDTCRhA+ Llundain. Cafodd y rhaglen ei lansio ar y cyd gan y British Council a'r Sefydliad Ffilm Prydeinig (British Film Institute). Nod y fenter yw amlygu a chodi lleisiau LHDTCRhA+ ac eirioli dros gariad fel hawl dynol.

Gwybodaeth am BFI Flare
BFI Flare: Gŵyl Ffilm LHDTCRhA+ Llundain yw digwyddiad ffilm cwiar hynaf y Deyrnas Unedig. Dechreuodd yn 1968 dan yr enw Gay's Own Pictures. Erbyn trydydd rhifyn yr ŵyl roedd wedi cael yr enw 'Gŵyl Ffilm Lesbiaidd a Hoyw Llundain' (London Lesbian and Gay Film Festival). Ers hynny mae wedi tyfu a datblygu i ŵyl a digwyddiad ffilm LHDTCRhA+ mwyaf nodedig y Deyrnas Unedig. Yn 2014 newidiodd yr ŵyl ei henw i BFI Flare i adlewyrchu'r cynnydd o ran amrywiaeth ei ffilmiau, ei gwneuthurwyr ffilm a'i chynulleidfa. Mae rhifyn 2024 o ŵyl BFI Flare yn cael ei rhaglennu gan Grace Barber-Plentie, Jay Bernard, Diana Cipriano, Zorian Clayton, Rhianna Ilube, Darren Jones, Wema Mumma a Brian Robinson.

Mae rhifyn 2024 yn cael ei gynnal rhwng 13 - 24 Mawrth yn BFI Southbank. Mae'r holl wybodaeth am yr ŵyl ar gael yma: bfi.org.uk/flare

 

Gwybodaeth am y BFI
Rydym yn elusen ddiwylliannol, un o ddosbarthwyr y Loteri Genedlaethol, a phrif sefydliad y Deyrnas Unedig ar gyfer ffilm a'r ddelwedd symudol.

Ein Cenhadaeth:

Cefnogi a hybu creadigrwydd a mynd ati i chwilio am y genhedlaeth nesaf o storiwyr y D.U.

Datblygu a gofalu am Archif Genedlaethol y BFI, yr archif ffilm a theledu fwyaf yn y byd.

Rhoi llwyfan i'r amrywiaeth ehangaf posib o ddiwylliant y ddelwedd symudol - o'r Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol - drwy gyfrwng ein rhaglenni a'n gwyliau, arlein ac mewn canolfannau.

Defnyddio ein gwybodaeth i addysgu a chyfoethogi gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd.

Gweithio gyda'r Llywodraeth a byd diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y Deyrnas Unedig.

Ffurfiwyd y BFI yn 1933. Mae'n elusen gofrestredig sy'n cael ei llywodraethu gan Siarter Brenhinol.

 

Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr y BFI yw Jay Hunt OBE.

Y British Council

Gwybodaeth am y British Council
Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2022-23 fe wnaethom ni ymgysylltu â 600 miliwn o bobl. 

Rhannu’r dudalen hon