Pupils from across south Wales got down to negotiations at the COP30 Simulation event
Dydd Mawrth 18 Tachwedd 2025

 

Cafodd tua 80 o ddisgyblion rhwng 16-18 oed o naw o ysgolion o Dde Cymru gyfle i gamu i esgidiau gwleidyddion, newyddiadurwyr a lobïwyr heddiw (Dydd Mawrth 18 Tachwedd) i drafod dyfodol y blaned.

Roeddent yn cymryd rhan mewn Efelychiad o Drafodaeth Argyfwng Hinsawdd COP30 yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd, gan gael profiad uniongyrchol o wahanol agweddau'r broses o negodi cytundeb hinsawdd byd-eang.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan British Council Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, i gyd-fynd â Chynhadledd COP30 yn Belém ym Mrasil. Defnyddiwyd meddalwedd efelychiad blaengar a ddatblygwyd gan MIT i ail-greu'r amodau, pwysau, cyfaddawdu a diplomyddiaeth sy'n llywio a siapio trafodaethau hinsawdd go iawn. Cymerodd y disgyblion rannau cynrychiolwyr gwahanol wledydd, lobïwyr corfforaethol a'r cyfryngau rhyngwladol - i fynd i'r afael â'r her dyngedfenol o gadw cynhesu byd-eang yn is na 1.5°C.

Arweiniwyd y trafodaethau gan ddisgyblion o Goleg Caerdydd a'r Fro a Choleg Chweched Dosbarth Caerdydd, a gymerodd rannau Ysgrifenyddiaeth y Cenhedloedd Unedig. Cafodd y digwyddiad ei hwyluso gan Dan Boyden a'r Athro Matthew Davies o Brifysgol Abertawe a sylwadau i gloi gan Huw Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Trafodaethau Amlochrog.

Yn ystod y diwrnod, bu'r cyfranogwyr yn cydweithio i ddod i gytundeb ar raddfa torri allyriadau nwyon tŷ gwydr, sut i gefnogi gwledydd sy'n datblygu, a sut i addasu i effeithiau newid yr hinsawdd i ddiogelu pobl a dinasoedd ledled y byd.

Un o'r rheini a fu'n annerch y digwyddiad oedd Hayley Morgan, Prif Weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Dywedodd: “Roedden ni wrth ein bodd yn croesawu cymaint o bobl ifanc i’r Deml Heddwch heddiw. Mae gan yr adeilad hanes hir o uno pobl yng Nghymru ac ar draws y byd i fynd i'r afael â heriau ein hoes. Yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), rydym yn gweithio gyda chymunedau i ddeall sut rydym wedi'n cysylltu'n fyd-eang a sut rydym yn effeithio ar ein gilydd trwy ein gweithredoedd.

“Rhoddodd digwyddiad heddiw gyfle i bobl ifanc yng Nghymru i feddwl am ac i weithredu dros y mater newid hinsawdd fyd-eang, wrth iddynt geisio chwarae eu rhan i gytuno newidiadau positif i bob un ohonom. Dangosodd y digwyddiad heddiw'r pwysigrwydd o weithio gyda'n gilydd i rannu gwybodaeth, gwrando ar ein gilydd a sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed wrth ddod o hyd i'r atebion sydd eu hangen arnom.”

Ychwanegodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Mae'r Efelychiad yma o Drafodaeth y Cenhedloedd Unedig yn rhoi pobl ifanc yng Nghymru wrth galon y sgwrs fyd-eang am yr hinsawdd. Tra bod cynhadledd COP30 yn digwydd yn Belém, mae'r disgyblion yn cael cyfle i gamu i esgidiau arweinwyr y byd, mynd i'r afael â materion dyrys, cwestiynnu rhagdybiaethau a dysgu sut i adeiladu consensws ar draws gwahanol ddiwylliannau. Bydd y cyfuniad yma o feddwl yn feirniadol, empathi ac ymwybyddiaeth fyd-eang yn diffinio'r genhedlaeth nesaf o ysgogwyr newid. Mae'r British Council wedi ymroi i feithrin y sgiliau hyn yng Nghymru, a grymuso ein pobl ifanc i gamu'n hyderus i'r llwyfan byd-eang a helpu i greu Cymru eangfrydig a chysylltiedig sy'n edrych allan i'r byd."

Mae'r digwyddiad efelychu yma'n rhan o raglen Cysylltu Ysgolion y British Council, sy'n cysylltu ysgolion yn y DU ag ysgolion eraill ledled y byd. Drwy'r rhaglen hon, mae'r British Council yn helpu addysgwyr i ddod â safbwyntiau rhyngwladol i mewn i'r ystafell ddosbarth a helpu pobl ifanc i feithrin y sgiliau, gwybodaeth a golwg byd-eang sydd ei angen arnynt i ymateb i heriau cyffredin y byd fel newid yr hinsawdd.

Drwy ein rhaglen Cysylltiad yr Hinsawdd (Climate Connection), mae'r British Council hefyd yn cynnig cefnogaeth i bobl ledled y byd ffeindio atebion creadigol ac ymarferol i argyfwng yr hinsawdd - gan weithio gydag addysgwyr, dysgwyr, artistiaid, ymchwilwyr, y gymdeithas sifil a llunwyr polisi yn y cyfnod cyn ac ar ôl COP30.

Mae'r digwyddiad yma'n parhau gwaith y British Council o feithrin cysylltiad, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a thramor drwy'r celfyddydau, addysg ac addysgu ieithoedd. Mae mwy o wybodaeth am waith y British Council yng Nghymru ar gael yma: https://wales.britishcouncil.org/  neu dilynwch ni ar X, Facebook neu Instagram.

Nodiadau i olygyddion

Ymholiadau'r cyfryngau - cysylltwch â

Claire McAuley, Uwch Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, British Council: +44 (0)7542268752     E: Claire.McAuley@britishcouncil.org   

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd.

Rhannu’r dudalen hon