Dydd Mercher 25 Mawrth 2015

 

Disgyblion yn dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd gyda dreigiau!

Mae disgyblion yn Ysgol Esgob Morgan yn Llanelwy wedi bod yn dysgu am y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd gyda chymorth pecynnau addysg gan y British Council ac maent wedi creu rhai dreigiau Tsieineaidd - sy'n edrych yn dra gwahanol i ddreigiau Cymreig.

Dywedodd Richard Hatwood, arweinydd pwnc dyniaethau yn yr ysgol: "Dathlodd y plant y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd fel rhan o'n Wythnos Pobl, Lleoedd, Planed ac maent wir wedi mwynhau'r stori am y ras i ddod o hyd i'r anifeiliaid i greu'r sidydd Tsieineaidd. Mae wedi bod yn wych gweld y plant yn cymryd cymaint o falchder yn eu gwaith ac yn dathlu eu cyflawniadau dros yr wythnos."

Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Rydym yn darparu ysgolion ag amrywiaeth o becynnau addysg am ddim, sy'n canolbwyntio ar bynciau sy'n amrywio o'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd i Dylan Thomas. Nid ydym yn aml yn gweld y gwaith sydd wedi'i greu drwy ddefnyddio'r pecynnau, felly roeddem yn falch iawn pan rannodd Ysgol Esgob Morgan eu lluniau o waith y plant â ni. Roedd eu dreigiau o'r radd flaenaf."

Mae pecyn addysg 'Blwyddyn y Ddafad' eleni yn cyflwyno'r gwahaniaeth a'r tebygrwydd rhwng bywydau pobl yn Tsieina a'r DU i ddisgyblion a'i nod yw helpu plant i ddysgu mwy am iaith a diwylliant Tsieina.

Mae'r pecyn yn cynnwys gweithgareddau ystafell ddosbarth o greu pypedau cysgod - un o gelfyddydau gwerin mwyaf poblogaidd a chyffredin Tsieina - i gyfri a gemau iard chwarae, yn ogystal ag adnoddau addysgu, cynlluniau gwasanaethau a gwersi.

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gyfleoedd addysgol a chydberthnasau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang.

Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd, ac mae ein 8,000 o staff - gan gynnwys 2000 o athrawon - yn gweithio gyda miloedd o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi a miliynau o bobl ifanc bob blwyddyn drwy ddysgu Saesneg, rhannu'r Celfyddydau, a chyflwyno rhaglenni addysg a chymdeithasol.

Rydym yn elusen gofrestredig o fewn y DU sydd wedi'i llywodraethu gan Siarter Frenhinol. Mae grant craidd a ariennir yn gyhoeddus yn llai na 20 y cant o'n trosiant a oedd yn £864m y llynedd. Mae gweddill ein cyllid yn cael ei ennill o wasanaethau y mae cwsmeriaid ledled y byd yn talu amdanynt, drwy gytundebau addysg a datblygu ac o bartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ein holl waith yn anelu at gyflawni ein diben elusennol ac yn cefnogi ffyniant a diogelwch i'r DU ac yn fyd-eang.

Am ragor o wybodaeth ewch i: wales.britishcouncil.org

Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council Cymru drwy

http://twitter.com/bcwales

https://www.facebook.com/BritishCouncilWales

Rhannu’r dudalen hon