- Dyfarnwyd €4.1 miliwn i Gymru ar gyfer prosiectau drwy Erasmus+ - rhaglen newydd yr UE ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon.
- Dyma flwyddyn gyntaf y rhaglen, a reolir gan Asiantaeth Genedlaethol y DU, sef partneriaeth rhwng y British Council ac Ecorys UK, gyda rhan fawr o'r sefydliad wedi'i lleoli yng Nghaerdydd yn British Council Cymru.
Yng nghylchoedd cyntaf cyllid Erasmus+, dyfarnwyd €4.1m i Gymru (ychydig dros £3m). Bydd €3.2m o'r arian hwn yn helpu plant a phobl ifanc Cymru i astudio, hyfforddi neu wirfoddoli dramor a bydd €900K yn helpu ysgolion, colegau a phrifysgolion y wlad i weithio gyda'u partneriaid Ewropeaidd i rannu arfer gorau.
Dyma flwyddyn gyntaf rhaglen Erasmus+ yr Undeb Ewropeaidd yn y DU, a anelir at sefydliadau yn y sector addysg, y sector hyfforddiant, y sector ieuenctid a'r sector chwaraeon, gyda €97.6 miliwn wedi'i ddyfarnu i 818 o brosiectau llwyddiannus yn y DU hyd yn hyn.
Roedd sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn arbennig o lwyddiannus wrth sicrhau arian i anfon myfyrwyr i astudio neu hyfforddi dramor ac aelodau o staff i gysgodi swydd a hyfforddi gyda'u cymheiriaid, ynghyd â sefydlu partneriaethau ag eraill ym meysydd addysg a hyfforddiant, chwaraeon ac ieuenctid yn y 28 a mwy o wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd a thu hwnt, gan ennill mwy na €2.5m.
Yng Nghymru, dyfarnwyd €0.7m ar gyfer addysg alwedigaethol a phrosiectau hyfforddi; €0.6m ar gyfer ysgolion; €0.01m ar gyfer addysg i oedolion a €0.2m ar gyfer ieuenctid, gyda'r arian a neilltuwyd ar gyfer ieuenctid yn mynd i ddeg prosiect gwahanol.
Cafwyd cyfanswm o 71 o geisiadau gan sefydliadau a leolir yng Nghymru yn ystod dau gylch cyntaf y cais am geisiadau yn 2014.
Dywedodd Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: "Rydym yn falch o weld arian Erasmus+ yn dod i Gymru a llongyfarchiadau i'r holl sefydliadau o Gymru a lwyddodd i gael arian. Mae Erasmus+ yn cynnig cyfleoedd newydd i bobl ifanc ledled Cymru - cyfleoedd a fydd yn gwella eu cyfleoedd gyrfa ac yn meithrin eu gallu i weithio yn economi’r byd heddiw. Mae'r rhaglen hefyd yn helpu ein hysgolion, colegau a phrifysgolion i ddatblygu partneriaethau yn Ewrop a rhannu arfer gorau.
"Daeth cylch arall o gyllid i'r sector ieuenctid a'r sector addysg alwedigaethol i ben yn ddiweddar, a ddylai olygu mwy o arian i Gymru. Bydd y broses gwneud cais ar gyfer cylchoedd cyllid 2015 yn agor yn fuan a hoffem weld hyd yn oed fwy o geisiadau yn dod o Gymru. Mae digon o amser o hyd i wneud cais cyn dyddiadau cau 2015. Gall sefydliadau sydd â diddordeb gael y wybodaeth ddiweddaraf am y broses gwneud cais a'r dyddiadau cau drwy wefan Erasmus+."
Mae Prifysgol Caerdydd wedi cefnogi rhaglen Erasmus ers cryn dipyn ac mae'n parhau i roi cyfleoedd i'w staff a'i myfyrwyr ennill profiad rhyngwladol drwy rhaglen newydd Erasmus+.
Mae'r brifysgol wedi anfon tua 300 o fyfyrwyr dramor bob blwyddyn yn rheolaidd drwy Erasmus i gael profiad gwaith neu astudio yn un o'i sefydliadau partner ledled Ewrop.
Mae Annika Axelsen, Cydlynydd Sefydliadol Erasmus+ ym Mhrifysgol Caerdydd yn egluro pam ei bod yn parhau i gymryd rhan yn Erasmus+: "Credwn fod astudio neu weithio dramor yn galluogi ein myfyrwyr i feithrin sgiliau llawer gwell na'r rhai y gallant eu cael drwy astudio yn y DU yn unig. Cefnogodd ein prifysgol y rhaglen flaenorol am sawl blwyddyn a byddwn yn parhau i wneud hynny gan ein bod yn credu bod cynnig cyfle rhyngwladol i'n myfyrwyr a'n staff yn hollbwysig i'w haddysg a'u gyrfaoedd, gan ehangu eu gorwelion a gwella cyflogadwyedd. Mae myfyrwyr yn dychwelyd â mwy o hyder, aeddfedrwydd a sgiliau bywyd. Mae staff yn frwdfrydig ar ôl dychwelyd ac yn rhannu eu hysbrydoliaeth â'n myfyrwyr."
Caiff rhestr lawn o'r prosiectau llwyddiannus ei chyhoeddi maes o law.
Cyflwynwyd Erasmus+ yn lle'r Rhaglen Dysgu Gydol Oes a'r rhaglen Ieuenctid ar Waith pan gafodd ei lansio ledled yr UE yn gynharach eleni. Yn y DU, bydd tua £840 miliwn ar gael am dros saith mlynedd hyd at 2020.
Mae Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer Erasmus+ yn bartneriaeth rhwng y British Council ac Ecorys UK.
Wrth sôn am y dyfarniadau, dywedodd Ruth Sinclair-Jones, Cyfarwyddwr Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer Erasmus+: "Cymerwyd camau breision eleni wrth greu tîm newydd, ar draws partneriaeth ffurfiol rhwng y British Council ac Ecorys fel yr Asiantaeth Genedlaethol yn y DU, gan sefydlu prosesau ar y cyd newydd, gweithio gyda system TG newydd y Comisiwn Ewropeaidd a goresgyn oedi, cyfleu'r manteision ac annog ceisiadau drwy egluro'r rhaglen fawr, ac yn aml, gymhleth hon i sefydliadau, pobl ifanc, myfyrwyr a staff."
Mae'r rhan fwyaf o staff y British Council sy'n rheoli ac yn cyflwyno rhaglen Erasmus+ yn y DU bellach wedi'u lleoli yn y swyddfa yng Nghaerdydd.