Mae Efrog Newydd a Chymru yn ymuno â'i gilydd i ddathlu wythnos pen-blwydd Dylan Thomas - gyda pherfformiad o Dan y Wenallt, arddangosfa, darlleniadau barddoniaeth a llawer mwy yn digwydd yn y ddinas fawr.
Cafodd y bardd Cymreig ei eni ar 27 Hydref 1914 ac mae 2014, sef blwyddyn ei ganmlwyddiant, wedi gweld dathliadau helaeth o'i waith, wrth i ddigwyddiadau rhyngwladol gael eu cynnal fel rhan o raglen 'Starless and Bible Black' British Council Cymru.
Mae cynhyrchiad Efrog Newydd o ddrama Dylan ar gyfer lleisiau Dan y Wenallt sy'n cynnwys Michael Sheen a Kate Burton wedi gwerthu pob tocyn yn barod. Caiff y ddrama ei pherfformio ar 26 Hydref yng Nghanolfan Farddoniaeth 92Y lle cafodd y ddrama lawn ei pherfformio am y tro cyntaf yn 1953. Caiff y perfformiad ei ddarlledu'n fyw gan BBC Radio Wales ac ar-lein gan y Ganolfan Farddoniaeth am 8pm amser y DU - gan gyflwyno'r digwyddiad hanesyddol hwn i bawb.
Bydd 'Dylan Thomas yn America' sef arddangosfa o ffotograffau, llythyrau, lluniau a llawysgrifau sy'n croniclo teithiau chwedlonol Dylan i'r UD yn y 1950au hefyd yn agor ar 26 Hydref yn Oriel Gelf Milton J. Weill.
Mae Clwb Barddoniaeth Bowery Efrog Newydd wedi trefnu 'Noson o Farddoniaeth i Ddathlu Dylan Thomas' (26 Hydref). Bydd y digwyddiad yn cynnwys yr awdures Gymreig Gwyneth Lewis, sef Bardd Cenedlaethol Cymru rhwng 2005 a 06 a’r awdur cyntaf i dderbyn teitl bardd llawryfol Cymru,; Kevin Powell, awdur a Llysgennad Rhyngwladol dros Ddathliadau Canmlwyddiant Dylan Thomas yn America a Bob Holman, bardd Americanaidd.
Hefyd yn Efrog Newydd ar 27 Hydref yn Siop Lyfrau Prin Bauman, i gyd-fynd â chanmlwyddiant Dylan caiff argraffiad newydd o The Collected Poems of Dylan Thomas, sydd wedi'i olygu gan yr Athro John Goodby o Brifysgol Abertawe, ei lansio yng nghwmni gwestai arbennig, Michael Sheen.
Cynhelir taith gerdded o amgylch Pentref Greenwich ar 29 Hydref, gan ddefnyddio ap ffôn clyfar ’ 'Dylans New York Haunts' <https://itunes.apple.com/gb/app/dylan-thomas-walking-tour/id816185449?mt... grëwyd gan ei ddiweddar ferch Aeronwy Thomas Elis a’r bardd Cymreig Peter Thabit Jones. Bydd Kevin Powell a Hannah Ellis yn tywys grŵp o westeion arbennig gwadd ar daith i ymweld â llefydd sy’n gysylltiedig â’r bardd.
I gloi’r wythnos cynhelir 'The Life and Legacy of Dylan Thomas: A Public Conversation’ (31 Hydref) gyda Hannah Ellis, y bardd Americanaidd Phil Levine a Kevin Powell yng Nghanolfan Farddoniaeth 92Y.
Fel rhan o raglen Starless and Bible Black mae’r awdur Owen Martell a'r grŵp gwerin Cymreig Fern Hill eisoes wedi teithio i'r Ariannin i gymryd rhan yng ngŵyl lyfrau Buenos Aires ym mis Mai.
Ym mis Gorffennaf, fel rhan o'r rhaglen, perfformiodd côr clustffonau cydamserol cyntaf y byd drefniant Pete M Wyer o 'And Death Shall Have No Dominion' ar strydoedd Efrog Newydd. Gallwch wylio'r digwyddiad ar You Tube http://youtu.be/96_b9EkLPhA
Aeth y cerddorion Richard James a Gareth Bonello a’r awduron Rachel Tresize a John Williams â thema Starless and Bible Black i Ŵyl Awduron Melbourne ym mis Awst.
Yn ddiweddarach eleni, bydd beirdd Cymreig ac Indiaidd yn ymweld â gwledydd ei gilydd er mwyn creu gwaith newydd wedi'i ysbrydoli gan Gymru a Dylan, gyda pherfformiadau yng Ngŵyl Lenyddol Mumbai.
Cynhelir digwyddiad olaf y rhaglen ym mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf, pan fydd Theatr Iolo yn perfformio ei gynhyrchiad o nofel Dylan ‘Adventures in the Skin Trade’ yn Awstralia ac yn creu hanes fel y cwmni theatr Cymreig cyntaf i berfformio yn Nhŷ Opera Sydney.
Dywedodd Dan Thomas, pennaeth y celfyddydau yn British Council Cymru: "Mae’r canmlwyddiant wedi bod yn gyfle i atgoffa'r byd am waith Dylan ond, yn ogystal â hynny, drwy anfon artistiaid Cymreig ar ymweliadau rhyngwladol i berfformio gwaith wedi'i ysbrydoli gan Dylan, mae'r rhaglen Starless and Bible Black wedi ein galluogi i rannu diwylliant Cymreig cyfoes a thalent lenyddol ac artistig yn rhyngwladol. Hoffwn feddwl y byddai Dylan Thomas wedi cymeradwyo hyn."