Erasmus+ yn galw am bobl ifanc anabl i feddwl yn rhyngwladol yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd
Mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd yr wythnos hon (rhwng 27 Mawrth a 2 Ebrill ac mae Clarice Barber o Brestatyn sy'n 19 oed yn annog pobl ifanc i ystyried lleoliad Erasmus+, beth bynnag fo'ch amgylchiadau personol.
Mae Clarice wedi cael ei diagnosio â Syndrom Asperger ac mae ganddi anawsterau lleferydd a chyfathrebu, ond ni wnaeth hyn ei hatal rhag cymryd rhan mewn prosiect gwirfoddoli pythefnos o hyd yng Ngwlad Belg.
Er ei bod yn berson ifanc gweithgar, nid oedd Clarice erioed wedi cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd rhyngwladol neu breswyl am fwy na un neu ddwy noson.
Dywedodd Clarice: “Am bythefnos, bûm yn gweithio ger Marche-en-Famenne yng Ngwlad Belg gyda grŵp o 11 o bobl ifanc arall o Wlad Belg, Siapan, Sbaen, Twrci, Ffrainc, Affganistan, y Weriniaeth Tsiec a'r Eidal. Roeddem yn gweithio i sefydliad cymunedol, o'r enw Grimm, yn adeiladu waliau cerrig sych, yn trwsio ffynnon ddŵr, yn adeiladu toiled anabl ac yn tynnu canclwm Japan oddi ar y safle.
"Cefais lawer o'r profiad hwn, yn arbennig o ran hunanhyder ac annibyniaeth. Profais i mi fy hun fy mod yn gallu teithio'n bell ar fy mhen fy hun, yn gallu negodi terfynellau teithio mawr ac yn gallu dod ymlaen gyda phobl o wahanol gefndiroedd a diwylliannau. Fe wnes i ffrindiau â'r 11 o wirfoddolwyr eraill a chymerais ran yn gwneud penderfyniadau a chymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp. Nawr rwy'n methu ag aros i wneud mwy o wirfoddoli rhyngwladol, gan aros yn hirrach ac rwy'n meddwl y dylai mwy o bobl ifanc ystyried gwneud hynny hefyd, waeth beth fo'u hamgylchiadau.”
Trefnwyd lleoliad gwirfoddoli Clarice gan UNA Exchange, sy'n sefydliad gwirfoddol a leolir yng Nghaerdydd, sydd wedi bod yn helpu cannoedd o bobl i gael profiadau rhyngwladol am fwy na 40 mlynedd.
Cafodd UNA Exchange arian drwy Erasmus+, rhaglen newydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon i gefnogi eu rhaglen 'Step by Step'.
Dywedodd SheilaSmith, Rheolwr Step by Step, UNA Exchange: "Mae 'Step by Step' yn cefnogi pobl ifanc sydd â llai o gyfleoedd i ymuno â gweithgareddau gwirfoddoli mewn gwledydd eraill - gwirfoddoli tymor byr yn bennaf drwy Wasanaeth Gwirfoddol Ewrop (EVS) yr UE a chyfnewidfeydd ieuenctid, fel rhan o raglen Erasmus+. Credwn fod gwirfoddoli rhyngwladol yn rym pwerus dros newid yn y byd; mae'n ffordd wych i bobl ddysgu sgiliau newydd a meithrin safbwyntiau newydd."
Dywedodd Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: "Mae straeon fel un Clarice yn ein hatgoffa o'r effaith y mae'r rhaglen yn ei chael ar bobl yng Nghymru ac rydym yn falch o allu cefnogi sefydliadau fel UNA Exchange a'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda hwy. Mae hyn hyd yn oed yn fwy perthnasol yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd.
“Mae gan sefydliadau sy'n ystyried cynnal prosiectau ieuenctid tebyg a newid bywydau pobl ifanc er gwell ddigon o amser i wneud cais am arian gan fod dau ddyddiad cau ychwanegol ar gael ar gyfer y sector ieuenctid; ar 30 Ebrill a 1 Hydref."