Bydd blas gwirioneddol fyd-eang ar arlwy gŵyl annibynnol fechan a gynhelir yn Sir Fynwy'r penwythnos yma (17-20 Gorff) wrth i rai o enwau mwyaf cyffrous byd cerddoriaeth a chelf Dwyrain Affrica lanio yng Nghymru.
Gyda chymorth rhaglen Grantiau Cydweithio Rhyngwladol y British Council mae Gŵyl Big Love wedi meithrin perthynas arbennig â Gŵyl Nyege Nyege - gŵyl nodedig yn Uganda sydd wedi ennill bri am raglen gerddorol anturus ac elfennau gweledol cyffrous.
Dechreuodd y cydweithio'n ôl yn niwedd 2024 pan deithiodd aelodau o dîm creadigol Big Love draw i Uganda i weithio ar safle gŵyl Nyege Nyege - gan rannu sgiliau, cyd-greu gosodweithiau a meithrin cysylltiadau gydag artistiaid, crefftwyr a pherfformwyr. Yr wythnos hon, mae cylch y cydweithio'n gyfan wrth i bedwar o artistiaid o Uganda gyrraedd Sir Fynwy i helpu i drawsnewid Big Love yn ddathliad o greadigrwydd trawsddiwylliannol.
"Mae gyda ni grŵp anhygoel yn dod draw o Uganda," meddai Cyfarwyddwr Creadigol Big Love, David Robertson. "Daeth Reagan Kandole (artist gweledol a chrefftiwr metal) draw'r wythnos ddiwethaf. Mae e ar y safle'n barod - yn weldio metal sgrap i greu cerflunwaith mawr. Mae e'n cydweithio â'n tîm ni yma yn y DU i addurno'r goedwig a chreu murlun ar hyd y llinell ffens a fydd hefyd yn cynnwys teyrnged i Rina, cynllunydd creadigol nodedig o Uganda a fu farw'n gynharach eleni.
"Roedd hi'n rhan anferth o gymuned Nyege Nyege a bu'n gweithio'n agos gyda ni yn ystod ein hymweliad ag Uganda. Y murlun hwn yw ein ffordd ni o anrhydeddu ei chreadigrwydd a'r cysylltiad arbennig a ddatblygodd rhyngom. Bydd ei phresenoldeb i'w deimlo ledled y safle."
Bydd tri o artistiaid cerddorol hynod o fenter gydweithredol Nyege Nyege yn ymuno â Reagan: Catu Diosis - cynhyrchydd, rapiwr a DJ o Uganda, sydd wedi ennill enw am ei chyfuniad eofn o fas rhyngwladol, rhythmau Affro ac egni trydanol. Yn ymuno â hi mae R3ign Drops, un o sylfaenwyr menter gydweithredol Afro Femme, Dope Gal. Mae hefyd yn aelod o ddeuawd DJ Black Sistarz, sy'n enwog am setiau clwb sy'n plethu genres a gwthio ffiniau. Y trydydd artist yw PÖ - cynhyrchydd, canwr a DJ o dras Ghaneaidd-Ffrengig. Mae ei pherfformiadau Affrosentrig byw a'i setiau DJ yn cofleidio popeth o dancehall i ffync o Frasil i gerddoriaeth electronig arbrofol, rap sŵn a seinweddau ôl-pync.
Bydd y tri ohonynt yn meddiannu Llwyfan y Tryc Tân - hen injan dân wedi'i haddasu - nos Sul (20 Gorff). Byddant yn cloi digwyddiadau'r penwythnos gyda sioe egnïol o gerddoriaeth electronig tanddaearol o Ddwyrain Affrica.
Yn ogystal â'r perfformiadau hyn, byddant yn cynnal gweithdai graffiti a chelf stryd i blant a theuluoedd, gan annog mynychwyr yr ŵyl i greu gweithiau celf lliwgar wedi'u hysbrydoli gan Ddwyrain Affrica.
Wrth sôn am yr hyn y gall mynychwyr yr ŵyl ei ddisgwyl, dywedodd David: "Mae ein cynulleidfa'n eangfrydig ac yn agored i ddarganfod cerddoriaeth newydd. Maent yn teimlo'n gyffrous am y fenter hon - mae'n dipyn o beth i ni. Mae'r artistiaid o Uganda'n dod ag elfennau egnïol o Ddwyrain Affrica i gerddoriaeth electronig gyfoes sy'n ffres ond sydd â'u gwreiddiau'n ddwfn yn eu diwylliant. Mae pobl sydd wedi bod i Ŵyl Nyege Nyege o'r blaen wedi cysylltu â ni, felly maent wedi creu argraff ryngwladol yn barod. Bydd mynychwyr yr ŵyl yn profi rhywbeth deinamig, egnïol a gwahanol iawn - digwyddiad sy'n creu cyswllt gwirioneddol rhwng Cymru a'r byd drwy gerddoriaeth a chelf."
I David, mae'r cydweithio'n mynd y tu hwnt i ddigwyddiadau un penwythnos.
Dywedodd: "Mae cydweithio gydag artistiaid a ffoaduriaid yn Uganda wedi agor ein llygaid i wahanol ffyrdd o weithio a meddwl. Mae llawer o ddyfeisgarwch a bwrlwm yn y cymunedau lleol ac rydyn ni'n falch iawn o'r cyfle i ddod ag ychydig o'r ysbryd yna'n ôl i fan hyn - nid dim ond o ran y gerddoriaeth, ond y gwaith celf a naws yr ŵyl a sut mae'n edrych.
"Dim ond dechrau yw hyn. Rydyn ni wedi sicrhau cyllid i ddatblygu thema 'Y Byd yng Nghymru' ac mae'r bartneriaeth yma gyda Nyege Nyege - a hwyluswyd gan y British Council - wedi helpu i ddatgloi hynny. Rydyn ni am i Big Love adlewyrchu cyfoeth hunaniaeth Cymru, gan gynnwys straeon a seiniau cymunedau ar wasgar. Mae ein cynulleidfa'n chwilfrydig ac eangfrydig, ac rydyn ni eisiau parhau i'w synnu a'u rhyfeddu."
Mae tîm Big Love hefyd yn gobeithio dychwelyd i Uganda i barhau'r cydweithio gyda Nyege Nyege a gweithwyr creadigol eraill yn Nwyrain Affrica.
"Rydyn ni wedi datblygu cyfeillgarwch go iawn." meddai David. "Rydyn ni am gadw'r cysylltiad yna'n fyw, a chadw i'w dyfu."
Cafodd rhaglen Grantiau Cydweithio Rhyngwladol y British Council ei lansio i gefnogi partneriaethau rhwng y DU ac artistiaid rhyngwladol - i hybu creadigrwydd, cyd-gyfnewid a chysylltiadau byd-eang hirdymor.
Wrth ganmol y prosiect cydweithio hwn, dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Mae partneriaeth Gŵyl Big Love ag artistiaid o Ddwyrain Affrica'n enghraifft wych o'r math o gyfnewid diwylliannol roeddem am i'n Grantiau Cydweithio Rhyngwladol ei hybu. Wrth rannu sgiliau a thalent gerddorol ac artistig, mae'r prosiect yma'n creu cysylltiadau parhaus sy'n cyfoethogi'r ddwy gymuned. Rydyn ni'n teimlo'n gyffrous i weld sut y bydd y berthynas yma'n datblygu yng Nghymru a thu hwnt."
Cynhelir Gŵyl Big Love rhwng 17 a 20 Gorffennaf 2025 yn Sir Fynwy.
Mae mwy o wybodaeth a manylion tocynnau ar gael yma: www.biglovefestival.co.uk
Am fwy o wybodaeth am Grantiau Cydweithio Rhyngwladol y British Council, ewch i:
https://arts.britishcouncil.org/projects/international-collaboration-grants