Yn swatio yng nghefn gwlad Cymru mae gŵyl fach sydd â chynlluniau mawr ar gyfer 2025
Eleni, mae gŵyl Gŵyl Big Love sy'n cael ei chynnal yn Sir Fynwy (rhyw 35 munud o Gaerdydd a Bryste) yn gobeithio bwrw golau ar gerddoriaeth, celfyddyd a diwylliant Dwyrain Affrica.
Gyda chymorth Grant Cydweithio Rhyngwladol y British Council bydd yr ŵyl, sy'n arfer denu tua 3,000 o bobl bob blwyddyn i fwynhau cymysgedd bywiog o gerddoriaeth, gosodweithiau celf a pherfformiadau, yn tyfu mewn maint ac uchelgais yn sgil partneriaeth newydd gyda Gŵyl Nyege Nyege yn Wganda.
Dechreuodd y cydweithio gyda Gŵyl Nyege Nyege (sy'n enwog am ddathlu bwrlwm celfyddydau a cherddoriaeth De Affrica) ym mis Tachwedd 2024 pan deithiodd tîîm Big Love i Wganda i weithio gydag artistiaid lleol a ffoaduriaid. Cawsant gyfle i rannu eu harbenigedd mewn addurno safleoedd a chreu gosodweithiau creadigol, gan hyfforddi crefftwyr lleol i wella argraff weledol yr ŵyl. Nawr, mae cynlluniau ar waith i ddod â blas o Nyege Nyege i Gymru.
Wrth sôn am y grant, ac amser y tîîm yn Wganda, dywedodd David Robertson, Cyfarwyddwr Creadigol Gŵyl Big Love:
“Buom ni yn Wganda am bythefnos – fe hedfanom ni allan wythnos a hanner cyn i'r ŵyl ddechrau, yna ro'n ni yno ar gyfer yr ŵyl ei hunan, ac wedyn fe dreulion ni ddeuddydd arall yn tynnu'r cyfan i lawr. Fe gawsom ein llorio'n llwyr gan Wganda a'r Wgandiaid. Roedd pawb mor gyfeillgar, ac mae'n wlad mor hardd.
"Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal yn nhref fywiog Jinja, wrth darddiad yr afon Nîl. Un o'r gwahaniaethau mawr rhwng eu gŵyl nhw a'n gŵyl ni yw'r bywyd gwyllt! Roedd corynnod gwenwynig ym mhob man, a bu'n rhaid i ofalwr y tir symud dros 30 o nadroedd cobra o'r safle yn ystod yr wythnos gyntaf. Roedd tyllau yn y ddaear, yn llythrennol, lle'r oedd y nadroedd yn byw. Ar y dechrau ro'n ni braidd yn nerfus, ond erbyn diwedd ein hamser yno doedden ni ddim yn meddwl ddwywaith am y peth.
"Ac yn sicr, roedd yna heriau eraill. I bob golwg dim ond un ysgol oedd ar y safle cyfan, a ro'n ni i gyd yn ymladd drosti. Yn y diwedd bu'n rhaid i ni logi ein hysgol ein hunan achos doedd dim ffordd arall o gwblhau ein gwaith. Hefyd, roedd llawer mwy o drefniadau diogelwch na'r hyn rydym wedi ei arfer ag ef - gyda nifer fawr o heddlu a synhwyryddion metel dych chi'n arfer eu gweld mewn meysydd awyr."
Er gwaethaf yr heriau hyn, bu'r ymweliad yn brofiad gwerthfawr iawn i dîm Big Love.
Dywedodd David: "Fe aethom â phedwar siwtces gyda rhai o'n deunyddiau addurno gyda ni. Ein bwriad oedd eu hail-ddefnyddio'n gyflym allan yno i greu argraff weledol. Wedyn fe aethom i farchnadoedd cyfagos gyda rhai o'r artistiaid a thywyswyr lleol, gan gynnwys ffoaduriaid o Congo a Swdan, i gael y deunyddiau angenrheidiol i allu dangos i dîm Nyege Nyege sut rydym yn creu ein haddurniadau. Yn y pen draw, fe lwyddom i hongian addurniadau 12 troedfedd i fyny yn y coed ac addurno pabell anferth yr ŵyl. Fe ddysgon ni lawer gan grefftwyr lleol a 'dyn ni'n gobeithio defnyddio hynny nôl adref - gan gynnwys gwell dulliau o ddefnyddio pren yn gyflym, yn rhad ac arloesol, a chreu addurniadau o fetel sgrap."
Mae David a'i dîm yn bwriadu dod ag artistiaid a pherfformwyr o'r radd flaenaf o Ddwyrain Affrica i Gymru ar gyfer Gŵyl Big Love eleni.
Dywedodd: "Byddai hynny'n dod â dimensiwn hollol newydd i Big Love, ac mae llawer o gerddoriaeth a thalent diddorol yn dod allan o Ddwyrain Affrica. Mae amrywiaeth o ran artistiaid a cherddoriaeth wedi bod yn rhan o'r ŵyl erioed ac mae ein cynulleidfa'n agored i arddulliau a genres newydd. Beth bynnag 'dyn ni'n ei benderfynnu, bydd yn cael ei lywio gan dîm Nyege Nyege a'r hyn sy'n gweithio iddyn nhw. Efallai bydd hynny'n golygu cymysgedd o artistiaid gweledol a cherddorion, neu dim ond y naill neu'r llall, ond rydyn ni'n agored i'r ddau."
"Rydyn ni hefyd yn ystyried thema 'Y Byd yng Nghymru' ar gyfer 2025. Fe hoffem ni greu digwyddiad eleni sy'n dathlu hunaniaeth amlddiwylliannol Cymru. Byddem wrth ein bodd yn cydweithio gyda grwpiau cymunedol lleol, yn enwedig y rheini sy'n cynrychioli gwahanol ddiwylliannau sydd wedi mudo i Dde Cymru. Byddai'n gyfle i ddangos sut maen nhw wedi cyfoethogi diwylliant Cymru. Er enghraifft, mae gan Gaerdydd, fel un o'n porthladdoedd mwyaf, draddodiad o gymunedau o bobl o wledydd Affrica - yn enwedig o Somalia, Ethiopia ac Eritrea.
"Beth bynnag 'dyn ni'n ei wneud, dw i'n credu y bydd yn gwneud i'n cynulleidfa eistedd yn ôl a dweud, 'Wow, dyna rywbeth dw i ddim wedi ei weld neu'i glywed o'r blaen'. A gobeithio bydd hynny'n gwneud iddyn nhw eisiau darganfod mwy."
Nod Grantiau Cydweithio Rhyngwladol y British Council yw cefnogi artistiaid o'r Deyrnas Unedig i ddatblygu gwaith celf creadigol o bob math gyda chydweithwyr rhyngwladol, gan annog dulliau arloesol o weithio a chydweithio. Bu cais 4Pi Productions o Gaerdydd hefyd yn llwyddiannus yn y rownd ariannu hon. Bydd y prosiect yn adeiladu ar fenter gydweithio flaenorol gyda Matamba Film Labs yn Zimbabwe. Teitl y prosiect yw 'Future Femmes - XR Labs'. Byddant yn teithio i'r brifddinas, Harare, ym mis Ebrill lle byddant yn hyfforddi gweithwyr creadigol benywaidd mewn technolegau trochol a hefyd yn cynhyrchu ffilm ddawns 360° arloesol.
Wrth sôn am y rhaglen Grantiau Cydweithio Rhyngwladol, dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Mae gweld y prosiectau hyn o Gymru yn rhan o'r rhaglen Grantiau Cydweithio Rhyngwladol yn ffantastig. Bydd partneriaeth gyffrous Gŵyl Big Love yn dod â blas rhyngwladol unigryw i Gymru, wrth i artistiaid o Ddwyrain Affrica ymuno a Gŵyl Big Love eleni. Drwy gyfnewid sgiliau, syniadau a diwylliant, bydd y fenter gydweithio hon nid yn unig yn cyfoethogi profiad cynulleidfa'r ŵyl yng Nghymru, ond hefyd yn meithrin cysylltiadau parhaus sy'n dathlu creadigrwydd a chymuned ar draws ffiniau. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld sut y bydd y prosiect yma a phrosiect 4Pi yn datblygu yn ystod 2025, a'u heffaith ar ein meysydd creadigol."
Mae dau ddeg pedwar o brosiectau ar draws y Deyrnas Unedig wedi bod yn llwyddiannus wrth geisio am Grantiau Cydweithio Rhyngwladol y British Council eleni. Mae mwy o wybodaeth am y gronfa ar gael yma: https://arts.britishcouncil.org/projects/international-collaboration-grants
Mae tocynnau ar gyfer Gŵyl Big Love eleni ar werth nawr. Mae'n cael ei chynnal rhwng 17-20 Gorffennaf 2025. Cewch fwy o wybodaeth yma: https://biglovefestival.co.uk/
Mae'r rhaglen Grantiau Cydweithio Rhyngwladol yn parhau gwaith y British Council o feithrin cysylltiad, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a thramor drwy'r celfyddydau, addysg, ac addysgu'r iaith Saesneg. Am fwy o wybodaeth am ein gwaith yng Nghymru ewch i https://wales.britishcouncil.org/en neu dilynwch ni ar X, Facebook neu Instagram.