Mae'r Gentle Good - y cerddor gwerin cyfoes Cymraeg, Gareth Bonello - yn dychwelyd i Tsieina i berfformio ei albwm llwyddiannus a ysbrydolwyd gan Tsieina, Y Bardd Anfarwol,fel rhan o'r Flwyddyn Cyfnewid Diwylliannol gyntaf erioed rhwng y DU a Tsieina.
Yn 2011, cymerodd Gareth ran yn rownd gyntaf y Rhaglen 'Musician in Residence' yn Tsieina, a drefnwyd gan y British Council a PRSF.
Treuliodd chwe wythnos yn Chengdu, yn ne-orllewin Tsieina, yn gweithio gyda cherddorion lleol ac yn chwilio am ysbrydoliaeth yn Nheml Wuhou, Dyffryn Kuaizhai, Bwthyn To Gwellt Dufu, Opera Sichuan a hyd yn oed Canolfan Pandas yn Chengdu.
Defnyddiodd yr elfennau Tsieineaidd unigryw hyn i gyfansoddi Y Bardd Anfarwol, gan weithio gyda'r Chengdu Associated Theatre of Performing Arts a seilio'r albwm ar fywyd bardd enwog y Llinach Tang, Li Bai.
Y mis hwn (Mawrth 2015), mae Gareth wedi'i wahodd yn ôl i Tsieina gan Y British Council i rannu ei albwm a ysbrydolwyd gan Chengdu ac i berfformio mewn tair dinas yn ne-orllewin Tsieina. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd tri cherddor o'r DU yn dilyn ôl traed Gareth wrth iddynt ymuno â thrydedd rownd y rhaglen 'Musician in Residence' yn Tsieina.
Mae albwm Y Bardd Anfarwolyn cyfuno cerddoriaeth a barddoniaeth draddodiadol o Gymru a Tsieina i greu effaith drawiadol, ac mae'n cynnwys cydweithio rhwng cerddorion o Tsieina a'r DU. Mae wedi cael canmoliaeth eang ac enillodd wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014.