Cynhaliwyd cyfarfod agoriadol Grŵp Traws-Blaid ar Gymru Ryngwladol Cynulliad Cenedlaethol Cymru'r wythnos hon.
Pwrpas y grŵp yw archwilio a hyrwyddo cysylltiadau Cymreig yn rhyngwladol, a darperir y Weinyddiaeth gan British Council Cymru. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar y cyd a’r Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Addysg Uwch i drafod pwysigrwydd cysylltiadau rhyngwladol i’r sector AU yng Nghymru.
Yn ystod y cyfarfod agoriadol, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, Cadeirydd Grŵp Rhyngwladol Cymru:
“Mae cofrestriad ein grŵp yn pwysleisio ein bwriad i annog ein cenedl a’r Cynulliad i fod yn fwy parod i edrych yn allanol (her sydd hyd yn oed yn fwy difrifol yn wyneb bleidlais ar aelodaeth yr UE); i chwilio am ffyrdd o hyrwyddo proffil Cymru ledled y byd, gan feithrin cysylltiadau rhyngwladol mewn masnach, diwylliant, cymdeithasol a gwleidyddol ac i ddysgu gan lywodraethau, seneddau a chymdeithas ddinesig mewn gwledydd eraill.
“Yn yr amseroedd anodd sydd ohoni, ac rwy’n gobeithio bod angen i fod yn rhyngwladol yn ein rhagolwg yn amlwg i’r rheiny sydd wedi dangos diddordeb yng ngwaith y grŵp newydd hwn.”
Ffocws y cyfarfod cyntaf hwn oedd pwysigrwydd cysylltiadau rhyngwladol i’r sector addysg uwch yng Nghymru.
Siaradodd Iwan Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe a Chadeirydd Global Wales am ryngwladoli Addysg Uwch yng Nghymru, cyn i David Hibler, Arweinydd Rhaglen AU British Council Erasmus + siarad am astudio dramor rhyngwladol. Cytunodd y ddau siaradwr ei fod yn hanfodol i ddatblygu cysylltiadau rhyngwladol.
Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Iwan Davies: “Rwyf wrth fy modd bod y grŵp Trawbleidiol Cymru Ryngwladol wedi cael ei sefydlu. Mae Prifysgolion yn sefydliadau allanol eu golygon; maen nhw’n ffurfio rhan graidd o ffabrig rhyngwladol Cymru ac yn falch o’u rhwydweithiau rhyngwladol. Yn dilyn yr ansicrwydd am ein perthynas â’r Undeb Ewropeaidd, mae hi’n fwy pwysig nag erioed bod Cymru fel cenedl yn cadw ei drysau ar agor i fusnes a'i bod yn croesawu partneriaid rhyngwladol. Edrychaf ymlaen at gydweithio a’r grŵp hwn i ddatblygu’r gwaith pwysig yma.”
Ychwanegodd David Hibler: “Mae rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon wedi rhoi’r cyfle i filoedd o bobl ifanc Cymru i astudio ac i weithio dramor. Mae’r buddion o brofiadau rhyngwladol wedi’u dogfennu’n fanwl, er enghraifft mae myfyrwyr Erasmus yn fwy tebygol o ragori yn eu hastudiaethau ac ennill gradd gyntaf neu radd 2:1. Mae’r sgiliau a gasglir o brofiad rhyngwladol, megis rhwydweithio, gallu gweithio mewn timau amlddiwylliannol, sgiliau ieithyddol gwell a mwy o hyder, a phob un o’r rhain yn arwain at well cyfleoedd o gyflogaeth. Yng ngoleuni Brexit mae angen y rhaglen Erasmus+ fwy nag erioed ac rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ei pharhad a’i hehangiad.”