Dydd Mawrth 26 May 2020

 

Gall athrawon ysgolion cynradd a rhieni fanteisio ar bŵer cerddoriaeth a drama i helpu plant ddysgu Sbaeneg a Chymraeg drwy ddefnyddio adnoddau gwefan newydd yn rhad ac am ddim. 

Mae gwefan Cerdd Iaith yn cynnwys dros 30 o weithgareddau amrywiol, fel gemau drama syml a chaneuon mewn tair iaith. 

Mae’r wefan yn darparu popeth sydd ei angen i arwain eich plant drwy’r gweithgareddau, gan gynnwys cyfarwyddiadau llawn, fideos canllaw, nodiant cerddorol a geiriau’r holl ganeuon, traciau sain ac awgrymiadau am sut i ymestyn y gweithgareddau ac ystyriaethau i gnoi cîl arnynt. 

Gall athrawon ddefnyddio’r adnoddau ar gyfer un wers benodol, cyfres o wersi neu fel gweithgareddau unigol, byr. 

Cafodd y prosiect ei ddatblygu a’i lywio gan British Council Cymru. Dywedodd Rebecca Gould, Pennaeth Celfyddydau British Council Cymru: “Mae Cerdd Iaith yn adnodd newydd a phwerus ar gyfer athrawon cynradd sy’n anelu at daclo’r dirywiad mewn dysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion. 

Bydd y gweithgareddau’n ysgogi a thanio brwdfrydedd plant i ddysgu’n weithredol a siarad ieithoedd newydd yn hyderus. 

Mae’r wefan yn llawn dop o gynnwys gwreiddiol i gyffroi’r dychymyg. Mae’n hawdd i’w defnyddio ac rydyn ni’n gobeithio y bydd athrawon yn manteisio ar y cyfle i archwilio a phori drwy’r gweithgareddau. 

Rwy’n credu y gwelan nhw ei fod yn adnodd delfrydol i helpu gyda’r her o ddysgu plant gartref. 

Byddwn hefyd yn argymell y wefan i rieni sy’n chwilio am weithgareddau addysgol llawn hwyl i’w defnyddio gyda’u plant.”  

Cafodd yr adnodd ei gynllunio i’w ddefnyddio gyda disgyblion cynradd rhwng 7 – 11 oed. 

Bydd yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 sy’n paratoi i symud i’r ysgol uwchradd a gwersi ieithoedd tramor modern ffurfiol, ond mae’n addas i’w ddefnyddio gyda dysgwyr iau hefyd. 

Datblygwyd y wefan mewn partneriaeth gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ieithyddion o Athrofa Addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac ERW, un o gonsortia addysg rhanbarthol Cymru. 

Cafodd y caneuon eu creu’n arbennig ar gyfer y wefan gan y Prifardd Mererid Hopwood a’r cyfansoddwyr Gareth Glyn a Tim Riley. 

Cyfeiriad y wefan yw www.cerddiaith.com

 

Nodiadau i olygyddion

Dechreuodd Cerdd Iaith fel prosiect dysgu creadigol yn 2016. Nod y prosiect oedd archwilio dulliau arloesol o ddefnyddio cerddoriaeth i ddysgu ieithoedd mewn ysgolion cynradd. Cafodd y prosiect ei ariannu gan Gronfa Datblygu Athrawon Sefydliad Paul Hamlyn. 

Dros y tair blynedd diwethaf bu arweinwyr y prosiect, sy’n cynnwys cerddorion, ieithyddion ac ymarferwyr drama ynghyd â thîm British Council Cymru, yn cydweithio gydag athrawon o Dde a Gorllewin Cymru. Mae British Council Cymru hefyd yn cynnig hyfforddiant i athrawon, yn eu hysgolion a/neu drwy sesiynau allanol, fel rhan o’u Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP). Mae’r hyfforddiant yn cynnwys sesiynau ymarferol ar weithgareddau addysgu gweithredol yn ogystal ag ymweliadau gan ymarferwyr i arddangos gwersi’n uniongyrchol mewn ysgolion os oes angen. 

Mae’r tîm wedi bod yn mireinio a dyfnhau ei ddull gweithredu, ac yn awr mae British Council Cymru yn ategu ac ymestyn ei rhaglen hyfforddiant i athrawon drwy lansio’r adnodd ar-lein am ddim yma. 

Nod Cerdd Iaith yw cefnogi athrawon gyda’r gwaith o adeiladu ar sgiliau Cymraeg a Saesneg y dysgwyr wrth gyflwyno trydedd iaith yn y dosbarth. Mae’n ateb gofynion Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’r Cwricwlwm Newydd i Gymru wth ysgogi a thanio brwdfrydedd plant i ddysgu’n weithredol a dechrau siarad ieithoedd newydd. Cafodd ei gynllunio i gyd-fynd â’r rhaglen hyfforddi a gynigir gan y British Council, ond gellir ei ddefnyddio’n annibynnol hefyd. 

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn gweithio gyda thros 100 o wledydd ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, Saesneg, addysg a’r gymdeithas sifil. Llynedd, fe wnaethom ni ymgysylltu â mwy na 65 miliwn o bobl yn uniongyrchol, a 731 miliwn o bobl i gyd - gan gynnwys cysylltiadau ar-lein, darllediadau a chyhoeddiadau. Rydym yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r gwledydd yr ydym yn gweithio gyda nhw. Rydym yn newid bywydau drwy greu cyfleoedd, adeiladu cysylltiadau a meithrin hyder. Sefydlwyd y British Council ym 1934 ac rydym yn elusen yn y Deyrnas Unedig sy’n cael ei llywodraethu gan Siarter Frenhinol ac yn gorff cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn derbyn grant cyllid craidd o 15 y cant gan lywodraeth y Deyrnas Unedig

Rhannu’r dudalen hon