Ers 2014, mae Cymru wedi elwa ar bron i €30 miliwn o gyllid o raglen Erasmus+, yn ôl ffigurau newydd a ryddhawyd gan yr Asiantaeth Genedlaethol sy'n gyfrifol am ddarparu cynllun yr Undeb Ewropeaidd yn y DU.
Mae eleni yn nodi 30 mlynedd ers sefydlu Erasmus+ a rhaglenni blaenorol, carreg filltir sy'n cael ei dathlu mewn digwyddiad yn y Senedd yng Nghaerdydd ar 13 Tachwedd. Bydd Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, yn agor y digwyddiad.
Hyd yn hyn yn 2017, mae mwy na €8.6 miliwn wedi'i ddyfarnu i sefydliadau addysgol, hyfforddiant a gwaith ieuenctid yng Nghymru, o gymharu â €5.1 miliwn yn 2014, blwyddyn gyntaf y rhaglen Erasmus+ bresennol. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 68% ac mae un terfyn amser ar gyfer cyllid ieuenctid i'w brosesu o hyd, sy'n golygu y gall y ffigur godi hyd yn oed yn fwy.
Caiff y cyllid a ddyfarnwyd eisoes eleni ei rannu gan 41 o sefydliadau yng Nghymru – €3.5 miliwn i brifysgolion, €2.6m i ysgolion, €2.2 i'r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol a €362,000 i sefydliadau gwaith ieuenctid.
Gan groesawu'r newyddion hyn, dywedodd Ms Morgan: "Rwy'n falch noddi digwyddiad yn y Senedd yng Nghaerdydd ar 13 Tachwedd, sy'n dathlu 30 mlynedd ers sefydlu rhaglen Erasmus+, lle bydd cyfranogwyr o bob cwr o Gymru yn bresennol, megis Colegau Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd, sydd wedi cael budd o'r rhaglen.
"Mae'n newyddion gwych bod niferoedd y bobl ifanc, myfyrwyr a staff addysg a hyfforddiant o Gymru yr amcangyfrifir eu bod yn mynd dramor ar Erasmus+ hefyd wedi cynyddu, gan godi o 2,595 yn 2015 i 2,903 yn 2016."
Dywedodd Madeleine Rose, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Asiantaeth Genedlaethol, sef partneriaeth rhwng y British Council ac Ecorys UK: "Mae sefydliadau ledled Cymru wedi bod yn llwyddiannus yn gwneud cais am gyllid Erasmus+ ar gyfer amrywiaeth o brosiectau gwerth chweil i wella'r tirlun addysg a hyfforddiant a rhagolygon miloedd o bobl ifanc.
"Mae terfynau amser ar gyfer ceisiadau 2018 newydd gael eu rhyddhau ac mae'r swm o gyllid sydd ar gael i'r DU y flwyddyn nesaf ar ei uchaf erioed, sef tua €170 miliwn.
"Gyda gwarant gan y Llywodraeth i anrhydeddu cynigion llwyddiannus, mae wir yn fusnes fel arfer.
"Byddwn yn annog sefydliadau yng Nghymru i barhau i ymgysylltu ag Erasmus+ er mwyn helpu hyd yn oed yn fwy o'i phobl ifanc a'i staff addysgol i gael budd o brofiad rhyngwladol.”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr British Council Cymru, Jenny Scott, "Mae galluogi pobl a sefydliadau mewn cymunedau ledled Cymru i ddysgu o'u cymheiriaid rhyngwladol a rhannu â nhw, wrth wraidd popeth a wnawn.
"Mae'r ffigurau newydd hyn ar gyfer Erasmus+ yn dangos y diddordeb sy'n cynyddu o hyd ledled sectorau addysg a hyfforddiant ieuenctid Cymru ar gyfer cyfnewid, cydweithio a phartneriaethau ar lefel ryngwladol."
Cynhelir sesiwn gwybodaeth am sut y gall sefydliadau yng Nghymru wneud cais ar gyfer cyllid Erasmus+ yn 2018 yng Nghaerdydd ar 21 Tachwedd. Gall unigolion sydd â diddordeb mewn mynychu, gofrestru ar wefan Erasmus+.