Blwyddyn yma bydd yr Wythnos Addysg Rhyngwladol yn digwydd o’r 17fed o Dachwedd, a mae’r British Council yn trefnu gweithdai i helpu ysgolion dod â’r byd i eu disgyblion Cymraeg.
Bydd y gweithdai Rhyngwladu Pobl Ifanc yn cymryd lle ar y 19fed o Dachwedd yn Sir Gâr a’r 27aun o Dachwedd yng Nghaerdydd.
Bydd y gweithdai yn rhad ac am ddim i fynychu, a bydd gan ysgolion isaf, uwchradd a colegau y cyfle i weld fel gallwn cyflwyno dimensiwm rhyngwladol i’r dosbarth trwy prosiectau y British Council.
Bydd y digwyddiadau yn cynnwys sgyrsiau gyda siaradwyr cyweirnod a gweithdau gyda athrawon sydd wedi llwyddo i ddefnyddio gwaith rhyngwladol yn eu ysgolion. Bydden yn rhannu eu profiadau a cynnig cyngor ymarferol i sut gall athrawon a disgyblion manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd rhyngwladol ar gynnig.
Ffeindiwch mwy o fanylion ar wefan British Council http://wales.britishcouncil.org/
Workshops
ESDGC (education for sustainable development and global citizenship) - Estyn
Connecting Classrooms
International School Awards
Erasmus+
International Professional Learning Community
Family Engagement
Modern Foreign Languages
Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gyfleoedd addysgol a chydberthnasau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang.
Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd, ac mae ein 7000 o staff - gan gynnwys 2000 o athrawon - yn gweithio gyda miloedd o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi a miliynau o bobl ifanc bob blwyddyn drwy ddysgu Saesneg, rhannu'r Celfyddydau, a chyflwyno rhaglenni addysg a chymdeithasol.
Rydym yn elusen gofrestredig o fewn y DU sydd wedi'i llywodraethu gan Siarter Frenhinol. Mae grant craidd a ariennir yn gyhoeddus yn llai na 25 y cant o'n trosiant a oedd yn £781m y llynedd. Mae gweddill ein cyllid yn cael ei ennill o wasanaethau y mae cwsmeriaid ledled y byd yn talu amdanynt, drwy gytundebau addysg a datblygu ac o bartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ein holl waith yn anelu at gyflawni ein diben elusennol ac yn cefnogi ffyniant a diogelwch i'r DU ac yn fyd-eang.
Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council drwy
http://twitter.com/bcwales
https://www.facebook.com/BritishCouncilWales