Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones a Chyfarwyddwr British Council Cymru, Jenny Scott yn cynnal derbyniad heddiw [dydd Iau 29 Ionawr] i lansio rhaglen o ddathliadau i nodi 150 mlwyddiant sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.
Ym 1865, ymfudodd tua 153 o bobl o bob cwr o Gymru ar long y Mimosa, gan hwylio o Lerpwl i ddechrau bywyd newydd ym Mhatagonia.
Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae’r British Council wedi sefydlu grŵp cynghori sy’n cynnwys amrywiol fudiadau sy’n trefnu gweithgareddau i nodi’r garreg filltir hon. Mae’r gwaith yn cynnwys datblygu gwefan Patagonia 150 gan British Council Cymru, ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol a phecyn ar-lein o ddeunyddiau addysgol wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r adnodd addysgol tairieithog wedi'i anelu at Gyfnodau Allweddol 2-5, gan gynnwys Bagloriaeth Cymru, ac mae'n cyflwyno gwybodaeth am hanes sefydlu'r Wladfa a'i diwylliant, chwaraeon, bwyd a bywyd gwyllt. Bydd dysgwyr yn cael cyfle i gymharu Cymru a Phatagonia, ac ehangu eu gwybodaeth am y cysylltiad rhyngddynt.
Dywedodd y Prif Weinidog: “Fel cenedl, rydyn ni'n ymfalchïo yn y cysylltiad cryf sydd gennym â'r Wladfa. Mae'n 150 mlynedd bellach ers i'r 153 o ymfudwyr hwylio ar y Mimosa i ymsefydlu ar arfordir Talaith Chubut ym Mhatagonia - carreg filltir sylweddol. Erbyn heddiw mae tua 50,000 o bobl Patagonia â gwaed Cymreig."
"Dyna pam rydyn ni wedi helpu'r British Council i gydlynu a hyrwyddo amrywiol ddigwyddiadau i nodi'r achlysur a'n cysylltiad â Phatagonia. Rwy'n falch iawn bod cymaint o bobl a sefydliadau yng Nghymru a Phatagonia wedi bod yn paratoi ar gyfer y dathliadau, gan drefnu digwyddiadau ar draws Cymru ac yn Lerpwl, Llundain, Patagonia a Buenos Aires. Rwy'n edrych ymlaen at gael bod yn rhan o'r digwyddiadau yn ystod y flwyddyn.
"Mae'n bwysig addysgu'n plant am hanes y Wladfa, a dangos ei fod yn rhan hanfodol o'n hunaniaeth a'n treftadaeth. Gobeithio y bydd yr adnodd addysgol rhyngweithiol, tairieithog sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru yn helpu i godi ymwybyddiaeth yng Nghymru am y bennod bwysig hon yn ein hanes."
Dywedodd Cyfarwyddwr British Council Cymru, Jenny Scott: "Mae'r cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia yn un pwysig iawn i nifer o bobl yng Nghymru, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gyflwyno hanes cymuned y Cymry ym Mhatagonia i gynulleidfa ehangach. Ym Mhatagonia ei hun mae mwy o ddiddordeb nag erioed yn y Gymraeg, gyda'r nifer uchaf eto o bobl yn cofrestru i ddysgu Cymraeg drwy’n cynllun ni. Hefyd mae diddordeb cynyddol gan ysgolion yng Nghymru a Phatagonia mewn cydweithio drwy'n menter Connecting Classrooms. Mae chwech o ysgolion bellach wedi gefeillio, ac rydym yn disgwyl i ragor ymuno â'r rhaglen dros y flwyddyn nesaf. Hefyd mae prosiectau llenyddiaeth a cherddoriaeth ar y gweill a fydd, gobeithio, yn parhau i gryfhau'r cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a Phatagonia.”