Bydd llunwyr polisi o bedwar ban byd yn dod i Gymru rhwng 6 ac 8 Mawrth 2018 er mwyn dysgu am system brentisiaethau’r wlad.
Bydd yr ymwelwyr yn dod o adrannau addysg llywodraethol a’r sectorau addysg a hyfforddiant technegol a galwedigaethol yn yr Eidal, De Affrica, India, Indonesia, Nepal, Nigeria a Phacistan.
Byddant yn cymryd rhan yn seminar y British Council, Prentisiaethau: Sylw ar Gymru, sy’n cael ei threfnu mewn partneriaeth â CholegauCymru yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.
Bydd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan AC, yn y seminar i siarad am ddatblygu sgiliau gan gyfeirio’n benodol at brentisiaethau.
Meddai Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru:
“Bydd yr ymwelwyr yn cael cyfle i glywed gan rai o gynrychiolwyr system addysg Cymru, gan gynnwys Estyn a Choleg Sir Benfro yn ogystal â busnesau Cymru. Byddan nhw’n rhannu sut mae prentisiaethau’n cael eu cynllunio yng Nghymru a sut rydyn ni’n sicrhau ansawdd y system. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael croesawu’r Gweinidog, ac at glywed gan aelodau o adran addysg Llywodraeth Cymru a chyflogwyr Cymru, gan gynnwys Deloitte LLP Cymru a chwmni Dur Tata.”
Bydd Iestyn Davies, prif weithredwr ColegauCymru, yn siarad am bwysigrwydd partneriaeth driphlyg rhwng y llywodraeth, cyflogwyr a byd addysg er mwyn creu system brentisiaethau lwyddiannus i Gymru. Meddai Iestyn:
“Rydyn ni’n falch iawn o gael bod yn bartner i’r British Council ar gyfer y digwyddiad yma yn y brifddinas, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gael dangos enghreifftiau o arferion arloesol wrth gynllunio a darparu prentisiaethau yng Nghymru.”
Bydd y grŵp hefyd yn ymweld â busnesau Cymru, gan gynnwys Panasonic, y cwmni peirianneg fanwl Renishaw a BBC Cymru, er mwyn cael gweld prentisiaethau ar waith yno.