Mae gwleidyddion a gwneuthurwyr polisi o mor bell ag Yemen ac Ethiopia yn ymweld â Chaerdydd gael gwybod mwy am y sector sgiliau yng Nghymru.
Maent yn mynychu seminar Strategaeth Sgiliau Genedlaethol y DU (rhwng 12 a 15 Ionawr), a fydd yn cynnwys cyflwyniadau gan arbenigwyr addysg a busnes o Gymru.
Mae cynadleddwyr yn cynnwys gweinidog gwladol Ethiopia dros addysg a dirprwy weinidog yr Aifft dros addysg alwedigaethol.
Caiff y gynhadledd ei threfnu gan y British Council ac mae'n un o gyfres a gynhelir ym mhedair prif ddinas gwledydd y DU. Caiff y digwyddiad ei gynnal gan Goleg Caerdydd a'r Fro a bydd cynadleddwyr yn ymweld â Chanolfan Ryngwladol Hyfforddiant Aerofod (ICAT) y coleg ym Maes Awyr Caerdydd. Byddant hefyd yn ymweld â Choleg y Cymoedd yn Nantgarw.
Bydd Julie James, dirprwy weinidog sgiliau a thechnoleg Llywodraeth Cymru yn annerch y gynhadledd, gan egluro i gynadleddwyr, rôl Llywodraeth Cymru o ran cefnogi addysg a hyfforddiant technegol a galwedigaethol (TVET) yng Nghymru.
Bydd Greg Walker, prif weithredwr Colegau Cymru yn siarad am y system addysg bellach yng Nghymru. Bydd Sarah Hopkins o Wales and West Utilities yn rhoi barn cyflogwyr ar TVET a bydd Rhys Williams a Louise Barnell o GE Aviation Wales yn siarad am rôl prentisiaethau mewn busnesau yng Nghymru.
Bydd y cynadleddwyr hefyd yn clywed gan Sarah Finnegan-Dehn, cyfarwyddwr rhanbarthol Gyrfa Cymru a bydd Ciarán Devane, prif weithredwr newydd y British Council yn gwneud un o'i ymddangosiadau cyntaf yn ei rôl a bydd yn egluro gwaith TVET y sefydliad.
Bydd Lin Howells, cyfarwyddwr cynorthwyol Estyn a Rob Evans, dirprwy bennaeth Coleg Pen-y-bont a chadeirydd grŵp sicrhau ansawdd Addysg Bellach Cymru Gyfan yn siarad am bwysigrwydd darpariaeth o ansawdd uchel ym maes TVET.
Bydd y Dirprwy Weinidog yn dweud wrth gynadleddwyr: "Un o'r heriau mwyaf rydym yn ei hwynebu fel Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod gan bobl ifanc Cymru y sgiliau cywir i sicrhau eu bod yn gallu gwneud y mwyaf o'u rhagolygon cyflogaeth.
"O ystyried yr amodau economaidd presennol, ni allwn barhau i fod yn brif ffynhonnell o ariannu hyfforddiant sgiliau. Fel y nodwyd yn ein Strategaeth Sgiliau newydd, rhaid i ni rannu'r cyfrifoldeb hwn, rhwng Llywodraeth Cymru, cyflogwyr ac unigolion.
"Mae dros 400,000 o bobl ifanc yng Nghymru ac rwyf am i bob un ohonynt gael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddatblygu drwy addysg a hyfforddiant i gyflogaeth."
Dywedodd Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: "Dyma'r tro cyntaf i'r British Council gynnal un o'i gynadleddau sgiliau rhyngwladol yng Nghymru. Mae'n gyfle i ddangos y gorau o'r sector sgiliau yng Nghymru ac yn dyst i'r gwaith sy'n cael ei wneud yn y sector gan Lywodraeth Cymru, ein colegau addysg bellach a busnesau yng Nghymru. Rydym yn sicr y bydd cynadleddwyr yn cael llawer o syniadau o Gymru a fydd yn ysbrydoli eu gwledydd hwythau."
Dywedodd Mike James, pennaeth a phrif weithredwr Coleg Caerdydd a'r Fro: "Mae'n anrhydedd ac yn bleser o'r mwyaf i ni gynnal cynhadledd sgiliau mewnol gyntaf y British Council yng Nghymru. Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn ymroddedig i'w waith rhyngwladol gan ei fod yn faes twf allweddol i'r Coleg ac mae'r gynhadledd hon yn gyfle arbennig i'r sector addysg bellach yng Nghymru ddangos y cyfleoedd a'r profiadau dysgu unigryw sydd gennym i'w cynnig."