Mae mwy na 50 o swyddi yn cael eu creu yn Swyddfeydd y British Council yng Nghaerdydd.
Mae'r British Council wedi ennill y cytundeb i reoli rhaglen newydd Erasmus+ yr Undeb Ewropeaidd yn y DU, gyda'i bartner yn y sector preifat Ecorys UK.
Bydd Erasmus+ yn rhedeg rhwng 2014 a 2020 a bydd sefydliadau yn y DU ym meysydd addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon yn cydweithio â phartneriaid o bob cwr o Ewrop a thu hwnt i helpu myfyrwyr a phobl ifanc i astudio, hyfforddi neu wirfoddoli dramor.
Mae cynnydd sylweddol o 40% wedi bod yng nghyllid UE rhaglen newydd Erasmus+ a bellach mae ganddi gyllideb gyffredinol sy'n werth €14.7 biliwn (£12 biliwn) er mwyn datblygu gwybodaeth a sgiliau.
Yn y DU mae hyn yn golygu y caiff €1 biliwn ei darparu dros y saith mlynedd nesaf er mwyn helpu pobl yn y DU i feithrin sgiliau rhyngwladol hanfodol.
Disgwylir i fwy na 30,000 o bobl ifanc – sy'n cyfateb i fwy na 70 o jymbo-jetiau llawn – gael y cyfle i ehangu eu gorwelion yn y rhaglen. Mae hyn yn gynnydd o 50% yn nifer y bobl ifanc o'r DU sy'n derbyn grantiau o gymharu â rhaglenni Dysgu Gydol Oes ac Ieuenctid ar Waith blaenorol yr UE, y mae Erasmus+ yn eu disodli.
Meddai Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: ''Roedd yn bleser gan y British Council ennill cytundeb y DU gan yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, ar y cyd ag Ecorys UK, ac rydym yn falch y caiff ein rhan ni o'r rhaglen ei lleoli yng Nghaerdydd.
''Mae'r British Council yn sefydliad rhyngwladol, gyda phresenoldeb mewn mwy na 100 o wledydd a 5 swyddfa yn y DU. Mae dewis Caerdydd fel ein hwb Erasmus+ yn bleidlais o ymddiriedaeth yn y ddinas. Rydym yn gobeithio y bydd y ffaith bod y British Council yn gallu gweld pa mor ddeniadol mae'r ardal yn annog rhagor o gwmnïau i ystyried dod yma.''
Meddai Ruth Sinclair-Jones, Cyfarwyddwr Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer Erasmus+ yn y British Council: ''Mae Erasmus+ yn cynnig cyfle gwych i bobl yng Nghymru a ledled y DU elwa o astudio, hyfforddi, gwirfoddoli ac ymgymryd â datblygiad proffesiynol ledled Ewrop. Mae hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd swyddi cyffrous yn British Council Cymru. Mae'r swyddi newydd yn British Council Cymru yn cynnwys swyddi ym meysydd darparu a rheoli grantiau, gwasanaethau cwsmeriaid, cyllid, digwyddiadau a marchnata''.
Lleolir British Council Cymru yn 1 Kingsway yng nghanol Caerdydd.