Monitor Academaidd newydd i oruchwylio Cynllun yr Iaith Gymraeg ym Mhatagonia
Mae Cynllun yr Iaith Gymraeg ym Mhatagonia wedi apwyntio Monitor Academaidd Newydd i oruchwylio safonau dysgu a datblygiad y cynllun.
Mae Rhisiart Arwel yn cymryd lle Gareth Kiff, y cyn Monitor Academaidd.
Ganwyd Rhisiart yn Ninbych, sir Ddinbych yn fab i weinidog Bedyddwyr o Fethesda a nyrs o Sir Fôn.
Symudodd y teulu i bentref Garnswllt ger Rhydaman yn Nyffryn Aman pan oedd Rhisiart yn 4 oed ac yn ddiweddarach, dychwelodd y teulu i Ogledd Cymru, i dref Gorwen yn yr hen Sir Feirionydd. Derbyniodd Rhisiart ei addysg uwchradd yn Ysgol Y Berwyn, y Bala.
Aeth ymlaen i astudio’r gitâr glasurol yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd, ym Manceinion gyda John Aran. Ar ôl graddio, bu’n astudio yn Llundain gyda John Duarte a derbyniodd ysgoloriaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru i wneud astudiaethau pellach gyda Ricardo Iznaola ym Madrid.
Ar ôl gorffen ym Manceinion, cymhwysodd Rhisiart fel athro yng Nghaerdydd a bu’n gweithio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn y Brifddinas ac yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin. Bu hefyd yn perfformio’n helaeth fel unawdydd ar y teledu a’r radio ac ar lwyfannau ar draws Cymru, Prydain a thramor. Mae wedi ymddangos fel unawdydd gyda Cherddorfa Genedlaethol y BBC ar fwy nag un achlysur.
Yn ystod yr wythdegau aeth Rhisiart i weithio ym myd y cyfryngau. Bu’n gynhyrchydd a chyfarwyddwr gyda HTV ac yn ddiweddarach gyda S4C. Wedyn, cafodd ei apwyntio i staff y BBC fel cynhyrchydd ac uwch-gynhyrchydd.
Ar ôl gadael y BBC yn 2012 trodd Rhisiart at faes oedd yn agos iawn at ei galon, y Gymraeg. Hyfforddodd fel Tiwtor Cymraeg i Oedolion, gan weithio gyda thîm o diwtoriaid profiadol yng nghanolfan Cymraeg i Oedolion, Prifysgol Caerdydd.
Yn ystod 2013, bu Rhisiart yn gweithio fel Swyddog Datblygu a thiwtor Cymraeg ym Mhatagonia fel rhan o Cynllun yr Iaith Gymraeg, sydd wedi ariannu gan y Llywodraeth Gymraeg ac yn cael ei reoli gan y British Council.
Bellach, mae Rhisiart yn ôl yn gweithio fel Swyddog Cymraeg y Gweithle yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Caerdydd ac fel Tiwtor Cymraeg i Oedolion. Mae ganddo brofiad helaeth o weithio fel tiwtor Cymraeg ar bob lefel.
“Rwy’n falch iawn o gael fy apwyntio fel Monitor Academaidd Prosiect Cymraeg Patagonia,” meddai Rhisiart.
“Mae gen i brofiad helaeth o ddysgu Cymraeg ac o fyw a gweithio yn y Wladfa, a bydd hyn yn amlwg yn gaffaeliad mawr wrth imi ymgymryd â’r gwaith pwysig yma. Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at gael cydweithio gyda thîm brwdfrydig a gweithgar y Prosiect, yma yng Nghymru ac yn yr Ariannin,” ychwanegodd.
“Mae gen i barch mawr at waith a chyfraniad Gareth Kiff, y Monitor blaenorol, a’r her fawr imi fydd datblygu ac adeiladu ar y gwaith pwysig a wnaed gan Gareth”.
“Yn ddi-os, mae’n rhaid hefyd cydnabod cyfraniad mawr Robert Owen Jones, y Monitor gwreiddiol, a fu’n gweithio mor frwd a gweithgar am gyfnod hir ers dechrau’r Prosiect”.
Bydd Rhisiart yn dechrau ar ei waith yn gynnar yn 2016.