Dydd Mercher 04 Mawrth 2015

 

Mae ysgolion a myfyrwyr o bob cwr o Gymru wedi ennill gwobrau am eu gwaith rhyngwladol yn yr ystafell ddosbarth.

Cyflwynwyd y gwobrau yn y Seremoni Wobrwyo Ryngwladol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 26 Chwefror 2015.

Mae'r gwobrau blynyddol yn gwobrwyo addysgu ardderchog gyda dimensiwn rhyngwladol mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru.

Trefnir y gwobrau gan British Council Cymru a'u noddi gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Raglen Addysg Ryngwladol y British Council.

Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr British Council Cymru: “Mae'r Gwobrau Rhyngwladol yn pwysleisio llwyddiannau ysgolion a cholegau sy'n helpu eu myfyrwyr i weithredu fel dinasyddion byd-eang.

"Mae'n bwysig bod ysgolion a cholegau yn dod â dimensiwn rhyngwladol i'w hystafelloedd dosbarth. Credwn fod rhoi safbwynt rhyngwladol i bobl ifanc yn helpu i'w hannog i ddod yn ddinasyddion byd-eang, gan roi ffenestr iddynt i ddiwylliannau a gwledydd newydd, yn ogystal â chynnau diddordeb mewn dysgu ieithoedd.

"Mae prosiectau rhyngwladol hefyd o fudd i athrawon, drwy eu cyflwyno i arferion a safbwyntiau newydd."

Roedd yr enillwyr yn cynnwys Coleg Pen-y-bont, a enillodd Wobr Celfyddydau Dolen am eu gwaith yn ymwneud â Masnach Deg a'u cân hip hop, 'In My Shoes' a ysbrydolwyd gan Fasnach Deg ac enillodd Coleg y Cymoedd Wobr Ryngwladol Colegau Cymruam waith y coleg yn annog cyfnewidiadau a phartneriaethau myfyrwyr gyda cholegau yn Ewrop.

Dywedodd Kathryn Bishop, Swyddog Rhyngwladol Coleg y Cymoedd: "Mae'n fraint i Goleg y Cymoedd dderbyn Gwobr Ryngwladol Colegau Cymru am y drydedd flwyddyn yn olynol. Mae'r profiadau rydym yn eu cynnig i staff a myfyrwyr wedi gwella ein cysylltiadau rhyngwladol, ac wedi ein galluogi i ffurfio partneriaethau hirsefydledig sy'n cyfoethogi'r cwricwlwm a phrofiad y dysgwyr."

Yn ystod y seremoni wobrwyo, llwyddodd y disgyblion i gymryd rhan mewn nifer o weithdai, gan gynnwys barddoniaeth ‘slam’ gyda bardd pobl ifanc Cymru, Martin Daws, a gwneud offerynnau cerdd o ddeunyddiau ailgylchu gyda'r cerddor Francesca Dimech sydd wedi gweithio gyda cherddorion stryd ym Mrasil. Cawsant gyfle hefyd i gwrdd â'r fforiwr Pegynnol, Antony Jinman a gweithio gyda'r artist Sharon Flint i greu gwaith celf wedi'i ysbrydoli gan ymfudo blynyddol gwenoliaid o Gymru i Lesotho.

Nodiadau i olygyddion

Gwobrau ac enillwyr eleni yw:

Defnydd Gorau o Ddimensiwn Rhyngwladol i Wella Addysgu a Dysgu Ieithoedd Tramor Modern, CILT Cymru

Mae'r wobr hon yn dathlu defnydd arloesol ac effeithiol o addysg ryngwladol i wella profiad dysgwyr o ddysgu ieithoedd tramor modern.

ENILLYDD - Ysgol Gynradd Nant-y-Felin Casnewydd am eu cysylltiadau â Tsieina, Ffrainc, yr UDA a Brunei ac am eu gwaith gyda'r iaith Mandarin.

Cyfranogwr Eithriadol Connecting Classrooms

Mae'r wobr hon yn cydnabod rhagoriaeth partneriaethau ysgolion drwy'r rhaglen Connecting Classrooms.

 ENILLYDD, AFFRICA - Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd am ei gwaith rhyngwladol amrywiol, yn cynnwys eu partneriaeth ag Ysgol Uwchradd Moshoeshoe II yn Lesotho.

 ENILLYDD, DWYRAIN CANOL - Ysgol Dinas Bran, Llangollen am ei gwaith gydag ysgol yn Libanus.

 ENILLYDD, ASIA - Ysgol Gynradd Coed Hirwaun, Margam ac Ysgol Gyfun Sandfields, Port Talbot, am eu prosiect ar y cyd sy'n eu gweld yn gefeillio â chwe ysgol ym Mangladesh.

Y defnydd gorau o Dechnolegau Datblygol i Gynyddu Dimensiwn Rhyngwladol

Mae'r wobr hon yn dathlu'r defnydd effeithiol o dechnolegau datblygol i wella prosiectau rhyngwladol o fewn y cwricwlwm.

 ENILLWYR

 Ysgol Uwchradd Argoed, Sir y Fflint - am eu defnydd o dechnoleg i hybu dysgu ieithoedd tramor modern

 Ysgol Gyfun Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr - am eu defnydd o dechnoleg i gyfathrebu â'u hysgolion partner yn Wganda, Pacistan a Taiwan.

Gwobr Ryngwladol Colegau Cymru

Mae'r wobr hon yn cydnabod dulliau cyfoethogi addysgu a dysgu drwy integreiddio dimensiwn rhyngwladol i'r cwricwlwm a'r rhaglen datblygu staff ar gyfer blwyddyn academaidd 2013/14.

ENILLYDD - Coleg y Cymoedd, am waith y coleg yn annog cyfnewidiadau a phartneriaethau myfyrwyr gyda cholegau yn Ewrop.

Gwobr Celfyddydau Dolen

Mae'r wobr newydd hon yn dathlu portreadu themâu byd-eang drwy ffurfiau artistig fel cerddoriaeth, celf weledol, ysgrifennu creadigol a dawnsio, ac yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddangos eu talentau yn ystod y seremoni.

ENILLYDD - Coleg Pen-y-bont am eu gwaith yn ymwneud â Masnach Deg a'u cân hip hop a ysbrydolwyd gan Fasnach Deg, 'In My Shoes'.

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gyfleoedd addysgol a chydberthnasau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang.

Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd, ac mae ein 7000 o staff - gan gynnwys 2000 o athrawon - yn gweithio gyda miloedd o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi a miliynau o bobl ifanc bob blwyddyn drwy ddysgu Saesneg, rhannu'r Celfyddydau, a chyflwyno rhaglenni addysg a chymdeithasol.

Rydym yn elusen gofrestredig o fewn y DU sydd wedi'i llywodraethu gan Siarter Frenhinol. Mae grant craidd a ariennir yn gyhoeddus yn llai na 25 y cant o'n trosiant a oedd yn £781m y llynedd. Mae gweddill ein cyllid yn cael ei ennill o wasanaethau y mae cwsmeriaid ledled y byd yn talu amdanynt, drwy gytundebau addysg a datblygu ac o bartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ein holl waith yn anelu at gyflawni ein diben elusennol ac yn cefnogi ffyniant a diogelwch i'r DU ac yn fyd-eang.

Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council drwy

 http://twitter.com/bcwales

 https://www.facebook.com/BritishCouncilWales

 

Rhannu’r dudalen hon