Efelychiad o COP28 yn y Senedd - Dydd Iau, 23 Tachwedd 2023
Daeth dros 80 o bobl ifanc rhwng 16-18 oed o Gymru at ei gilydd yn y Senedd ddoe (Dydd Iau, Tach 23) i gymryd rhan gwleidyddion, newyddiadurwyr a lobïwyr mewn digwyddiad i drafod argyfwng yr hinsawdd.
Cafodd y digwyddiad - Efelychiad o Drafodaethau Argyfwng yr Hinsawdd yn COP28 - ei drefnu gan raglen Cysylltu Ysgolion y British Council, ac roedd yn gyfle i'r rheini oedd yn cymryd i weld drostynt eu hunain sut brofiad yw negodi cytundeb hinsawdd byd-eang. Cynhaliwyd y digwyddiad mewn partneriaeth â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), a dyma'r tro cyntaf iddo ddigwydd yng Nghymru. Roedd yn un o gyfres o ddigwyddiadau tebyg a gynhaliwyd gan y British Council mewn pump o ddinasoedd ledled y Deyrnas Unedig.
Mae Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid yr Hinsawdd (COP28) yn cael ei chynnal eleni yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig. Hon fydd yr wythfed gynhadledd ar hugain o'u math, a bydd yn cychwyn ar 30 Tachwedd. Cafwyd anerchiad gan Jane Harries, Rheolwr Addysg Heddwch Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, i agor yr efelychiad yn y Senedd ddydd Iau.
Yn ystod y trafodaethau a ddilynodd, roedd yn rhaid i'r myfyrwyr gytuno ar strategaeth fyd-eang i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a lleihau ffigurau tymheredd byd-eang i ddim mwy na dwy radd Celsiws - a sicrhau fod pob gwlad ar y trywydd iawn i fwrw'r targed hwnnw erbyn 2030. I wneud hynny, defnyddiwyd meddalwedd a ddatblygwyd gan Climate Interactive a MIT i greu efelychiad go iawn o drafodaeth hinsawdd.
Arweiniwyd y trafodaethau gan Dan Boyden a Dr Carloine Wainwright, sy'n ddarlithydd newid hinsawdd yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Francesca Cawley a Riaz Ali Hulston o Ysgol Howell's yn Llandaf oedd yn rhannu rôl Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn y digwyddiad.
Wrth sôn am y profiad, dywedodd Francesa: "Ein nod heddiw oedd lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn sylweddol; ac o fymryn ni wnaethom ni lwyddo i gyrraedd ein targed cynhesu o lai na dwy radd. Er ein bod wedi llwyddo i gydweithio a chyfaddawdu, fe welom cymaint o waith ac ymdrech sydd ei angen i gyrraedd consensws.
"Heddiw rydyn ni wedi gweld fod negodi yn eithriadol o anodd, ond ddim yn amhosib - a bydd yn ddiddorol i weld beth fydd yn digwydd yn COP28 yn Dubai. Roedd hefyd yn wych i gael cysylltu gydag ysgolion yn yr Aifft a chlywed am eu profiadau o COP27, a chlywed am y gwahanol faterion sy'n effeithio arnyn nhw".
Ychwanegodd Riaz: "Roedd yr efelychiad yma o gynhadledd yn werthfawr gan ei fod wedi rhoi darlun cyflawn i ni o'r penderfyniadau holistig sydd angen eu cymryd, a chyfle i ystyried yr holl ffactorau fel tlodi, addysg a dirywiad gwledig. Er hynny, fe ddaethom i gytundeb i ariannu $100 biliwn o gyllido hinsawdd byd-eang blynyddol - ac roedd hynny'n fuddugoliaeth sylweddol. Wrth gyrraedd 2.1 gradd, fe fyddwn yn gweld cynnydd dramatig yn y newid yn yr hinsawdd. Heddiw fe gawsom ni gipolwg ar yr hyn sy'n bosibl, ac mae hynny'n gynnydd, ond nid dyma ben ein taith".
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Dr Wainwright: "Heddiw yn y Senedd rydyn ni wedi gweld pobl ifanc yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n ynghlwm â thrafodaethau am yr hinsawdd a gweithio'n galed i gyrraedd consensws. Mae'r profiad wedi rhoi cyfle gwych iddyn nhw ddysgu mwy am y wyddoniaeth y tu ôl i argyfwng yr hinsawdd, a thrwy efelychu trafodaethau a negodi, i ddysgu mwy am yr hyn sy'n digwydd yng nghynadleddau COP.
"Wedi gweithio gyda'r bobl ifanc yma heddiw, mae'n amlwg fod gafael gwych ganddyn nhw'n barod ar y materion byd-eang sy'n ein hwynebu ni i gyd o ran y newid yn yr hinsawdd, a dw i'n gobeithio fod heddiw wedi eu hysbrydoli i gario'r sgiliau hyn gyda nhw i'r dyfodol a pharhau i wthio am weithredu ar y newid yn yr hinsawdd."
Wrth annerch y myfyrwyr, dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Mae argyfwng yr hinsawdd yn fater o bryder mawr, yn enwedig i bobl ifanc - fel y dengys ein hymchwil yn y British Council. Mae'r digwyddiad yma'n gosod myfyrwyr wrth galon trafodaethau am yr hinsawdd. Mae'n rhoi cyfle unigryw iddyn nhw brofi gwir natur diplomyddiaeth a thrafodaethau rhyngwladol fel y rhai a fydd yn digwydd yn COP28 a rhoi'r sgiliau a'r hyder iddyn nhw fynd i'r afael â rhai o heriau mwyaf ein byd ni heddiw."
"Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y digwyddiad yma heddiw. Rwy'n falch iawn fod pobl ifanc o ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig, Yr Aifft a'r Emiraethau Arabaidd Unedig wedi dod at ei gilydd i fynd i'r afael o ddifrif â heriau newid yn yr hinsawdd."
Ychwanegodd Amber Demetrius a Sioned Cox, o adran Ddysgu Byd-eang Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru: "Roedden ni mor falch i gefnogi'r British Council gyda'r digwyddiad yma i bobl ifanc yng Nghymru. Rydyn ni'n gobeithio fod y cyfle gwerthfawr hwn wedi helpu myfyrwyr i feithrin y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnynt i fod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a'r byd, yn ogystal â'r gallu i archwilio gwahanol safbwyntiau a chymryd camau gwybodus. Hoffem ddiolch yn fawr i'r holl fyfyrwyr, athrawon a staff sydd wedi cydweithio â ni am eu holl ymdrech i sicrhau fod y digwyddiad yma'n llwyddiant."
Mae'r fenter hon yn rhan o raglen Cysylltu Ysgolion y British Council ar gyfer ysgolion yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd. Mae'r British Council yn gweithio gyda llunwyr polisi addysg i archwilio arfer effeithiol mewn gwledydd eraill a helpu athrawon i ddod â phersbectif rhyngwladol i'r cwricwlwm. Bydd hynny'n gyfrwng i roi cefnogaeth i bob person ifanc i ddatblygu'r sgiliau, gwybodaeth ac agweddau sydd eu hangen arnynt i ymateb i heriau byd-eang a meithrin dealltwriaeth ryngwladol.
Drwy raglen Cysylltu'r Hinsawdd mae'r British Council yn rhoi cymorth i bobl ledled y byd ffeindio atebion creadigol i heriau newid yr hinsawdd - i gefnogi Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd (COP28) sy'n cael ei chynnal yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig yn ddiweddarach y mis hwn. Mae'r British Council yn cefnogi'r gynhadledd drwy ymgysylltu â rhwydweithiau o weithwyr addysg proffesiynol, myfyrwyr, academyddion, ymchwilwyr, artistiaid, arweinwyr cymdeithasol a llunwyr polisi i gymryd rhan mewn deialog ystyrlon a sicrhau newid go iawn i'n planed.
Mae'r digwyddiad yma'n parhau gwaith y British Council o feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a thramor drwy'r celfyddydau, addysg, a dysgu'r iaith Saesneg. Am ragor o wybodaeth am ein gwaith yng Nghymru ewch i'n gwefan British Council Cymru neu dilynwch ni ar X, Facebook neu Instagram.
-Diwedd
Mae rhagor o luniau ar gael yma: © Patrick Olner