Lansio’r fenter gyfnewid iaith ar-lein gyntaf erioed rhwng myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd a phrifysgolion yn Senegal.
Bydd israddedigion Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithio gyda myfyrwyr ym Mhrifysgol Rithiol Senegal a Phrifysgol Cheikh Anta Diop yn Dakar fel rhan o fenter newydd. Wrth ddefnyddio’r platfform cyfnewid ar-lein, Bili, bydd y myfyrwyr yn dod i adnabod ei gilydd a dysgu’n uniongyrchol am ieithoedd a diwylliannau ei gilydd. Mae’r fenter gyfnewid yma’n rhan o raglen ‘English Connects’ y Cyngor Prydeinig - rhaglen newydd sy’n anelu i greu cysylltiadau rhwng y DU a phobl ifanc yn Affrica trwy gyfrwng y Saesneg.
Meddai Alison Devine, sy’n arwain mentrau addysg Saesneg y Cyngor Prydeinig yn Affrica is-Sahara: “Drwy gysylltu myfyrwyr yn y DU yn uniongyrchol â’u cyfoedion yn Senegal, bydd y prosiect yma nid yn unig yn cefnogi israddedigion sy’n siarad Saesneg a Ffrangeg i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol, ond hefyd yn sbardun iddynt i ehangu eu gorwelion a ffeindio ffrindiau newydd mewn mannau newydd. Mae technoleg ar-lein yn cynnig cyfleoedd arloesol newydd sy’n galluogi’r DU i gysylltu ag Affrica a meithrin perthnasau rhyngddiwylliannol”.
Bydd platfform ar-lein Bili (bili.co.uk) yn cael ei ddefnyddio i gydlynnu’r cymal cyntaf o sgyrsiau rhwng 180 o fyfyrwyr. Cafodd y platfform ei greu gan Charlie Foot, athro ieithoedd cynradd, fel cyfrwng i helpu myfyrwyr i fentro y tu hwnt i bedair wal yr ystafell ddosbarth ac ymarfer eu sgiliau iaith drwy gyswllt cyson gyda siaradwyr brodorol. Dywedodd Charlie Foot: “Rydym ni wrth ein bodd i gael arwain y prosiect cyffrous yma, nid yn unig fel rhaglen beilot ym maes addysg uwch ond hefyd fel cyfrwng i ddatblygu cysylltiadau pwysig rhwng Senegal a’r Deyrnas Unedig.”
Dywedodd Claire Gorrara, pennaeth Astudiaethau Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae hwn yn brosiect gwirioneddol ardderchog, ac fe fydd yn gyfle rhagorol i’n myfyrwyr blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn i ddod i adnabod Senegal wrth feithrin cysylltiadau uniongyrchol gyda myfyrwyr o’r un oed â nhw.”
Caiff y prosiect ei lansio ddydd Mercher 30 Ionawr ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda chyswllt fideo byw â’r prifysgolion partner yn Senegal. Bydd Bernadette Holmes MBE, cyfarwyddwr Speak to the Future (ymgyrch genedlaethol i hyrwyddo gallu ieithyddol yn y DU), yn trafod arwyddocâd y fenter gyfnewid gyntaf yma. Meddai: “Yn y dyfodol, bydd llwyddiant mewn economi fyd-eang yn ddibynnol ar bobl ifanc sy’n gallu creu cysylltiadau a chydweithio’n effeithiol ar draws ffiniau rhyngwladol a chreu a chynnal perthnasau ar sail ymddiriedaeth a pharch gan y naill at y llall. Mae Bili, gyda’i blatfform dysgu rhyngwladol arloesol, yn gwneud cysylltiadau o’r fath yn bosib.”
Rhaglen English Connects
Rhaglen arloesol newydd i gysylltu’r DU â phobl ifanc a darpar arweinwyr yn Affrica trwy gyfrwng y Saesneg yw English Connects. Bydd y rhaglen, sy’n dechrau yn 2019, yn anelu i wella ansawdd addysgu a dysgu Saesneg a hyrwyddo llythrennedd digidol, yn enwedig mewn gwledydd yn Affrica lle na siaredir Saesneg, gan greu cyfleoedd a fydd yn helpu pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial wrth wella a chynyddu eu cyfleoedd gwaith, eu hydwythedd a’u rhwydweithiau. Wrth gydweithio gyda llywodraethau, y sector breifat, entrepreneuriaid ifanc, darpar arweinwyr y dyfodol, addysgwyr a dysgwyr mewn meysydd addysg ffurfiol ac anffurfiol, fe fyddwn yn cyrraedd cynulleidfa eang drwy ryngweithio wyneb yn wyneb, cyfryngau a sianeli digidol. Bydd y rhaglen yn cysylltu darparwyr addysg, sefydliadau, cyfryngau ac asiantaethau technoleg addysg iaith Saesneg yn y DU gyda gwledydd yn Affrica, yn arddangos arbenigedd, creadigrwydd ac arloesi ym maes addysg y DU, a meithrin ymddiriedaeth a phartneriaethau newydd. Bydd English Connects yn gweithio gyda phartneriaid yn y DU i wella sgiliau iaith Saesneg a sgiliau digidol pobl ifanc yn ninasoedd ac ardaloedd gwledig Affrica, gan ganolbwyntio’n bennaf ar wledydd lle siaredir Portiwgaleg neu Ffrangeg. Bydd gweithgareddau’r rhaglen yn cael eu cyflwyno drwy dair prif ffrwd: Tanio diddordeb pobl ifanc o Affrica yng nghyfryngau darlledu’r DU (digidol, ar-lein ac oddi ar-lein), a deunydd dysgu cyfunol ar gyfer dysgu Saesneg; Darparu cymorth technegol o’r DU i weinyddiaethau addysg; Cynyddu cronfa athrawon Saesneg y DU drwy fframweithiau datblygiad proffesiynol. Byddwn yn cynyddu’r cyfleoedd i bobl ifanc yng nghymunedau dinesig a gwledig Affrica i ddysgu Saesneg drwy amrywiaeth o sianeli. Byddwn yn ffurfio partneriaethau gyda darparwyr technoleg a llywodraethau cenedlaethol a rhanbarthol er mwyn defnyddio platfformau digidol a symudol i ysbrydoli pobl ifanc i gysylltu â syniadau ac arloesedd o’r DU.
Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn gweithio gyda thros 100 o wledydd ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, Saesneg, addysg a’r gymdeithas sifil. Y llynedd, ymgysyllton ni â mwy na 75 miliwn o bobl yn uniongyrchol a 758 miliwn o bobl i gyd, gan gynnwys cysylltiadau ar-lein, darllediadau a chyhoeddiadau. Rydym yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r gwledydd rydym yn gweithio gyda nhw – rydym yn newid bywydau drwy greu cyfleoedd, adeiladu cysylltiadau a meithrin hyder. Sefydlwyd y British Council ym 1934 ac rydym yn elusen yn y Deyrnas Unedig a gaiff ei llywodraethu gan Siarter Frenhinol ac yn gorff cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn derbyn grant cyllid craidd o 15 y cant gan lywodraeth y Deyrnas Unedig. www.britishcouncil.org