Mae Gweinidog newydd y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, wedi canmol rhaglen Erasmus+ a gwaith sefydliadau ledled Cymru i helpu pobl ifanc, hyfforddwyr a dysgwyr i gael budd o'r cynllun dros y 30 mlynedd ers ei sefydlu.
Mae eleni yn nodi 30 mlynedd ers sefydlu Erasmus+ a rhaglenni blaenorol, carreg filltir a gafodd ei dathlu mewn digwyddiad yn y Senedd yng Nghaerdydd ar 13 Tachwedd.
Ers 2014, mae Cymru wedi elwa ar bron i €30 miliwn o gyllid o gynllun Erasmus+, yn ôl ffigurau a ryddhawyd gan yr Asiantaeth Genedlaethol sy'n gyfrifol am ddarparu cynllun yr Undeb Ewropeaidd yn y DU.
Mae'r cyllid eisoes wedi'i ddyfarnu ar gyfer eleni a chaiff ei rannu gan 41 o sefydliadau yng Nghymru ledled y sectorau addysg a hyfforddiant. Gwelodd y sector Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET) y cynnydd uchaf mewn cyllid yng Nghymru yn 2017, gyda €2.2 miliwn yn cael ei ddyfarnu i golegau, cynnydd o €1.3 miliwn yn 2016. Dywedodd Sian Holleran o ColegauCymru, y corff sy'n cynrychioli pob un o'r colegau addysg bellach yng Nghymru, "Mae cyllid Erasmus+ yn galluogi ColegauCymru i arwain pobl ifanc o bob cefndir at lwyddiant. Gall y profiad o weithio a byw mewn gwlad wahanol newid eich bywyd, gan gynnig cyfleoedd gwaith newydd, gwella sgiliau cyflogadwyedd a chodi dyheadau. Gall lleoliad gwaith dramor fod yn ddechrau breuddwyd newydd a allai gael ei gwireddu'n agos i'r cartref, yn Ewrop neu ymhellach i ffwrdd. Mae cyllid Erasmus+ hefyd yn ein galluogi i drefnu cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus er mwyn i staff gymryd rhan mewn ymweliadau astudio dramor sy'n canolbwyntio ar wella ansawdd a darpariaeth yng Nghymru drwy feincnodi rhyngwladol."
Gan groesawu'r newyddion bod €2.6 miliwn hefyd wedi'i ddyfarnu i ysgolion ledled Cymru yn 2017, dywedodd Polly Seton, Athrawes Ymgynghorol ar gyfer Cysylltiadau Ysgolion Rhyngwladol yn cynrychioli sir Gaerfyrddin, "Mae Erasmus+ a'i raglenni blaenorol yn ein helpu i gefnogi ysgolion yn rhai o ardaloedd mwyaf anghysbell Cymru, gan sicrhau bod y byd yn fwy agored i'n disgyblion a'n staff a chyflwyno agwedd ryngwladol iddynt. Mae hefyd yn rhoi cyfle i rannu arfer da, codi safonau, herio stereoteipiau a gweld beth sy'n bosibl pan fyddwch yn cysylltu â chymheiriaid ledled Ewrop." O ganlyniad i waith ysgolion yng Nghymru, cynyddodd nifer y staff ysgol yr amcangyfrifir eu bod yn hyfforddi neu'n cysgodi swydd yn Ewrop bedair gwaith o 61 yn 2015, i 269 yn 2016.
Dywedodd Jane Racz, Cyfarwyddwr newydd Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer Erasmus+, partneriaeth rhwng y British Council ac Ecorys UK, "Mae sefydliadau ledled Cymru yn gweithio'n galed iawn i sicrhau y gall miloedd o bobl ifanc, dysgwyr a staff gael budd o'r cynllun ac roedd hi'n wych clywed gan rai ohonynt yn y digwyddiad dathlu yn y Senedd. Roedd y gynulleidfa hefyd wedi mwynhau clywed Sophie McKeand, Bardd Pobl Ifanc Cymru, yn perfformio'r gerdd Erasmus+ y gwnaethom ei chomisiynu fel rhan o ddathlu 30 mlynedd ers sefydlu'r rhaglen."
Perfformiodd Sophie ei cherdd, sy'n dwyn y teitl 'Sunlight' ac yn cyfleu hanfod rhaglen Erasmus+, sef chwalu rhwystrau, ymchwilio i orwelion newydd a gwneud cysylltiadau ledled Ewrop a thu hwnt.
Gyda'r swm uchaf erioed o gyllid ar gael i'r DU y flwyddyn nesaf, sef tua €170 miliwn, anogir sefydliadau yng Nghymru i barhau i ymgysylltu ag Erasmus+ er mwyn helpu hyd yn oed yn fwy o'i phobl ifanc a'i staff addysgol i gael budd o brofiad rhyngwladol.
Cynhelir sesiwn gwybodaeth am sut y gall sefydliadau yng Nghymru wneud cais ar gyfer cyllid Erasmus+ yn 2018 yng Nghaerdydd ar 21 Tachwedd. Gall unigolion sydd â diddordeb mewn mynychu, gofrestru ar wefan Erasmus+.