Prif gasgliadau adroddiad ymchwil Canfyddiadau Byd-eang 2025:
- Mae lefel ymddiriedaeth pobl ifanc yn Tsieina wedi newid ers 2020. Mae cyfradd ymddiriedaeth pobl ifanc yn llywodraeth Tsieina wedi mwy na dyblu ers 2020, o 9% i 26%.
- Mae lefel ymddiriedaeth pobl ifanc yn UDA yn parhau'n isel ar draws holl fesuryddion arolwg Canfyddiadau Byd-eang 2025.
- Japan, Awstralia a Chanada yw'r gwledydd mwyaf poblogaidd o blith aelodau'r G20.
- Iwerddon, yr Aifft a Fietnam yw'r gwledydd mwyaf poblogaidd nad sy'n aelodau o'r G20.
- Nododd ymatebwyr o Gymru mai heddwch, cydweithredu byd-eang a gweithredu ar yr hinsawdd yw eu blaenoriaethau.
- Roedd gan ymatebwyr o Gymru agwedd gadarnhaol tuag at y DU - o ran addysg, hawliau sifil a'i natur agored.
Gwelwyd newidiadau arwyddocaol yn agweddau pobl ifanc yng Nghymru tuag at bwerau mawr y byd, yn ôl adroddiad ymchwil newydd gan y British Council. Mae'r adroddiad hefyd yn dangos tueddiadau ehangach sy'n dylanwadu ar sut mae pobl ifanc yng Nghymru'n gweld y byd.
Cafodd dros 20,000 o bobl rhwng 18-34 oed mewn 18 o wledydd y G20 (gan gynnwys cyfranogwyr o Gymru) eu holi fel rhan o arolwg Canfyddiadau Byd-eang 2025. Nod yr ymchwil yw edrych ar ganfyddiadau pobl ifanc o wahanol wledydd - ar sail atyniad y gwledydd hynny, ac ymddiriedaeth yr ymatebwyr ynddynt. Roedd y cwestiynau am 'atyniad' yn ystyried apêl gyffredinol y wlad, tra bod cwestiynau am lefelau 'ymddiriedaeth' yn asesu faint o hyder oedd gan yr ymatebwyr ym mhobl, llywodraeth a sefydliadau'r gwahanol wledydd.
Yng Nghymru, mae lefel atyniad cyffredinol Tsieina wedi cynyddu o 13% ers 2023 (i 63%), tra bod lefel yr ymddiriedaeth yn ei sefydliadau wedi tyfu'n gyson o 20% yn 2020 i 33% yn 2025. Gwelwyd cynnydd mwy fyth yn lefel yr ymddiriedaeth yn llywodraeth Tsieina - mae wedi mwy na dyblu ers 2020, o 9% i 26%. Mae lefel yr ymddiriedaeth ym mhobl Tsieina wedi aros yn sefydlog, ar 31%. Gwelwyd tueddiadau tebyg gan ymatebwyr yng ngwledydd eraill y DU, gan awgrymu agwedd agored ond gofalus tuag at bwerau sy'n tyfu'n fwy amlwg ar lwyfan y byd, ac agwedd fwy ystyriol a chytbwys at rôl Tsieina yn y byd.
Ar y llaw arall, mae lefel yr ymddiriedaeth yn yr Unol Daleithiau'n parhau'n isel ar draws holl fesuriadau'r arolwg - er gwaetha'r ffaith fod ei hatyniad cyffredinol wedi cynyddu o 8 pwynt canran (i 63%) ers 2023. Yng Nghymru, dim ond 29% o'r ymatebwyr a nododd eu bod yn ymddiried yn llywodraeth yr Unol Daleithiau. Roedd 33% yn dweud eu bod yn ymddiried yn sefydliadau'r Unol Daleithiau, tra bod lefel yr ymddiriedaeth yn ei phobl wedi gostwng i 40% (o'i gymharu â 61% yn 2020). Er nad dyma'r ffigurau isaf erioed, maent yn amlygu tuedd ar i lawr o ran ymddiriedaeth yn UDA, gan ddangos amheuaeth gyffredinol o wledydd democrataidd y Gorllewin a newid yng nghanfyddiadau pobl ifanc o natur dylanwadau byd-eang.
Ar frig rhestr pobl ifanc yng Nghymru o wledydd mwyaf atyniadol y G20 roedd Japan (79%), Awstralia (79%) a Chanada (77%) - gwledydd a gysylltir yn aml â chyfoeth diwylliannol, ansawdd bywyd da, a sefydlogrwydd gwleidyddol. Ymysg gwledydd nad sy'n aelodau o'r G20, nodwyd mai Iwerddon, yr Aifft a Fietnam oedd y mwyaf atyniadol; tra sgoriodd Wcráin yn uchel hefyd o ran lefel yr ymddiriedaeth yn ei phobl ac edmygedd o'u gwytnwch a'u dewrder yn wyneb gwrthdaro.
Mae'r tueddiadau hyn yng Nghymru yn rhan o ddarlun byd-eang lle mae perfformiad y DU yn parhau'n gadarnhaol. Ar draws holl wledydd y G20 a gymerodd ran yn yr arolwg, daeth y DU yn drydydd yn rhestr y gwledydd mwyaf atyniadol (70%) - y tu ôl i Japan (73%) a'r Eidal (72%). Y DU oedd uchaf o ran lefel yr ymddiriedaeth yn ei llywodraeth (55%). Mae sefydlogrwydd y farn am y DU yn wahanol i duedd y farn am wledydd fel Canada ac Awstralia, sydd wedi gweld dirywiad sylweddol ers 2016.
Yn ogystal â chanfyddiadau am apêl gwahanol wledydd, mae'r ymchwil hefyd yn dangos fod tegwch, cydweithredu byd-eang a rhannu cyfrifoldeb yn werthoedd sy'n bwysig i bobl ifanc yng Nghymru. Mae llawer yn ystyried fod mynd i'r afael ag anghyfiawnderau byd-eang yn hollbwysig. Nododd 66% eu bod yn credu mai lleihau tlodi yw un o heriau pwysicaf yr oes, ac roedd dros hanner yr ymatebwyr (58%) yn galw am weithredu ar frys ar yr hinsawdd. Mae persbectif rhyngwladol pobl ifanc yng Nghymru yn glir hefyd: mae 52% yn credu y dylai'r DU ymgysylltu'n fyd-eang i ddiogelu buddiannau cenedlaethol a hybu ffyniant ehangach, tra bod 43% yn credu y dylai'r wlad roi blaenoriaeth i hybu heddwch a chydweithredu byd-eang hyd yn oed os yw hynny'n gofyn am wneud aberthau yma yn y DU.
Wrth ystyried enw da'r DU, roedd barn ymatebwyr yng Nghymru'n dueddol o fod yn gadarnhaol. Roedd tua thri o bob pump (61%) o'r ymatebwyr yn ystyried fod y DU yn parchu gwahanol ffydd a chredoau, tra bod 61% yn cytuno fod llywodraeth y DU yn gweithio'n adeiladol gyda llywodraethau eraill. Nododd nifer fawr o'r ymatebwyr (67%) fod system addysg y DU yn un o'i chryfderau pennaf gan ddarparu sgiliau a chymwysterau gwerthfawr; roedd 72% yn canmol prifysgolion a gwaith ymchwil nodedig gwledydd y DU. Wrth edrych ar y darlun cyflawn, mae'r casgliadau hyn yn dangos fod enw da'r DU am ei chymdeithas agored, ei system addysg a'i harloesedd yn parhau i daro tant gyda phobl ifanc yng Nghymru.
Pan holwyd yr ymatebwyr am y nodweddion sy'n diffinio pobl y DU, nododd pobl ifanc yng Nghymru: hiwmor (44%), cyfeillgarwch (33%) ac ymroddiad i addysg (32%). Mae'r nodweddion hyn dangos fod gan yr ymatebwyr ddarlun o'r DU fel lle croesawgar, creadigol sydd â'i gwreiddiau mewn gwerthoedd cymdeithasol cyffredin. Ond, mae'r arolwg hefyd yn amlygu rhai eithriadau ym marn pobl ifanc yng Nghymru am y DU; ymysg rhai o'r nodweddion llai ffafriol, nododd 29% agweddau anoddefgar tuag at bobl dramor, a nododd 45% agweddau anghyfrifol at yfed.
Wrth sôn am yr adroddiad, dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru:
"Mae'r ymchwil yma'n cynnig golwg eithriadol o ddiddorol o sut mae pobl ifanc yng Nghymru'n gweld y byd, a lle'r DU ynddo. Mewn byd anwadal lle mae awdurdodyddiaeth ar gynnydd, mae'n galonogol gweld fod ymrwymiad ein pobl ifanc i gydraddoldeb, heddwch a rhyddid yn gadarn. Mae'r newid yn eu barn am bwerau mawr y byd fel UDA a Tsieina'n adlewyrchu'r newid yn natur a deinamig dylanwadau byd-eang, tra bod canfyddiadau pobl ifanc gwledydd y G20 o Gymru'r un mor ddadlennol.
Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i feithrin cenhedlaeth eangfrydig ac agored sy'n awyddus i ymgysylltu'n rhyngwladol. Mae'n galonogol i weld pobl ifanc yng Nghymru sy'n edrych allan i'r byd, yn hyddysg am faterion rhyngwladol ac yn cael eu llywio gan werthoedd Cymraeg cadarn fel tegwch a chydweithredu. Gall Cymru fod yn hyderus o'i lle ar lwyfan y byd - boed hynny drwy gysylltiadau diwylliannol, masnachu, gweithredu'n ddyngarol, arloesedd gwyddonol a chreadigol, neu ddiplomyddiaeth. Rhaid i'r DU a Chymru sefyll fel grym er daioni mewn byd cynyddol ranedig.
"Mae'r British Council yn cefnogi'r uchelgeisiau hyn drwy gysylltu'r DU â'r byd drwy addysg, diwylliant ac iaith. Rydym yn helpu i feithrin yr ymddiriedaeth a dealltwriaeth sy'n sail i heddwch a ffyniant. Yn nhirlun rhyngwladol rhanedig ein byd ni heddiw, mae'r cysylltiadau hynny'n bwysicach nag erioed."
Canfyddiadau Byd-eang 2025 yw'r diweddaraf mewn cyfres o adroddiadau ymchwil gan y British Council sy'n edrych ar ganfyddiadau pobl ifanc ar draws gwledydd y G20 a'r DU o ddylanwad, dibynadwyedd ac atyniad gwahanol wledydd. Gellir darllen yr adroddiad llawn yma: https://www.britishcouncil.org/global-perceptions-2025
Mae cyfres ymchwil Canfyddiadau Byd-eang yn parhau gwaith y British Council o feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng y DU a'r byd drwy addysg, y celfyddydau ac addysgu'r iaith Saesneg. Mae mwy o wybodaeth am waith y British Council yng Nghymru ar gael yma: https://wales.britishcouncil.org/ neu dilynwch ni ar X, Facebook neu Instagram.